Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 10th MAY 2024

Prosiect benthyca e-feiciau E-Symud yn dod i’r Fenni

Mae Cyngor Sir Fynwy am gydweithio â Sustrans Cymru i ddarparu'r prosiect benthyca e-feiciau llwyddiannus, E-Symud, i'r Fenni. Yn wreiddiol yn brosiect peilot Llywodraeth Cymru wedi' ddarparu ar led Cymru, gall trigolion Y Fenni nawr benthyg e-feic neu e-feic cargo am ddim fel iddynt brofi'r manteision yn uniongyrchol.

A group of adults stand in front of a red-brick building with their e-bikes, talking with each other.

Gall defnyddio e-feic helpu arbed arian, cael ymarfer corff, teithio'n bellach, a mynd i'r afael â bryniau Cymru. Llun gan: photojB\Sustrans.

Yn dilyn ymlaen o lwyddiannau darparu E-Symud ar draws Cymru, mae prosiect benthyca e-feiciau Sustrans Cymru wedi cael ei lansio yn Y Fenni.

Mae'r prosiect E-Symud, a ariennir gan Gyngor Sir Fynwy trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, yn ceisio gwneud e-feiciau ac e-feiciau cargo yn fwy hygyrch i bobl ar led Cymru, gan arddangos eu dichonoldeb fel modd go iawn o drafnidiaeth gynaliadwy.

Yn siarad am lansiad y prosiect E-Symud yn Y Fenni, dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy am Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby:

"Mae'r prosiect E-Symud yn esiampl wych o sut gall gweithio mewn partneriaethau gwneud teithio llesol yn fwy hygyrch i'n trigolion.

"Mae'n fendigedig i weithio efo Sustrans Cymru i gael darparu e-feiciau i drigolion cael benthyg."

Fel rhan o'r prosiect, gall trigolion Y Fenni benthyg e-feic neu e-feic cargo, efo'r ddau fath ar gael am fenthyciad o gyfnod o bedair wythnos, am ddim.

Gall busnesau neu fudiadau lleol benthyg naill ai e-feic neu e-feic cargo am ddim am 12 wythnos.

Pedestrians in Abergavenny town centre

Gall trigolion, busnesau, a mudiadau lleol Y Fenni nawr benthyg e-feic neu e-feic cargo am ddim. Llun gan: photojB\Sustrans.

Dod â manteision teithio ar e-feiciau i'r Fenni

Yn trafod E-Symud yn dod i'r Fenni, dwedodd Charlie Gordon, Cydlynydd Prosiect Sustrans Cymru:

"Rydym yn gyffrous i weithio â Chyngor Sir Fynwy i ddod ag E-Symud i'r Fenni, ac i bobl cael y siawns i ddefnyddio e-feic am ddim.

"Mae 'na lwyth o fanteision i ddefnyddio e-feic - rydych yn arbed arian ar danwydd, rydych yn cael ymarfer corff, gallwch deithio'n bellach nag ar feic arferol, maent yn ei wneud yn haws i fynd lan bryniau - ac mae E-Symud yn galluogi pobl i brofi'r manteision yn uniongyrchol, am ddim.

"Mae'r prosiect nawr ar agor i bawb sy'n byw yn ardal Y Fenni, felly hoffwn annog pobl i gysylltu er mwyn cofnodi eich diddordeb."

Ar ôl ei ail flwyddyn o ddarpariaeth ar draws ardaloedd eraill yng Nghymru, adroddodd 76% o fuddiolwyr E-Symud effeithiau positif ar eu hiechyd ac adroddodd 79% effeithiau positif ar eu lles o ganlyniad i ddefnyddio e-feic.

Adroddodd pobl cafodd eu ffitrwydd ei wella, teimlon nhw llai o unigedd, a theimlon nhw'n fwy annibynnol ar ôl iddynt fenthyg e-feic.

Gwelodd busnesau a mudiadau a benthycodd e-feiciau cargo eu teithiau wythnosol mewn cerbydau gostwng gan 62%, ac adroddon nhw gostau teithio llai ac amseroedd teithiau cyflymach.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect neu i drafod benthyg e-feic, cysylltwch â Jack Neighbour ar 07876 234112 neu e-bostiwch Jack.Neighbour@sustrans.org.uk.

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Sustrans