Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 27th FEBRUARY 2024

Cymru’n mwynhau manteision helaeth o ganlyniad i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ond Sustrans yn galw am weithrediad ar frys i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Ased cenedlaethol yw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sydd ag effeithiau positif helaeth ar les ac iechyd pobl, yn ogystal â’r economi, yn ôl adroddiad newydd gan Sustrans Cymru. Mae Cerdded, Olwyno a Ffynnu yn edrych ar sut mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd ati’n weithredol i gyflawni amcanion lles Cymru.

A walker on an NCN route in Wales, with an estuary either side of the path.

Mae adroddiad newydd gan Sustrans Cymru yn tanlinellu’r fath raddau mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn effeithio’n bositif ar fywydau pobl. Llun gan: Abhijith Sebastian.

Mae adroddiad newydd gan Sustrans Cymru’n dangos gwerth y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Mae Cerdded, Olwyno a Ffynnu: Lles a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru yn gosod allan sut mae’r Rhwydwaith yn cyfrannu yn erbyn pob un o saith Amcan Lles Cenedlaethol Cymru.

A Millennium Milepost on NCN 5 in front of Flint Castle.

Mae’r Rhwydwaith yn gasgliad o lwybrau a ffyrdd sy’n cael eu defnyddio’n aml gan bob math o berson. Llun gan: Kim Williams.

Beth yw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol?

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol – yn aml yn cael ei gyfeirio at fel y RBC – yn rhwydwaith ar led y DU o lwybrau a ffyrdd arwyddedig sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer cymudo, ar gyfer hamdden, ac ar gyfer twristiaeth.

Mae’n cynnwys ffyrdd di-draffig a ffyrdd â chyfraddau isel o draffig, ac er ei enw mae’r rhan fwyaf yn cynnwys llwybrau cyd-ddefnyddio.

Mae bron i 60% o boblogaeth Cymru’n byw o fewn milltir i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ac mae’n rhedeg trwy bob un o’r 22 ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru.

Three cyclists on a rural NCN route, with green hills around them.

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg trwy bob rhan o Gymru a gellir ei chanfod ymhob sir. Llun gan: Abhijith Sebastian.

Effeithiau cadarnhaol ar draws bywydau pobl yng Nghymru

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol wedi’ ddangos i gael nifer o fanteision ar fywydau pobl, yn nhermau lles ac iechyd pobl, yn ogystal ag yn ariannol.

Cadarnhaodd pobl a gafodd ei arolygu ar eu rhesymau dros ddefnyddio’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ei fod yn chwarae rôl hynod o bositif yn eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Dwedodd 83% of ddefnyddwyr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn y DU ei fod yn gwella eu boddhad cyffredinol mewn bywyd, a dwedodd 70% eu bod nhw’n defnyddio’r Rhwydwaith i wella eu lles.

Mae gweithgaredd corfforol ar y Rhwydwaith hefyd wedi’ amcangyfrif i atal bron a bod 600,000 o ddyddiau salwch.

Yn ôl yr adroddiad, mae busnesau lleol ar draws y DU wedi elwa gan amcangyfrif o £1.7 biliwn gan ddefnyddwyr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

A landslip on NCN 4 by Wisemans Bridge in Pembrokeshire.

Mae tirlithriadau a llifogydd yn digwydd yn gyflym ac yn hollti'r Rhwydwaith. Llun gan: Cyngor Sir Penfro.

Angen ar frys ar gydnabyddiaeth a chefnogaeth

Er hyn, mae Sustrans yn rhybuddio bod angen gweithrediad ar frys i ddiogelu’r ased pwysig yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r elusen yn dweud bod effaith tywydd eithafol yn arwain at broblemau sylweddol sy’n gallu cau ffyrdd yn gyfan gwbl.

Mae llifogydd a thirlithriadau’n digwydd yn gyflym iawn, yn torri cysylltiadau rhwng cymunedau am gyfnodau sylweddol efo costau atgyweirio uchel.

Yn Wisemans Bridge, Sir Benfro, mae rhan o RBC 4 wedi’ gau yn gyfan gwbl yn dilyn tirlithriad mawr.

Yng Nghonwy, mae Pont Ddulas angen trawstiau newydd ar ôl cael difrod o ganlyniad i lifogydd diweddar.

Mae rhwystr mawr arall wedi' achosi gan dirlithriad wedi golygu bod rhan o'r Llwybr Ystwyth ar gau.

Mae Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, yn esbonio:

"Nid yw Rhwydwaith sy'n heneiddio yn gallu gwasanaethu anghenion y dyfodol, felly mae angen i ni fod yn rhagweithiol a buddsoddi mewn rhwystrad nawr cyn ei fod yn rhy hwyr,” medd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru.

“Os nad ydynt yn amddiffyn y Rhwydwaith nawr, byddan yn colli’r holl fanteision cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd sy’n mor bwysig i bobl Cymru.

“Rydym yn gweithio'n gadarnhaol efo Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar led y wlad i warchod, gwella, a sicrhau bod y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn parhau i wasanaethu pobl Cymru, ond mae 'na brys yma i sicrhau nad ydym yn colli'r hyn mae'r Rhwydwaith yn rhoi i ni."

 

Darllenwch yr adroddiad Cerdded, Olwyno a Ffynnu: Lles a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru yn llawn.

 

Cefnogwch y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a’r gwaith rydym yn wneud i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru