Mae rhaglen Teithiau Iach Sustrans yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i greu diwylliant sy'n ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, sgwtera neu feicio.

Rydym yn cefnogi Hyrwyddwyr Ysgol ac yn cydweithio â chysylltiadau mewn Awdurdodau Lleol i helpu i wella llwybrau a datblygu ymagweddau ysgol gyfan i deithio mewn modd iachach.
Mae ystod o weithgareddau ymgysylltu yn helpu i adeiladu'r hyder, brwdfrydedd a'r sgiliau sydd eu hangen i helpu i ffurfio arferion teithio iach newydd.
Mae'r gweithgareddau a'r gwersi hyn yn cefnogi ymdrechion ysgolion i ennill gwobrau Eco-Sgolion ac Ysgolion Iach yn ogystal â gweithio tuag at wobr Nod Ysgol Sustrans sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn teithio cynaliadwy.
Mae'r Rhaglen Teithiau Iach yn cynnig:
- arweiniad a chefnogaeth i’r ysgol wrth gynllunio ac ymdrin â materion teithio penodol yn eich ysgol chi
- gweithgareddau a gwersi gan ein harbenigwyr
- cymelliadau i hyrwyddo teithio llesol i gymuned yr ysgol
- mynediad at ein canllawiau gweithgaredd, gwersi cwricwlwm a heriau.
Mae ysgolion sy'n cymryd rhan yn:
- cwblhau arolygon teithio blynyddol
- sefydlu o leiaf dau Bencampwr Teithiau Iach
- cynnwys disgyblion yn eich cynllunio
- gweithio tuag at ddarparu storfeydd beic a sgwter o safon uchel
- mynychu ein cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer athrawon
- hyrwyddo teithio llesol yn weithredol drwy gyfarfodydd boreol a gweithgareddau.
Gwnewch gais i ymuno â'r Rhaglen Teithiau Iach
Mae ysgolion sy'n derbyn cefnogaeth gan y Rhaglen Teithiau Iach yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc a theuluoedd sy'n teithio i'r ysgol yn weithredol.
Os hoffech chi ymuno â'n Rhaglen Teithiau Iach, cwblhewch y ffurflen gais isod.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, edrychwch ar ein taflen Teithiau Iach:
Dadlwythwch daflen am y Rhaglen Teithiau Iach
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch 02920 650602.