Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 18th JANUARY 2024

Y mapiau cyffyrddol trawsnewidiol wedi'u creu ar gyfer pobl ag amhariad ar y golwg

Mae prosiect peilot diweddar mewn cydweithrediad â’r Canolfan Arloesi Technolegol Cynorthwyol, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi edrych ar ffordd newydd o ymgysylltu â phobl ag amhariad ar y golwg, gan archwilio’r defnydd o argraffu 3D a mapiau cyffyrddol i gefnogi teithio annibynnol yng Nghymru. Gall defnydd mapiau cyffyrddol galluogi mewnbwn hanfodol oddi wrth bobl ag amhariad ar y golwg yng nghyd-destun dylunio ffyrdd teithio llesol.

Researchers setting up tactile 3D printed models on a table for a study.

Ymchwilwyr ATiC yn paratoi’r astudiaeth beilot efo modelau cyffyrddol. Llun: ATiC\Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cydweithiodd Sustrans a Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol ar brosiect sy’n medru newid ymgysylltiad ar gyfer pobl ag amhariad ar y golwg.

Archwiliodd y prosiect amrediad o dechnolegau gweithgynhyrchu, gan gynnwys argraffu 3D, i ddatblygu mapiau cyffyrddol, sy’n galluogi pobl ag amhariad ar y golwg i brofi a bwydo nôl ar gynlluniau dylunio trefol awgrymedig.

Digwyddodd yr astudiaeth beilot diolch i raglen £24m Accelerate Cymru, yn cael ei arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’i gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

 

Gwaith cydweithredol sy’n grymuso pobl

Cynhwysodd yr astudiaeth beilot tair mis pobl ag amhariad ar y golwg o’r ddechrau, efo aelodau mudiad Vision Impaired West Glamorgan yn hwyluso mapiau cyffyrddol, yn ogystal â mapiau argraffedig 3D, o wahanol ddyluniadau teithio llesol.

Cafodd y mapiau yma eu creu gan ddefnyddio prosesau cynhyrchu gwahanol i ddynodi’r ffordd gorau o gyfathrebu nodweddion dylunio trefol i bobl ag amhariad ar y golwg.

Un o amcanion y gwaith ymchwil hefyd oedd ymgysylltu pobl ag amhariad ar y golwg i gael deall yn well sut bydd cynlluniau teithio llesol yn eu heffeithio.

Yn ogystal â hyn, ceisiodd yr astudiaeth beilot i wneud penderfyniadau teithio llesol yn fwy cynhwysol, tra hybu arferion gorau newydd ac arloesol mewn ymgysylltiad cymunedol.

 

Cael effaith ar gymuned pobl ag amhariad ar y golwg

Dwedodd Andrea Gordon, Cadeirydd Vision Impaired West Glamorgan: “Mae pobl ag amhariad ar y golwg yn aml yn cael eu rhwystro rhag cyfrannu at ddatblygiad ffyrdd teithio llesol oherwydd nad yw cynlluniau yn cael eu darparu mewn ffurfiadau hygyrch.

“Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu awdurdodau lleol i ymgysylltu â thrigolion anabl, ond mae angen i ni ganfod ffordd haws i esbonio cynigion.

“Mae dyluniad ein strydoedd a’r amgylchedd adeiledig yn cael effaith enfawr ar ddiogelwch ac annibyniaeth pobl ag amhariad ar y golwg, felly gall teithio llesol gwneud mentro allan lot yn haws, neu lot yn anoddach.

“Gall mapiau cyffyrddol cyfrannu at y datrysiad pan fod ffyrdd teithio llesol yn cael eu dylunio efo cynhwysiad ar y brig o’r dechrau.”

A cyclist approaches a junction leading onto a road in a residential area.

Esiampl o le mae teithio llesol a phalmant botymog yn cwrdd ar ffordd boblogaidd. Llun: photojB\Sustrans.

Blockquote quotation marks
Gall mapiau cyffyrddol cyfrannu at y datrysiad pan fod ffyrdd teithio llesol yn cael eu dylunio efo cynhwysiad ar y brig o’r dechrau. Blockquote quotation marks
Andrea Gordon, Cadeirydd Vision Impaired West Glamorgan

Arloesi sy’n arwain at deithio llesol ar gyfer pawb

Mae canlyniadau’r astudiaeth beilot wedi dangos roedd defnydd mapiau cyffyrddol yn ddefnyddiol wrth ymgysylltu â phobl ag amhariad ar y golwg wrth iddynt fwydo nôl ar ddyluniadau trefol mwy amryfath, cynhwysol, a diogel.

“Dangosodd gwaith ymchwil rhagarweiniol gan ATiC a Sustrans Cymru roedd potensial i ddatblygu mapiau 3D cyffyrddol graddfa fach, cyferbyniad uchel i gyfathrebu bwriadoldeb cynllunydd gorau,” dwedodd Yolanda Rendón Guerrero, Cymrawd Arloesi ATiC.

“Ar gyfer yr astudiaeth beilot yma, canolbwyntiodd y tîm ar fapiau cyffyrddol gwahanol o ffyrdd bysiau sy’n cael eu rhannu â seiclwyr i ddynodi’u heffeithiolrwydd fel cyfrwng ymgynghori.

“Yna, darparodd ein tîm ymchwil medrau profi yn ein cyfleusterau eithaf y grefft i hwyluso a mesur perfformiad nodweddion gwahanol fapiau cyffyrddol a’u defnyddioldeb efo cyfranogion ag amhariad ar y golwg, efo cefnogaeth Vision Impaired West Glamorgan.

“Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth beilot yma yr angen am astudiaeth bellach i ddeall yn well y manteision sydd ar gael gan fapiau cyffyrddol cyferbyniad uchel fel cyfrwng ymgynghori.”

A young man with a visual aid crosses a cycle lane, with a cyclist approaching.

Gall y defnydd o fapiau cyffyrddol galluogi mewnbwn hanfodol o bobl ag amhariad ar y golwg. Llun: Alan McAteer/Sustrans.

Gwneud newidiadau sy’n arwain at effeithiau cadarnhaol

Arweiniodd Tim John, Ymgynghorwr Dylunio Teithio Llesol a dechreuodd y modd o ddatblygu dyluniadau 2D o isadeiledd teithio llesol mewn i fapiau cyffyrddol, ar ddatblygiad y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer argraffu 3D.

Dyluniodd Tim mapiau cyffyrddol digidol o isadeiledd teithio llesol wedi’ seilio ar Ganllawiau Ddeddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Gan ddefnyddio’r dyluniadau yma, aeth ATiC ati i’w ymchwilio a’i choethi ar gyfer prosesau cynhyrchu gwahanol, i greu cynddelwau o fapiau cyffyrddol, cyn profi nhw efo aelodau o Vision Impaired West Glamorgan.

Medd Tim, sydd wedi gweithio’n eang yn y sector teithio llesol yng Nghymru: “Trwy ddatblygu ffyrdd teithio llesol sy’n hollol gynhwysol, bydd yn cynorthwyo datgloi potensial llawn newid dulliau teithio.

“Bydd defnydd map cyffyrddol fel offeryn yn galluogi grŵp o ddefnyddwyr sy’n aml yn cael ei gau allan o’r broses dylunio i ddweud ei dweud ar ddatblygiad yr amgylchedd adeiledig.

“Tra bod manteision y grŵp yma’n rheswm digonol i greu arferion ymgysylltu newydd, mae’r manteision o ddyluniadau hollol gynhwysol yn ymestyn i bob un defnyddiwr, heb ots os ydynt yn hen neu’n ifanc, rhieni yn symud efo plant neu bobl efo symudedd cyfyngedig.”

 

Newid pethau er mwyn cynnwys pawb

“Mae dros 110,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw efo rhyw fath o amhariad ar y golwg,” dwedodd Ryland Jones, Pennaeth Cymunedau Cysylltiedig yn Sustrans Cymru.

“I sicrhau bod pobl ag amhariad ar y golwg yn gallu ymgysylltu’n llawn â chynigion dylunio newydd sy’n addas i’r pwrpas, gall modelau 3D argraffedig cyfrwng rhyngweithiol er mwyn i bobl dehongli gan gyffwrdd.

“Golygir hyn bod y rheini sy’n cael eu heffeithio’r mwyaf gan benderfyniadau dylunio trefol nawr yn gallu profi ar unwaith yr hyn sy’n cael ei awgrymu.”

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru