E-Symud i'w cynllun benthyg e-feiciau trydan ar gyfer trigolion Aberystwyth, y Rhyl, Y Bari, Abertawe a'r Drenewydd. Mae'r cynllun peilot yn helpu pobl sydd o bosibl yn canfod bod cost e-feiciau yn rhwystr iddynt. Mae E-Symud yn gynllun sy’n cynnig dull iachus, cynaliadwy a fforddiadwy o deithio.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun peilot yn cynnig cynllun benthyg e-feiciau am ddim am gyfnod o bedair wythnos i drigolion Aberystwyth, Abertawe, Y Bari, y Rhyl a'r Drenewydd.
Mae'r cynllun beiciau am ddim, ac mae 20 e-feic ar gael ym mhob lleoliad.
Mae e-feiciau cargo hefyd ar gael i fusnesau a sefydliadau yn Aberystwyth, Abertawe, a'r Drenewydd am hyd at dri mis.
Cyfnewid teithiau mewn ceir a faniau
Nod cynllun E-Symud yw lleihau allyriadau carbon drwy gyfnewid rhai o'r siwrneiau a wneir fel rheol mewn car.
Gydag e-feiciau cargo ar gael i fusnesau, bydd hyn hefyd yn helpu i leihau allyriadau a achosir gan ddanfon nwyddau i'ch cartref.
Drwy gynnig dull amgen o deithio, nod y prosiect hwn yw gwella ansawdd aer lleol.
Cadw i symud
Gall beiciau trydan gyrraedd cyflymder o hyd at 15.5 yr awr.
Gallant helpu i fynd i'r afael â thirwedd bryniog, cario llwythi a mynd ar deithiau beic pellach.
Ceir bagiau ochr, byrddau cludo a seddi i gario plant o amrywiol oedrannau ar gasgliad beiciau E-Symud.
Maent yn helpu i sicrhau bod teithio llesol yn hwyl, ac yn ein helpu i gadw’n llawn cymhelliant.
Hybu busnes gydag e-feiciau cargo
Gall defnyddio e-feiciau cargo i symud nwyddau o gwmpas leihau costau gweithredu busnesau.
Mae'r dull hwn yn creu cyfle am gyhoeddusrwydd cadarnhaol a gall fod yn ffordd wych o ennyn diddordeb cwsmeriaid o'r gymuned leol.
Mewn ardaloedd gorlawn, gall teithio ar feiciau e-cargo yn aml fod yn ffordd gynt o symud llwythi.
Maent yn fwy hyblyg, cyfleus a chyfeillgar i'r amgylchedd na faniau.
Mae e-feiciau cargo yn ddewis arall gwych i faniau ar gyfer symud llwythi mewn trefi a dinasoedd.
Ysbrydoli busnesau i weithredu
Drwy gyfrwng y prosiect E-Symud, byddwn yn cefnogi busnesau i dreialu eu defnydd o e-feiciau cargo.
Hoffem weld busnesau yn manteisio ar y cyfle hwn i leihau allyriadau carbon a llygredd aer lleol.
Byddwn yn eu helpu i feithrin y sgiliau i ddefnyddio e-feiciau cargo a dysgu am fanteision ac effeithiau defnyddio beiciau amrywiol ar y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu.
Diddordeb mewn benthyg e-feic?
Rydym yn gwahodd pobl sy'n byw yn neu'n agos at ardaloedd y Rhyl, y Bari, Abertawe neu'r Drenewydd i fenthyg e-feic.
Mae busnesau a mudiadau yn Abertawe ac Aberystwyth yn gymwys ar gyfer benthyg e-feiciau cargo.
Y mae angen i chi gwblhau arolwg cyn ac ar ôl y benthyciad.
Hefyd, hwyrach y gofynnir i chi gael cyfweliad ymchwil 30–45 munud.
Bydd hyn yn ein helpu i ddeall profiad pobl o ddefnyddio e-feic.
Bydd yr arolwg yn edrych ar yr heriau o ddefnyddio un, a sut gall pobl, sefydliadau a lleoedd elwa o e-feiciau.
Bydd canlyniad y prosiect hwn yn ein helpu i ddatblygu argymhellion at arddel mentrau e-feiciau yn y dyfodol.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael benthyciad
I gael bod yn gymwys, rhaid ichi fod dros 18 mlwydd oed ac yn gallu beicio'n ddiogel, yn breswylydd yn ardal y Rhyl, Abertawe, y Drenewydd, neu'r Bari, ac un ai:
- yn byw mewn ardal a restrir ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (mewn lleoliad prosiect) fel un o’r 10-50% o wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Gallwch wirio eich cod post ar eu gwefan;
- yn byw mewn lle gwledig ger lleoliad E-Symud y gellir ei gyrraedd gydag e-feic gyda’r bwriad o gyfnewid teithiau car, neu;
- yn byw mewn lleoliad bryniog ger lleoliad E-Symud y gellir ei gyrraedd gydag e-feic gyda’r bwriad o gyfnewid teithiau car.
Gwahoddir busnesau a sefydliadau sy'n gweithredu yn Abertawe neu Aberystwyth i ymgeisio am e-feic cargo drwy gysylltu â'r swyddog perthnasol.
Os ydych o'r farn na allwch chi feicio, neu os nad ydych wedi beicio ers sawl blwyddyn, yna rydym yn eich annog i hyfforddi cyn dechrau'r benthyciad drwy ddarparwr lleol wedi’i achredu.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyg e-feic, neu am wybod mwy, cysylltwch â’r swyddog perthnasol isod os gwelwch yn dda.
Nodwch fod rhai o'r swyddogion prosiect E-Symud yn gweithio'n rhan amser, ond os gadewch neges neu e-bost, byddwn yn cysylltu â chi.
Aberystwyth
Jack Neighbour: Jack.Neighbour@sustrans.org.uk 07876234112 (yn gweithio yn rhan-amser)
Y Drenewydd
Jack Neighbour: Jack.Neighbour@sustrans.org.uk 07876234112 (yn gweithio yn rhan-amser)
Abertawe (e-feiciau e-cargo ac e-feiciau)
Paul Thomas: Paul.Thomas2@sustrans.org.uk
Y Barri (e-feiciau yn unig)
Hamish Belding: EMove.Barry@sustrans.org.uk
Y Rhyl (e-feiciau yn unig)
Jonny Eldridge: Jonny.Eldridge@sustrans.org.uk 07922 875131
Y broses ymgeisio
Bydd ein swyddogion prosiect yn darparu ffurflen gais i chi a byddant yn gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Byddwch yn derbyn gwybodaeth am y cynllun a pha e-feiciau sydd ar gael gennym.
Byddwch hefyd yn derbyn arolwg a chytundeb benthyg i'w gwblhau.
Byddwn yn trefnu dyddiad gyda chi i gasglu e-feic a derbyn gwybodaeth am sut i'w ddefnyddio a chynefino â'r beic.
Yn ddibynnol ar y galw am e-feiciau, mae'n bosibl y rhoddir eich enw ar restr aros nes daw beic ar gael.
Os oes gennych ddiddordeb mewn benthyg e-feic neu e-feic cargo cysylltwch ag aelod o'n tîm nawr.
Dysgwch pam ddylwn i roi cynnig ar e-feic.
Darllenwch ein adroddiad ar flwyddyn cyntaf y prosiect E-Symud.