Ugain blynedd yn ôl, daeth grŵp o bobl at ei gilydd i helpu cynnal a chadw llwybrau beicio ger Glannau Dyfrdwy. Mae’r grŵp wedi tyfu ers ‘ny ac yn dal i fynd, felly cynhaliodd Sustrans Cymru dathliad i gymeradwyo’u hymdrechion.
Daeth y grŵp gwirfoddoli, timoedd cynnal a chadw’r tir a staff Sustrans at ei gilydd i hel atgofion ac edrych ymlaen at ddyfodol y grŵp.
Ymunodd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, timoedd cynnal a chadw tir a staff Sustrans â gwirfoddolwyr yng Nglannau Dyfrdwy i ddathlu a dweud diolch am 20 blynedd o ofalu a chynnal y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Mae grŵp Gwirfoddolwyr Sustrans Gogledd-Ddwyrain Cymru wedi bod yn rhedeg dros y ddwy ddegawd ddiwethaf, gan gadw ffyrdd 5, 568, ac 84 yn lân a chlir er lles pawb.
Mae’u hymdrechion diddiwedd nhw i wella’r ardaloedd o gwmpas y ffyrdd wedi cynnwys gwaredu tunelli o sbwriel, plannu miloedd o goed, a sicrhau bod bywyd gwyllt lleol yn cael ei ofalu amdano.
Wedi’ ffurfio’n wreiddiol gan grŵp o ffrindiau, daethon nhw at ei gilydd trwy gariad am feicio a theimlad rhanedig o eisiau gwneud rhywbeth i wella’r ffyrdd yn eu hardal.
Mae’r grŵp eisoes wedi ffurfio teimlad cryf o hunaniaeth sy’n cefnogi aelodau tymor hir yn ogystal â chroesawi aelodau newydd.
Ar gyfer y dathliad, ymunodd cydweithwyr Sustrans Cymru a Gogledd Lloegr â’r grŵp ar ei brif fan gwaith ar Lannau Dyfrdwy yn ystod un o’i dyddiau gwaith wythnosol, i arddangos creadigaeth gynefin sef canlyniad gwaith yr 20 mlynedd diwethaf.
Plannodd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston, ac aelodau sefydlol y grŵp gwirfoddoli coeden goffaol i nodi’r achlysur.
Cydnabod ymdrechion grŵp hynod o ymroddgar
Mae’u hamser ac egni wedi trawsnewid hen ardal o dir diffaith, wedi’ amgylchynu gan hen isadeiledd rheilffyrdd, mewn i hafan natur lewyrchus efo coedwig, dolydd a pherllannau.
Yn ogystal â bod yn ffynhonnell anhygoel o hanes lleol, maent wedi troi hen ardal o ddiwylliant a fu i ardal werdd sydd wastad yn cael ei ddatblygu efo natur ar frig y meddwl.
Mae cannoedd o fetrau o wrychoedd wedi cael eu plannu, pyllau wedi cael eu palu, ac mae dal ganddynt syniadau a’r chwant am fwy o welliannau.
I nodi’r achlysur, plannodd aelodau sefydlol y grŵp Graham, John, Peter, a David – pob un yn dal i fod yn aelod actif – coeden goffaol efo Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston.
Mae hir oes y grŵp yn dyst i’r ymrwymiad a brwdfrydedd pob aelod a’r perthnasau cryf, wedi’u sefydlu ar barch a hiwmor, maent wedi adeiladu dros y blynyddoedd.
Ar ran pawb yn Sustrans, hoffan ddweud diolch yn fawr iawn i bob un sydd wedi bod ac sy’n dal i fod yn aelod o’r grŵp anhygoel, ymroddgar, a selog yma – edrychwn ymlaen at yr 20 mlynedd nesaf!