Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 19th APRIL 2024

Rwy’n caru fy nhreic gorweddol, ond mae rhwystrau yn fy atal rhag mynd ble gall eraill: Stori Debbie

Mae Debbie yn feteran y Llu Awyr Brenhinol a thyfodd lan yn Sir y Fflint. Archwiliodd hi treiciau gorweddol fel modd o helpu efo’i chyflyrau iechyd a galluogi iddi fwynhau archwilio trwy feicio. Er yr agweddau positif o’i threic gorweddol, mae rhwystrau mynediad yn golygu nid yw hi ac eraill yn gallu mynd i’r un llefydd a phobl eraill.

A woman on her recumbent trike with Swansea Bay in the background. She's smiling at the camera, wearing sunglasses and a helmet.

Debbie on her recumbent trike, which has helped her to maintain being active, on the Swansea Bay cycle path.

Helo, fi 'di Debbie, ac rwyf yn feiciwr addasedig.

Golygir hyn fy mod i'n defnyddio e-treic gorweddol yn lle beic arferol, o ganlyniad i anabledd.

Dechreuais ddefnyddio treiciau gorweddol ar ôl sylweddoli nad oeddwn yn gallu defnyddio beiciau arferol yn bellach.

Rwyf wastad wedi cael trafferthion efo cydbwysedd wrth ddefnyddio beic a hyd yn oed wedi cwympo drosodd ambell waith.

 

Cyflyrau iechyd wedi cael effaith

Yn fy 40au, gwaethygodd pethau'n sylweddol gan i mi ddatblygu arthritis a chyflyrau iechyd eraill.

Cafwyd bod Ehlers-Dahlos syndrom gorsymudol a dyspracsia gennaf.

Golygir hyn fy mod i'n byw efo poen cronig, gorflinder, problemau gastroberfeddol, a phroblemau cydsymudiad, ac mae'n enghraifft o niwrowahaniaeth.

Mae'r diagnosisau yma'n esbonio fy nhrafferthion mewn bywyd a'r teimlad o fod ar wahân nad oeddwn i'n gallu egluro.

Teimlais iselder penodol am fod yn sâl a'r ffaith nad oeddwn i'n gallu defnyddio beic o ganlyniad i anaf, roedd yn rhan o'r broblem.

Cofiais weld beiciau gorweddol yn Yr Almaen pan oeddwn yn y RAF a dechreuais ymchwili beth oedd y peiriannau yma a chanfod roedd beicio addasedig yn bosibilrwydd gwirioneddol i mi.

 

Mudiadau hygyrchedd yn helpu mi i feicio unwaith eto

Canfyddais elusen leol yn agos i le ‘dw i’n fyw yn Swydd Gaerloyw oedd yn darparu offer beicio addasedig ar gyfer pobl anabl, ac es i yno i dreialu treic.

Cafodd ei weithredu gan ffisiotherapydd oedd yn gallu gweld sut gall beicio addasedig wir helpu pobl efo anafiadau ac anableddau i adfer a chael ymarfer corff mewn modd hwylus.

Gweithredodd yr elusen Wheels for All sesiynau ar drac athletau a hefyd yn Fforest y Ddena.

Helpodd y gallu i mi feicio yng nghanol natur yn wirioneddol efo fy iselder oherwydd roedd cerdded yn hynod o boenus.

Yn sydyn, teimlais yn fwy galluog a helpodd hynny’n fawr iawn i wella sut oeddwn yn teimlo.

Dros gyfnod yr argyfwng Covid, cefais fy nghynnig i fenthyg treic am gyfnod o dri mis a phrofodd hyn i fod yn help enfawr.

Roedd gen i’r rhyddid i gael ymarfer corff mewn modd nad oedd yn achosi mwy o niwed i mi ac oedd yn caniatáu i mi adeiladau lan ar gyflymder fy hun.

Ar yr un adeg, canfyddais ffrindiau newydd a datblygais sgiliau newydd.

