Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 18th JANUARY 2023

Hanes Lauren: Fy mhrofiadau o weithio a gwirfoddoli ar gyfer Sustrans

Ar ôl iddi golli ei swydd yn y sector celfyddydau yn ystod y pandemig, llwyddodd Lauren i ganfod swydd fel Swyddog Cynorthwyol yn Sustrans Cymru. Ers hynny, mae hi ‘di llwyddo i ddychwelyd i weithio yn y celfyddydau, ond mae hi’n parhau i gefnogi Sustrans trwy wirfoddoli. Yn y blog yma, mae Lauren yn trafod ei phrofiadau a’i hoff agweddau o wirfoddoli.

An image of Sustrans volunteer, Lauren, whilst she's out on a litter pick. The image shows Lauren, in a high-vis tabard, in front of some greenery, holding a litter picker and looking into the camera.

Ers canfod Sustrans, mae Lauren wedi mynd ymlaen i weithio a gwirfoddoli dros y mudiad. (Llun gan: Lauren McNie)

Dechreuais weithio ar gyfer Sustrans Cymru fel Swyddog Cymorth yn fis Medi 2020, ar ôl i mi golli’n swydd yn y gelfyddyd o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.

Doeddwn i erioed ‘di clywed am Sustrans cyn ymgeisio, ond ar ôl darllen am waith yr elusen roeddynt yn ymddangos fel mudiad gwych i weithio ar gyfer, ac roeddwn yn gyffrous pan gefais y swydd.

 

Cipolwg ar yr hyn roddodd Sustrans i mi

Roedd dechrau swydd newydd yn ystod pandemig byd-eang yn sefyllfa frawychus, ond roedd fy nghydweithwyr mor groesawgar, cefnogol, a chynorthwyol (er i ni gyd gweithio’n rhithwir i ddechrau).

Gweithiais yn Sustrans am flwyddyn, cyn dychwelyd i weithio ymhlith fy mhrif angerdd, y gelfyddyd, unwaith i theatrau ailagor ar ôl y cyfnodau clo.

Carais weithio ar gyfer Sustrans ac roeddwn yn drist i adael, felly penderfynais i wirfoddoli.

Caniataodd hyn i mi barhau i fod yn rhan o’r mudiad a chadw mewn cysylltiad efo’r ffrindiau hyfryd gwnes i yno.

Rhan o’n rôl fel Swyddog Cymorth oedd cynorthwyo’r Rheolwr Cyfathrebu efo cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Mi wnes i wirioneddol mwynhau’r rhan yma o’r swydd a meddyliais bydd yn ffordd dda i mi wirfoddoli o gwmpas fy swydd newydd llawn amser.

 

Beth mae fy ngwirfoddoli’n cynnwys a sut rwy’n aros ynghlwm

Felly nawr rwy’n tueddu i greu negeseuon ar Drydar ar gyfer dyddiau ymwybyddiaeth a’u cysylltu i’r gwaith mae Sustrans yn gwneud.

Er enghraifft, ar Ddiwrnod y Llyfr rhannais neges am y lleoliadau llenyddol o wahanol lyfrau i blant a all cael eu canfod ar hyd y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau rhannais stori Amanda, sy’n ddarn pwerus iawn.

Yn ei blog, siaradodd Amanda am ddefnydd beic addasedig o’r enw “Ice Trike” a phwysigrwydd llwybrau di-draffig a heb rwystrau ar gyfer pobl ag anghenion hygyrchedd.

An image of NCN Route 884 - the image shows the route, which is surrounded by vegetation and some trees, on a sunny day with blue skies with a cyclist in the distance. There's also a disused railway path running alongside the cycle path.

Mae gwirfoddoli Lauren yn cynnwys mynd allan ar a helpu i gynnal a chadw'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. (Llun gan: Tim Morris/Sustrans)

Cysylltu â gwirfoddolwyr eraill trwy fy rôl

Rwyf hefyd yn rhannu negeseuon pwysig o’r prif gyfrif Sustrans ar Drydar i adael i’n ddilynwyr yng Nghymru gwybod am ein gwaith ar draws y DU.

Mae cadw ar flaen y gad efo prif gyfrif Sustrans yn golygu gallaf ddiweddaru’n hun efo’r hyn sy’n mynd ymlaen ar led yr holl fudiad.

Un o’n hoff gyfrifon yw un ein Ceidwaid Gwirfoddol yn Ogledd Ddwyrain Cymru.

Rwyf yn dueddol o ail-rannu eu negeseuon a’u lluniau, i arddangos y gwaith anhygoel maent yn gwneud i gynnal a chadw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, i gadw’n glir ac yn ddiogel i bawb.

Mae’n mor ysbrydoledig i ddarllen a gweld yr hyn maent yn gwneud, i weld sut maent yn dod at ei gilydd a mwynhau’ hun wrth iddynt wneud rhywbeth i helpu’r gymuned.

Rwyf yn defnyddio negeseuon ein Rhodwyr i hyrwyddo’r cyfleoedd i wirfoddoli sydd yng Nghymru, oherwydd mae’n rhoi mewnwelediad ar wirionedd gwirfoddoli ar gyfer Sustrans i unrhyw un sy’n ei hystyried.

 

Llwyth o ffyrdd i ymgymryd â phethau trwy wirfoddoli

Yn gyfochrog â’r cymorth ar gyfryngau cymdeithasol, rwyf hefyd ambell waith yn dodi’n fest hi-vis ymlaen a mynd allan i gasglu sbwriel yn f’ardal leol.

Y peth gorau am wirfoddoli efo Sustrans yw gallwch gyfrannu cymaint – neu gynlleied – â hoffech wneud, felly mae’n wirioneddol hawdd i wirfoddoli o gwmpas eich ymroddiadau eraill.

Ac efo casglu sbwriel, mae hefyd yn esgus hyfryd i fynd allan a chael awyr iach ac ychydig o ymarfer corff.

Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli am dros flwyddyn nawr a buaswn i wir yn ei hawgrymu i unrhyw un sy’n chwilio am reswm i gael awyr iach, am unrhyw un sydd eisiau gwneud ffrindiau newydd, neu sydd eisiau cyfrannu nôl i’w cymuned.

Share this page

Darllenwch am y newyddion diweddaraf o Gymru