Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 8th MAY 2024

Stori Katherine: Dechrau’n fach cyn gwneud newidiadau mawr

Dysgodd Katherine o’r Barri, De Cymru, am brosiect benthyca e-feiciau Sustrans, E-Symud, trwy gyfryngau cymdeithasol. Ar ôl iddi gysylltu â’r swyddog prosiect lleol, benthycodd hi e-feic yn chwim ac yn gyflym iawn dechreuodd iddi hi a’i phlant i fwynhau teithio lan y bryniau ac o gwmpas arni.

A mother and two young children are riding on a black e-bike in a park. All of them are wearing helmets. There's a mist on the grass in the background

Mae benthyg e-feic wedi helpu Katherine i deimlo’n hyderus wrth feicio o gwmpas Y Barri, tref sy’n enwog o fryniog.

Mae’r ffordd mae ceir wedi effeithio ar ein hamgylchedd yn anferth ac mae defnyddio modd gwahanol fodd arall o drafnidiaeth wastad wedi bod o bwys i mi.

Gwnaethom ni, fel teulu, defnyddio ein beiciau arferol tan i ni symud i’r Barri rhai blynyddoedd yn ôl a chyn i’r teulu tyfu.

Mae gen i dri phlentyn ifanc, efo’r hynaf yn 10 mlwydd oed a’r ieuengaf yn ddau.

Gallu beicio yn Y Barri bod yn dasg anodd weithiau oherwydd y bryniau, ac rwyf wedi angen dibynnu ar fy nghar neu fy ngŵr i feicio efo’r bechgyn o’r blaen oherwydd nad oeddwn i’n gallu delio efo’r bryniau.

 

Fy meddyliau a disgwyliadau cyntaf

Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl o’r benthyciad, i ddweud y gwir, ond roedd y proses yn hawdd.

Ar ôl dysgu am y prosiect E-Symud ar gyfryngau cymdeithasol, dangosais fy niddordeb, cefais ymateb, ac yna cefais yr e-feic.

Yn fy mhen roeddwn i’n gofyn “Sut ydw i am gludo’r bechgyn, i fynd â nhw efo fi fel gwnes i o’r blaen?”

Yn ystod yr anwythiad, teimlais yn gysurus efo’r ymatebion i fy nghwestiynau a’n pryderon.

Cefais fy syfrdanu pan gafodd y beic ei deilwra i fy anghenion, a chefais fy annog i geisio pethau gwahanol er mwyn sicrhau roedd y beic yn gweithio i mi.

Pan roddodd Hamish, y swyddog prosiect, y ddwy sedd ar gyfer plant ar gyfer fy mhlant ieuengaf i mi ac esboniodd ef ei ddiogelwch, roeddwn i’n ddiolchgar iawn.

A mother is securing her two young children into their child seats on the back of a black e-bike, parked in a residential street.

Mae defnyddio e-feic efo’i phlant wedi bod yn chwyldroadol ar gyfer Katherine.

Fy mhrofiadau cyntaf ar yr e-feic

Dilynais gyngor Hamish gan ddechrau’n hawdd yn gyntaf – cefais dro ar y beic efo un o fy mhlant er mwyn dod i arfer gyda’r beic.

Roedd yn braidd yn ofnus yn gyntaf, ond teimlais yn fwy hyderus ar ôl gwneud ambell newidiad i’r sedd a mynd ar gyflymder fy hun.

Pan es i efo fy dau blentyn ieuengaf a cheisio mynd lan y bryniau, wow, roedd yn anhygoel!

Teimlais fel gallaf fynd unrhyw le nawr!

Mae hefyd wedi rhoi sicrwydd i mi ar ein heffaith ar y blaned.

Mae gyrru beic yn gwneud mwy o synnwyr y dyddiau hyn, nid yn unig o safbwynt amgylcheddol.

Mae’n lleihau amseroedd teithio i’r gwaith, yn creu llai o draffig, a – yn gorau oll – rwy’n cael ymarfer corff, rhywbeth roedd fy nghorff i’n hiraethu am flynyddoedd.