A group of recumbent nine trike users parked side-by-side on a grassy verge for a group photo, on a sunny day.

Mae canfod grŵp o ddefnyddwyr treiciau gorweddol wedi helpu efo’i hadferiad a rhannu profiadau.

Nid yw teithio’n annibynnol heb ei rhwystrau

Yn y pen draw, symudais ymlaen at gael treic fy hun efo cynorthwy trydanol.

Golygir cynorthwy trydanol fy mod i’n dal i bedalu ond gallaf ddelio â bryniau a phellterau hirach – mae’r treic yn pwyso 35kg trwm, felly dydw i ddim yn twyllo o gwbl!

Dechreuais fynd ar deithiau hirach ac un o’r teithiau cyntaf oedd efo fy mrawd, sy’n feiciwr brwd.

Penderfynom wneud y llwybr o Gei Connah: un o’i hoff lwybrau yn croesi’r afon Dyfrdwy ac yn beicio ar hyd y llwybr, trwy’r corsydd hyd at Gaffi Net’s, arhosfa boblogaidd ar gyfer beicwyr penrhyn Cilgwri.

Mae’r ffordd wedi’ rwystro ar hyn o bryd gan ddau rwystr “A-frame” sy’n fy atal i rag defnyddio’r llwybr yn annibynnol.

Mae yna dau ger ochr Cei Connah ac un ar bwys y mynediad i groesfan Pont Dyfrdwy.

Rwyf wedi ymdopi hyd yn hyn gan fod fy mrawd yna efo fi a gan ofyn am help beicwyr eraill i godi fy nhreic dros y rhwystr.

A recumbent trike is positioned in front of an A-frame barrier on a cycle path, demonstrating how it's unable to pass through.

Esiampl o Debbie’n ceisio negodi un o’r rhwystrau “A-frame” efo’i threic hi.

Rhwystrau’n golygu bod rhai’n methu mynd ble gall eraill

Rwyf wir yn gobeithio gall y rhwystrau yma cael eu symud neu eu newid i rywbeth sy’n galluogi mynediad i mi heb yr angen i godi fy nhreic.

Nid yw’r rhwystrau yma dim ond yn fy atal i a defnyddwyr treiciau gorweddol eraill rhag defnyddio’r llwybr yma, ond hefyd pobl yn teithio efo plant mewn ôl-gerbydau beiciau, pobl yn cerdded efo bygiau dwbl, a phobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd.

Mae pob un ohonom yn ddefnyddwyr dilys, weithiau defnyddwyr ffyrdd bregus, sy’n cael ein hatal rhag defnyddio llwybr beicio, ased cymunedol rhagorol a dylai bod ar gael i bawb.

Dyma amser ble rydym yn cael ein hannog i gael mwy o ymarfer corff.

Mae beicio, olwyno, a cherdded yn foddion gwych o gael ymarfer, adloniant, a thrafnidiaeth.

Credaf fod gwneud y llwybrau yma’n hygyrch i deuluoedd a phobl anabl yn hanfodol o bwysig ar gyfer iechyd, lles, a’r amgylchedd.

Rwy’n rhan o nifer o grwpiau beiciau ar gyfer defnyddwyr gorweddol.

Rydym yn byw efo anabledd, ond mae cael defnyddio ein treiciau’n caniatáu i ni gynnal cryfder a ffitrwydd mewn ffordd sy’n lleihau perygl anaf.

Mae’n rhoi ffordd o gael mynediad at lefydd i ni na fuaswn yn gallu mewn unrhyw fodd arall a chael cymuned ble gallan rannu hwyl, gwybodaeth, ac adnoddau.

Buaswn wrth fy modd yn trefnu taith grŵp o Gei Connah i Gaffi Net’s, ond bydd hyn yn parhau i fod yn amhosib nes i’r rhwystrau yma cael eu gwaredu neu eu symud.

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru