Un o fuddiolwyr y prosiect E-Symud oedd Rik Mowbray, prosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig y cyfle i bobl ar draws Cymru’r cyfle i fenthyg e-feic neu e-feic cargo am ddim. Yn y blog yma gan Rik, mae’n siarad am ei brofiad positif o ddefnyddio e-feic cargo a sut newidiodd pethau iddo.
Trwy'r prosiect E-Symud, cafodd Rik y cyfle i sefydlu busnes bach a gweld modd gwahanol o deithio. (Llun gan: Rik Mowbray).
Dros y cyfnod clo, defnyddiais fy meic ac ôl-gerbyd i helpu ffrindiau a chymdogion gan gasglu nwyddau a gwneud ambell beth gwaith iddynt.
Yn y modd yma dechreuais fusnes bach garddio fy hun, a gweithiodd yn dda dros y cyfnod clo pan oedd llai o draffig ar yr hewlydd.
Ar ôl i’r cyfnod clo gorffen daeth yn glir yn gyflym iawn roedd angen i mi gael fy moduro, rhywsut.
Cael dechreuad, teimlo’r gefnogaeth
Cysylltais efo’r swyddog prosiect E-Symud lleol yn Aberystwyth, ar ôl darllen erthygl am y prosiect yn y papur lleol.
Cafodd cyfarfod ei drefnu, a chefais gymorth wrth gwblhau’r gwaith papur angenrheidiol ar gyfer y benthyciad, yn ogystal â pheth hyfforddiant.
Ar ôl hynny, cefais yr Urban Arrow e-feic cargo i’w ddefnyddio.
Cafodd Rik y cyfle i weld manteision dulliau eraill o deithio diolch i'r brosiect E-Symud. (Llun gan: Rik Mowbray).
Sut helpodd yr e-feic cargo o ddydd i ddydd
Ar ddiwrnod gwaith arferol, byddaf yn seiclo i fy nghwsmeriaid o fewn chwe milltir o le ‘dw i’n byw, yn llwythog efo f’offer ar gyfer y diwrnod i ddod.
Bydd joben arferol yn cynnwys chwynnu ffiniau neu blannu coed, ble byddaf yn cludo hyd at 100 o goed bach a rhaw ar yr e-feic cargo, yn barod i fynd a’u plannu nhw.
Roedd yr Urban Arrow yn ffordd wych o hyrwyddo fy musnes oherwydd roeddwn i’n gallu dodi’n logo ar ochr yr e-feic cargo.
Denodd y beic lot o sylw, a chanfyddais pan oeddwn yn seiclo o gwmpas bydd pobl yn fy nghyfarch efo gwen neu ddweud doeddynt erioed ‘di gweld y fath beth o’r blaen.
Efallai roedd yn helpu roeddwn i’n chwarae cerddoriaeth yn lle canu cloch i adael i bobl gwybod roeddwn i ‘na, hefyd.
Eisiau cyfrannu rhywbeth nôl
Ar ôl cael sut brofiad positif fy hun, cefnogais un o ddiwrnodau ‘rhowch gynnig arni’ y prosiect E-Symud yn Aberystwyth.
Gan fod yn rhan o hynny, cefais y cyfle i weld gwenau pobl wrth iddynt roi cynnig ar y gwahanol e-feiciau ac e-feiciau cargo ar gael.
Roedd pobl yn cael gweld dewis hollol wahanol i yrru o gwmpas mewn can tun neu aros am drafnidiaeth gyhoeddus.
Cefais fy nghroesawu a theimlais angerdd cynllun Sustrans – heb hyn, ni fuaswn wedi gwerthu fy meic modur a buddsoddi mewn e-feic cargo fy hun.
Gadawodd y prosiect E-Symud i mi wneud penderfyniadau gwybodus ar yr hyn roeddwn i eisiau a’r hyn nad oeddwn i eisiau, ac erbyn nawr mae pobl yn f’adnabod fel y “Garddwr ar Feic.”
Am y prosiect E-Symud
Mae E-Symud yn brosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei ddarparu gan Sustrans, sy’n galluogi pobl i fenthyg beiciau trydanol.
Mae 20 o e-feiciau ar gael trwy’r cynllun i bobl, busnesau a mudiadau yn Aberystwyth a’r ardal gyfagos cael defnyddio.
Mae’r prosiect E-Symud hefyd yn rhedeg mewn dinasoedd a threfi eraill ar draws Cymru, gan gynnwys Abertawe, Y Barri, Y Drenewydd, a’r Rhyl.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect E-Symud yn Aberystwyth, cysylltwch â Sioned Lewis ar 07783 825577 neu ar Sioned.Lewis@sustrans.org.uk.
Darllenwch fwy o straeon personol ynglŷn â thrawiad y gwaith mae Sustrans yn gwneud.