Ein gwaith yng Nghymru

Gyda'n gilydd, rydym yn gwneud Cymru yn lle iach a hapus i fyw, gweithio a chwarae.

Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid i sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at lwybrau cerdded a beicio diogel.

Sustrans yng Nghymru

Oddeutu 1,600 milltir

o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn derbyn gofal gennym ni

£75 miliwn y flwyddyn

o fuddsoddiad a grëwyd gan y Rhwydwaith yn economi Cymru

woman on bike traffic-free

Maniffesto 2021 Sustrans Cymru: Cymru yfory, i bawb

Mae Cymru yn wynebu rhai heriau dwys. O newid yn yr hinsawdd a llygredd aer i argyfyngau iechyd corfforol a meddyliol, mae’r pwysedd ar gymunedau ledled y wlad yn dwysáu. Nid oes bwled arian ar gyfer yr heriau hyn.

Maniffesto 2021 Sustrans Cymru: Cymru yfory, i bawb

Y newyddion diweddaraf yng Nghymru

Three children on bikes on a traffic-free path of the National Cycle Network. Their grown up cycles behind. The path is surrounded by trees in full leaf. It is a warm, bright, sunny day.

Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru

Cyfres o lwybrau di-draffig a llwybrau beicio a cherdded ar lonydd distaw sy’n cynnig cyfleoedd i deithio o ddydd i ddydd, cael anturiaethau a chwarae yw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru.

Archwiliwch ein llwybrau yng Nghymru neu cynlluniwch eich antur nesaf drwy chwilota llwybrau cerdded a beicio. 

Mae hefyd gennym daflenni a mapiau am ddim gallych lawrlwytho.

Dilynwch ein gweithgareddau yng Nghymru ar Facebook a Twitter am ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith nesaf neu ar gyfer awgrymiadau cymudo bob dydd.

man and woman on bikes in countryside

Prosiect Cysylltu

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru’n cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer teithio, darganfod a chwarae.

Mae gwella cysylltiadau rhwng cymunedau gwledig a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn hanfodol ar gyfer datblygiad economaidd, iechyd a llesiant lleol.

Mae’r prosiect Cydgysylltu’n amcanu gwella’r cysylltiadau rhwng y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol presennol ac 8 cymuned wledig ledled Cymru. Bydd y cysylltiadau newydd hyn yn darparu cyfleoedd i bobl leol gael mynediad at swyddi, gwasanaethau a chyrchfannau twristaidd gan ddefnyddio teithio llesol.

Cliciwch yma i fynd i'r wefan Cysylltu

Ein gwaith gydag ysgolion

Children walking across a road while a woman pushes a buggy in the background

Teithiau Iach i’r ysgol

Rydym yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru, gan alluogi mwy o blant i deithio i'r ysgol ar feic, sgwter ac ar droed.

Rhaglen Teithiau Iach yng Nghymru

Gallwch hefyd gofrestru i'n cylchlythyr Teithiau Iach

adults and children walking and scooting to school on footpath

Gwobr Ysgol Teithio Llesol

Cynllun achredu Sustrans ar gyfer teithio llesol mewn ysgolion. Wedi'i anelu at gynyddu teithio llesol mewn ysgolion, boed hynny'n cerdded, beicio neu sgwtera. 

Gwobr Ysgol Teithio Llesol

Children in school uniform walking and cycling

Newid Mawr Cymru

Her ar-lein am ddim i ysgolion yw Newid Mawr Cymru.

Cynlluniwyd i ysgogi cymuned yr ysgol yng Nghymru i deithio'n fwy gweithredol. Mae'r her yn gosod targedau i chi yn seiliedig ar sut mae disgyblion yn teithio i'r ysgol ar hyn o bryd. Gwnewch Gam Bach, Cam Fawr neu Naid Enfawr i gynyddu teithio llesol a chael cydnabyddiaeth am eich cyflawniadau.

Darganfyddwch fwy neu cofrestrwch

I weithio gyda ni yng Nghymru, cysylltwch â'n swyddfa yng Nghaerdydd ar sustranscymru@sustrans.org.uk.

Ymunwch â'n gwirfoddolwyr yng Nghymru

Rydym yn ffodus o gael 350 o bobl yn gwirfoddoli gyda ni ledled Cymru, gan gefnogi ein gwaith, gofalu am y Rhwydwaith a chodi ymwybyddiaeth o'r llwybrau gwych sydd gennym yma.

Gwirfoddolwch gyda Sustrans

Deddf Teithio Llesol (Cymru)

Cyflawni'r Ddeddf Teithio Llesol yng Nghymru

Gallwn weithio gyda chi i helpu i gyflawni'r dyletswyddau statudol sy'n ofynnol gan awdurdodau lleol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru).

  • Archwilio llwybrau a pharatoi datganiadau cyflwr llwybrau 
  • Ymgynghoriad cymunedol ar fapiau a datganiadau teithio llesol 
  • Dylunio mapiau a chanllawiau hawdd eu defnyddio 
  • Astudiaethau dichonoldeb ar gyfer llwybrau a rhwydweithiau newydd
  • Helpu i gyflawni cynlluniau effeithiol trwy ddylunio o ansawdd uchel

Mae gennym brofiad o gyflwyno, hyrwyddo a monitro ymyriadau effeithiol i annog teithio llesol a grymuso unigolion a chymunedau i greu gwell lleoedd i  diethio a byw, gan gynyddu lefelau teithio carbon isel ar gyfer teithiau lleol. 

Am fwy o wybodaeth ebostiwch sustranscymru@sustrans.org.uk.