Ar ôl mynd allan ar y beic, rwy’n teimlo’n barod ar gyfer y diwrnod ac mae’n rhoi golygfa a theimlad gwahanol.

O safbwynt y plant, maent yn cael mwynhau’r awyr iach, clywed yr adar, a rhyngweithio efo’u hamgylchedd tu allan ar ein teithiau.

Maent yn profi synhwyrau gwahanol ac yn dysgu hefyd, maent yn fwy yn effro ac yn ymwybodol yn gyffredinol, ac maent hyd yn oed yn cyfarch â’r fenyw lolipop neu’r gweithwyr ailgylchu!

Mae fy mhlentyn 10 mlwydd oed yn ei charu hefyd, mae hi’n dweud ei fod yn gŵl, ac rwyf wedi sylweddoli eu bod nhw i gyd yn cysgu’n well ar ôl bod allan ar yr e-feic.

Ar gyfer ni fel teulu, mae’r beic wedi cael effaith positif ac o safbwynt ariannol, dydyn ni ddim yn gwario cymaint ar danwydd bellach.

Two young children sat in child seats on the back of a black e-bike, both wearing helmets, which is parked in Porthkerry Park.

Ar wahân i’r manteision mae Katherine wedi mwynhau gan ddefnyddio’r e-feic, mae’i phlant hi hefyd yn mwynhau’r awyr iach, cysylltu â’u hamgylchedd, a chwrdd â phobl ar hyd y ffordd.

Pethau rwyf wedi dysgu o newid ein harferion teithio

Rwy’n credu bod angen i chi dechrau’n fach er mwyn gwneud gwahaniaeth, fel dechrau efo newid bach.

Pan rydych yn gwneud hynny, bydd yn cael effaith ar eraill oherwydd rydych yn arwain gan esiampl.

Rwyf wedi dysgu mae’n bosib newid i fodd sy’n well ar gyfer yr amgylchedd gan deithio ar e-feic.

Rwyf hefyd wedi dysgu mai’r e-feic yn mor amlddefnydd, mae’n galluogi i chi gwneud sut gymaint efo nhw – maint yn gynhwysol ac yn dewis arall gwych os ydych eisiau cadw’n heini ar hyd y ffordd.

Mae’n lot hawsach i deithio ar e-feic a’i wneud yn bosib i deithio lan bryniau’r Barri, hyd yn oed efo’r plant ar gefn y beic.

Mae defnyddio’r e-feic wedi golygu ein bod ni wedi archwilio rhannau newydd o’r dref ble rydym yn byw nad oedden yn gwybod o’r blaen.

Rydym wedi dod ar draws rhwystrau mynediad, sy’n effeithio pobl efo problemau symudedd neu feiciau mawr fel y benthycais i, ond wnaeth hyn dim ein hatal ni rhag archwilio.

Yn olaf, mae’n llawer mwy cyflym i deithio ar y beic yn ystod cyfnodau prysur nag yw i ddefnyddio’r car.

 

Sut rwyf wedi defnyddio’r e-feic a’r hyn mae’r dyfodol yn cynnig

Mae’r beic wedi dod yn rhan o fy nhrefn arferol erbyn nawr.

Dechreuais ddefnyddio’r e-feic yn gyntaf efo un o’r plant, wedyn efo’r ddau ieuengaf, a hefyd y ddau hynaf.

Ers hynny, dydw i ddim ond yn gwneud y daith i’r ysgol efo’r plant, ond gwneud y daith i’r meithrin, rwy’n mynd â nhw i wersi nofio, mynd siopa, ac ar gyfer f’ymarfer corff fy hun.

Fel teulu, rydym wedi defnyddio’r e-feic ar gyfer teithiau hamdden, i fynd allan ac i archwilio ein hardal leol.

Mae nawr gennym gynlluniau i brynu e-feic, ac efo’r hyn rydym yn arbed mewn tanwydd gallan ddefnyddio hynny tuag at ran o’r taliad ar gyfer ein e-feic cyntaf.

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru