Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 27th OCTOBER 2022

Newid i deithio cynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru: Stori Tim

Un o’r heriau mwyaf sy’n dod o fyw yn wledig yng Nghymru yw’r trafferthion sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Yn aml mae llawer o bobl yn peidio ag unrhyw beth arall oni bai am ddefnyddio ceir preifat oherwydd credant nid oes unrhyw ddewis arall. Ond, yn y blog yma clywn sut lwyddodd un person i wneud y newid o yrru i deithio’n llesol ac yn gynaliadwy diolch i brosiect peilot e-feiciau a rennir gan Lywodraeth Cymru.

Trigolyn Dolfor, Tim Withers, ar ei e-feic cargo ar ôl iddo fynd mewn i'r dref. Llun gan: Tim Withers.

Gall drafnidiaeth bod yn broblemus yn ardaloedd mwy gwledig Cymru, yn enwedig pam eich bod chi’n byw ym Mhowys, sir fwyaf y wlad.

Gall wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus anghyson a diffyg isadeiledd ar gyfer teithio llesol atgyfnerthu perchnogaeth car preifat fel y prif fodd o deithio ar gyfer lot o bobl.

Er hyn, mae perchnogion busnes lleol, Tim a Helen Withers, wedi cymryd camau i herio hynny ar ôl iddynt wneud defnydd o’r prosiect E-Symud, menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi busnesau a mudiadau ar draws Cymru i fenthyg e-feic cargo am dri mis.

Mae’r cwpl yn rhedeg busnes gwely a brecwast The Old Vicarage yn Nolfor, pentrefan bach i’r dde o’r Drenewydd, tref fwyaf Powys.

Chwe gwaith yr wythnos, mae Tim yn seiclo’r tair milltir a hanner mewn i’r dre, yn cludo dillad golch yn ofalus ar ei e-feic cargo.

Trwy ddefnydd ei e-feic cargo, bu’n bosib iddo wneud tasgau angenrheidiol – cymryd y dillad golch mewn i’r Drenewydd, mynd siopa, cludo’r ailgylchu – heb angen ei gar.

 

Sut ddechreuodd y daith i ddewisiadau newydd o deithio

Dechreuodd y newid yn ymddygiadau teithio Tim yn Hydref 2021, ar ôl iddo fenthyg e-feic oddi wrth Sustrans trwy brosiect E-Symud Llywodraeth Cymru.

Mwynhaodd e’r profiad sut gymaint fel iddo benderfynu, ar ôl lot o waith ymchwil i brynu e-feic cargo yn Chwefror 2022.

Ers ‘ny, mae Tim wedi teithio 1,300 o filltiroedd ac arbed cannoedd o bunnoedd ar gostau car a thanwydd.

Mae gwefru’r e-feic cargo yn cymryd tua thair awr a hanner, yn costio oddeutu 40c yn gyfan gwbl, a gellir gwneud gan ddefnyddio plygiau cartref arferol – yn gwmws fel byddech ar gyfer eich tegell!

 

Dangos gall teithio amlfodd cael ei wneud yn ardaloedd gwledig Cymru

Mae’r Withers yn lwcus bod ganddynt wasanaeth bws sy’n dod trwy’r pentrefan bob dwy awr.

Er efallai nid yw’n swnio’n ddelfrydol, mae’n werth sylwi bod 12% o bobl yng Nghymru heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl.

Mae’r bws T4 yn cynnig dewis da arall o deithio i Helen a Tim, yn eu caniatáu nhw i arbed arian gan ddim ond rhedeg un car a chofleidio teithio amlfodd – teithio mewn gwahanol foddion – gan ddefnyddio’r bws a’r e-feic cargo.

Ar wahân i’r manteision ariannol, mae seiclo’n cadw Tim yn iachus ac yn gryf.

“Gan wybod bod pŵer y batri yna i’m helpu pan ‘dw i eisiau, mae’n f’annog i ddefnyddio’r beic, er dydw i ddim yn defnyddio’r pŵer llawer o’r amser”, dwedodd Tim.

Agwedd bositif arall i Tim yw’r ffaith nid yw seiclo’n cymryd mwy o amser na gyrru: “Gallaf gymryd ffyrdd byrrach a does dim angen i mi dreulio amser – neu wario arian – ar barcio.”

“Mae bod yn llesol tra fy mod i’n teithio’n golygu does dim angen i mi ddod o hyd i amser i wneud ymarfer corff, oherwydd rwyf wedi’ wneud yn barod!”

 

Medi’r manteision o deithio’n llesol, ac yn gynaliadwy

Mae’r penderfyniad i ddewis seiclo yn golygu bod Tim yn lleihau tagfa a’r allyriadau cerbydau sydd mor niweidiol i’n hiechyd a’r hinsawdd.

“Rwy’n credu’i fod yn wych bod Tim yn gofalu am ei iechyd a’n planed, a’r ffaith ei fod yn ei wneud rhywbeth amdani,” ychwanegodd Helen.

“Rydym hefyd newydd brynu sgwter trydanol, fel moped, fel i ni gael teithio arno gyda’n gilydd – ein bwriad yw i fynd yn hollol di-gar!”

Gan ddewis i deithio’n llesol – gan gerdded, olwyno, neu seiclo – mae ‘na cymaint o fanteision.

Gallwch leihau eich allyriadau sŵn a thagfa traffig, gallwch gysylltu’n gymdeithasol ar hyd eich teithiau, cael awyr iach, mwynhau golygfeydd wyrddach, ac osgoi’r gost a’r trafferth a all dod o ddefnyddio car.

 

Am y prosiect E-Symud

Prosiect peilot gan Lywodraeth Cymru a ddarparir mewn partneriaeth â Sustrans yw E-Symud, sy’n galluogi pobl i fenthyg beiciau trydanol.

Mae 20 o e-feiciau ar gael trwy’r prosiect i bobl, busnesau, a mudiadau yn Y Drenewydd a’r ardal gyfagos defnyddio.

Mae’r prosiect E-Symud hefyd yn rhedeg mewn dinasoedd a threfi eraill ar draws Cymru, gan gynnwys Abertawe, Aberystwyth, Y Barri, a’r Rhyl.

I siarad efo’n tîm am y prosiect E-Symud yn Y Drenewydd, cysylltwch â jack.neighbour@sustrans.org.uk neu galwch 07876 234112, os gwelwch yn dda.

 

I siarad efo ni am gefnogi Sustrans neu gynyddu cerdded, olwyno, a seiclo yn Y Drenewydd, cysylltwch â ruth.stafford@sustrans.org.uk neu galwch 07541 241163, os gwelwch yn dda.

Share this page

Darllenwch fwy am ein gwaith yng Nghymru