Sefydlodd Sally ei busnes, Y Beic Chai, ar ôl iddi fenthyg e-feic cargo trwy brosiect E-Symud Sustrans, a ariannir gan Lywodraeth Cymru. Gan werthu tê Masala cartref o’i e-feic cargo, mae Sally’n bwriadu cysylltu efo cymuned Aberystwyth.
Mae Sally a'r Beic Chai wedi darparu paneidiau twymol o de Masala i bobl o gwmpas Aberystwyth. Llun: Sally Pierse.
Brodor o Aberystwyth yw Sally Pierse a phenderfynodd, ar ôl symud nôl i’r ardal, i sefydlu busnes ei hun ar gefn beic.
Benthycodd hi e-feic cargo o brosiect E-Symud Sustrans, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, a sefydlodd hi ei busnes, Y Beic Chai.
Dechreuad ar daith a chychwyn ar bethau
Clywodd Sally am E-Symud ar lafar gan ffrindiau sy’n cynnal Eco Hwb Aber ble roedd benthyciadau’r e-feiciau’n cael eu darparu fel rhan o’r prosiect.
Ar ôl siarad efo’r swyddogion prosiect lleol, roedd angen iddi aros ychydig cyn i’r e-feic caro delfrydol bod ar gael o gyfrannog arall.
Ond, unwaith roedd argaeledd, cafodd Sally y cyfle i dreialu modelau gwahanol.
“Roedd y swyddogion prosiect yn wasanaethgar iawn gan adael i mi roi dro ar y gwahanol fodelau o feic,” meddai Sally.
“Roedd penderfynu pa fodel oedd y gorau i mi yn hynod o hanfodol oherwydd yn amlwg chi sydd am ei ddefnyddio, felly ‘dych chi eisiau gwybod sut mae pethau am fynd.”
Cludo te ac ymgysylltu â’r gymuned
Gan benderfynu am e-feic cargo XYZ, medrodd Sally i’w addasu i’r Beic Chai, fel “caffi pop-up”.
Mae Sally yn gwneud chai Masala adref, gan ddefnyddio cynhwysion lleol, ac yna’n cludo’r e-feic cargo i lefydd gwahanol yn Aberystwyth yn ogystal â digwyddiadau gwahanol.
Y bwriad yw i ddefnyddio’r Beic Chai i sbarduno ymgysylltiad ymhlith y gymuned leol.
“Holl ysbryd Y Beic Chai yw annog trigolion Aberystwyth i hamddena yn ardaloedd poblogaidd eu cymuned,” mae Sali’n esbonio.
“Yr hyn sy’n wych am gael busnes ar gefn beic yw oherwydd ei fod yn mor symudol, gallaf ei gymryd i lefydd ble nad yw pobl yn dod at ei gilydd fel arfer oherwydd nad oes unrhyw le iddynt wneud hyn.”
Fel arfer mae Sally’n arlwyo i farchnadoedd ffermwyr lleol, gwyliau, caffis trwsio, a ffeiriau i gyd oddi ar ei beic.
Mae hi hefyd yn gweithio i greu cysylltiadau rhwng y bobl wahanol o fewn cymuned Aberystwyth.
Er enghraifft, mae hi’n gobeithio creu cwsmeriaid efo’r nofwyr dŵr oer a grwpiau chwarae ar ôl ysgol.
“Rwy’n ceisio creu cysylltiadau efo mudiadau cymunedol – dyna ‘dy’r syniad tu ôl iddi a dyna ‘dy sut rwy’n ceisio defnyddio fy meic.”
Nod busnes-ar-feic Sally yw sefydlu cysylltiadau yn y gymuned. Llun: Sally Pierse.
Ydy beiciau’n wir allu creu’r fath newid?
Mae Sally’n esbonio sut mae symudedd ei e-feic cargo’n ganolog i ethos ei nod o gysylltu â phobl, a dyna sydd wedi gwneud yr holl syniad yn bosib.
“Y peth ‘dw i’n caru am fusnesau ar gefn beiciau yw eu bod nhw’n mor gynaliadwy,” mae hi’n esbonio.
“Yng nghyd-destun argyfwng hinsawdd heddiw, mae gwir angen i ni fod yn meddwl am ffydd arloesol o weithio ac mae cael beic trydanol yn fodd syml iawn o gael busnes sy’n gynaliadwy iawn.”
Er bod yna dal i fod amheuwyr am ddefnydd e-feiciau ac e-feiciau cargo ar gyfer busnes, mae pobl yn eu defnyddio nhw – nid yn unig am resymau amgylcheddol, ond am effeithiolrwydd busnes hefyd.
Mae Sally wedi canfod pobl eraill ar led y DU sydd hefyd yn rhedeg busnesau ar gefn beic.
“Mae yna gariad gwirioneddol am y ffordd mae busnesau ar feiciau’n eich caniatáu i farchnata mewn ffordd wyrddach, mwy hyblyg, mwy serchog,” meddai Sally.
“Mae’n fach o newyddbeth, yntydi – gweld rhywun yn teithio ar feic mawr, mae’n dod â llawen i bobl.”
Cysylltiadau i ddiwylliant a chynefin trwy seiclo
Er iddi fod ar ei ddechrau, nod Sally yw i barhau i dyfu’r Beic Chai ac i gryfhau cysylltiadau yn Aberystwyth.
Mae hi hefyd yn dymuno chwilio allan mwy o bobl sy’n rhedeg busnesau oddi ar eu beiciau.
“Rwy’n dychmygu’n gyfrinachol am y baradwys yma ble ‘dyn ni gyd yn prynu ein nwyddau oddi wrth bobl ar eu beiciau yn y stryd!” dywed Sally.
Rhywbeth y mae Sally’n angerddol am yw’r iaith Gymraeg.
Ar ôl symud nôl i Aberystwyth ar ôl byw yn Lloegr, mae’r Beic Chai yn rhoi’r cyfle uniongyrchol iddi efo’r gymuned Gymraeg yn y dre.
“Rwy’n dymuno gosod fy hun nôl yn yr iaith – rwyf eisiau hyrwyddo defnydd Cymraeg beunyddiol, fel dysgwr,” meddai hi.
“Rydym yn eitha’ lwcus yn Aberystwyth gan fod y mwyafrif o’r boblogaeth naill ai’n siarad neu’n dysgu Cymraeg.
“Dyna ‘dy rywbeth rwyf wir eisiau hybu trwy fy musnes.
“Rwy’n ceisio gwneud popeth yn ddwyieithog ac rwy’n annog cyd-ddysgwyr i ddynesu ataf ac archebu trwy’r Gymraeg.”
Mae’r Beic Chai yn fusnes ecogyfeillgar, sy’n selog dros yr iaith Gymraeg, ac sy’n frwdfrydig dros gariad Sally am fusnesau bach – a hyn i gyd oddi ar gefn beic.
Os ydych chi’n byw yn Aberystwyth neu’r ardal gyfagos ac mae gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am E-Symud, cysylltwch â’n swyddog prosiect lleol, Jack, ar e-bost neu gan ffonio 07876 234112.
Darllenwch fwy am bobl yng Nghymru’n elwa o deithio’n llesol.