Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 5th DECEMBER 2022

Teithio llesol yw’r llwybr i helpu ein problemau iechyd

Mae cyffredinrwydd gordewdra yng Nghymru ar gynnydd, efo rhagfynegiadau’n ei ddangos fel y bydd yr her iechyd cyhoeddus fwyaf ein gwlad cyn bo hir. Mae ysgogi a chefnogi pobl i symud yn fwy’n allweddol i drechu’r her yma. Yma, mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru Nathan Brew yn ei rôl fel llysgennad Pwysau Iach: Cymru Iach, yn rhannu ei farn ar pam fod cerdded, olwyno neu seiclo’n cynnig atebion dilys i’r broblem o ddisymudedd.

Llysgennad Pwysau Iach: Pwysau Cymru, Nathan Brew, sy'n trafod pwysigrwydd cadw'n heini trwy deithio llesol. (Llun gan: Nathan Brew)

Creu amgylcheddau llesol sy’n annog pobl i symud yn fwy

Mae cyffredinrwydd gordewdra’n codi yng Nghymru.

Mae bron i ddau ym mhob tair o oedolion yn nail ai’n orbwys neu’n dioddef o ordewdra.

Ac mae’n cael ei rhagweld ei bydd yn goddiweddyd ysmygu fel prif her i iechyd cyhoeddus y wlad.

Mae’r hyn rydym yn ei fwyta a pha mor egnïol ydym, dydyn nhw ddim yn deillio’n unig o’r dewisiadau y mae unigolyn yn ei wneud.

Mae ‘na llawer o ffactorau sy’n cyfrannu, yn enwedig yr amgylchedd rydym yn fyw, gweithio, a chwarae ynddo.

Mae galluogi amgylcheddau egnïol – fel gwneud mannau gwyrdd, cyfleoedd chwaraeon a hamdden yn fwy hygyrch – yn un ffordd y gallwn ysgogi a chefnogi mwy o bobl i symud.

Ac mae’n rhaid i ni sicrhau taw cerdded a seiclo yw’r dewisiadau teithio amlwg o safbwynt diogelwch, cyfleustra, a chost.

 

Creu amser ar gyfer ymarfer corff yn ystod ein harferion dyddiol a phrysur

Dylai oedolion anelu at fod yn actif bob dydd, gyda chyfanswm o tua dau a hanner awr o weithgarwch cymedrol bob wythnos.

Ar yr wyneb, gall hyn swnio fel targed brawychus i ffitio i mewn i'n bywydau prysur.

Ond un o'r ffyrdd hawsaf o gynyddu faint o weithgaredd a wnawn yw ymgorffori symudiad yn ein trefn o ddydd i ddydd.

 

Manteision ar led a gwella adnoddau

Mae teithio’n llesol yn ffordd wych o wneud hyn.

Gallwch geisio cerdded eich taith ddyddiol i’r gwaith, beicio i godi’r plant o’r ysgol, neu gerdded i’r siopau.

Nid yn unig mae teithio llesol yn well i’n hiechyd corfforol a meddyliol, ond mae llai o geir ar ein ffyrdd yn helpu i leihau tagfeydd, llygredd aer ac allyriadau carbon.

Mae newid i deithio llesol yn wirioneddol bwysig wrth i ni fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi buddsoddi llawer o arian mewn Rhwydweithiau Teithio Llesol, gan greu llwybrau cerdded a beicio diogel ar draws y wlad.

Yn ogystal, mae gan rai trefi a dinasoedd bellach gynlluniau llogi beiciau sy'n darparu dewis arall, sy'n aml yn rhatach, yn lle trafnidiaeth gyhoeddus neu yrru.

 

Aflonyddu’r arferion trwy newid ymddygiadol

Gwyddom fod ein hamgylchedd presennol yn aml wedi’i gynllunio i gefnogi’r defnydd o geir dros gerdded neu feicio.

Mae hyn yn golygu ein bod yn tueddu i wneud penderfyniadau teithio yn seiliedig ar gyfleustra a diogelwch canfyddedig dros fuddion iechyd a lles ehangach.

Fodd bynnag, bydd y gwelliannau a gyflawnwyd drwy fuddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru mewn teithio llesol, ymhen amser, yn ein helpu i ailystyried y ffordd yr ydym yn cymudo ac yn gwneud teithiau lleol.

Rwy’n meddwl ei fod yn helpu i adeiladu trefn o gwmpas ymgorffori symudiad yn eich bywyd bob dydd.

 

Cadw ein hunain yn actif, efo’n gilydd

Er enghraifft, yn fy nheulu, rydyn ni'n cynnal sesiwn rhedeg teulu bron bob penwythnos lle mae'r plant hynaf yn rhedeg gyda fy ngwraig, tra rydw i'n gwthio'r bygi ddwbl gyda'n dau ieuengaf.

Rydym hefyd yn ymweld â’r gampfa gyda’r ddau hynaf ddwywaith yr wythnos yn syth o’r ysgol, sy’n drefn fach braf.

Rydym hefyd yn mynd i mewn i heriau cam yn eithaf aml, gyda'r plant bob amser yn ennill!

 

Mae’n rhaid bod yn ymdrech cydweithredol

Gall busnesau hefyd fod yn gwneud eu rhan i annog eu gweithlu i deithio’n llesol.

Dylent hyrwyddo’r manteision o symud i staff.

A dylent hefyd cynnig mannau parcio diogel i feiciau a chyfleusterau newid, a chyflwyno cymhellion i gerdded neu feicio.

Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae i’w gwneud hi’n haws i bobl fyw bywydau iachach.

Mae’n rhaid i ni ddarparu lleoliadau ac amgylcheddau iach.

Ac mae’n rhaid cefnogi pobl o bob oed i wneud dewisiadau iachach o ran bwyd a gweithgaredd.

Erbyn 2030, rydyn ni eisiau gwneud y dewis iach, y dewis hawdd yng Nghymru.

A thrwy weithio gyda’n gilydd gallwn helpu pobl Cymru, a chenedlaethau’r dyfodol, i fyw bywydau hirach a gwell.

I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru, ewch i llyw.cymru/strategaeth-pwysau-iach.

 

 

Canfyddwch sut mae Sustrans yn gweithio yng Nghymru i sicrhau bywydau hapusach ac iachach i bobl.

Share this page

Darllenwch am ein gwaith diweddaraf yng Nghymru.