Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 18th OCTOBER 2022

Trwy ddefnydd e-feic cefais yr hwb i’n hyder a’n ffitrwydd oedd angen arnaf: Stori Mark

Yn y blog yma, rydym yn clywed oddi wrth Mark ar ôl iddo gysylltu â’r prosiect E-Symud yn Aberystwyth. Mae E-Symud yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig y cyfle i bobl ar draws Cymru cael mynediad at e-feiciau ac e-feiciau cargo am ddim. Ar ôl dysgu am y prosiect, roedd Mark yn awyddus i ddysgu mwy a gweld sut gall newid ei ymddygiad teithio ei heffeithio fo. Er nad oedd yn y seiclwr mwyaf hyderus neu weithredol, ymroddodd i newid y car am e-feic ac yma mae’n rhannu ei brofiad.

Helpodd defnydd e-feic i adfer hyder Mike ar feic, a dyw e heb edrych nol ers 'ny. Llun gan: Mark Williams.

Cefais ddiddordeb yn y prosiect oherwydd roeddwn yn chwilfrydig am feiciau trydanol a’r manteision o’u defnyddio nhw.

Roeddwn hefyd yn dal bws yn ddyddiol a oedd yn hallt ar amseroedd, ac roedd angen i mi adael fy ngwaith yn gynnar neu aros o gwmpas am gyfnodau hir.

Arweiniodd hyn at feddwl bydd seiclo yn cynnig mwy o ryddid i fy symudedd, ac o’r diwrnod cyntaf o gael y beic teimlais y fantais o gael gadael gwaith pan ddewisais heb angen monitor f’amser neu beryglu colli’r bws.

 

Rhoi'r grym i'r gallu i newid ymddygiad

Er nad oeddwn wedi seiclo am flynyddoedd, ffeindiais y beic trydanol yn hawdd i’w ddefnyddio a chefais dim problemau wrth seiclo lan elltydd eitha’ serth.

Sylweddolais yn weddol gyflym hefyd y manteision ar gyfer pobl eraill o’r prosiect sydd efallai eisiau gwella eu ffitrwydd, ond sydd wedi ofni gan y syniad o seiclo - bydd E-Symud yn sicr helpu adeiladu hyder pobl.

Dros yr wythnosau canlynol seiclais i’r gwaith ac yn ôl pob ddiwrnod - dros 5 milltir pob ffordd! - gan gadw at hewlydd tawelach ble oedd yn bosib.

Y boreau oedd y goreuon, oherwydd cefais cysylltiad i natur nad oedd yn bresennol fel arall – roeddwn yn gallu gwrando i’r adar a gweld y bywyd gwyllt yn cael ei forefwyd, yn hytrach nag eistedd mewn swigen efo sŵn y modur yn unig a mynd heibio popeth.

Mwynheais y beic trydanol a’r profiad o seiclo sut gymaint penderfynais prynu beic newydd gan ddefnyddio’r cynllun Beicio i’r Gwaith.

Yn anffodus roedd cyfyngiad ar y gwerth a chynnigir, a’r canlyniad oedd nad oeddwn yn gallu prynu beic trydanol.

Yn lle, es i am feic ffordd gyflawn, rhywbeth rwyf yn defnyddio’n ddyddiol nawr - rwy’n cymudo i’r gwaith yn ystod yr wythnos ac yn mynd allan ar deithiau hamdden ar y penwythnosau.

Nid yw’r tywydd gwastad yn ddelfrydol, ond dyw hynny ddim yn atal fy seiclo.

Gan edrych nôl ar fy mhrofiad, mae fy ffitrwydd wedi gwella cymaint dros gyfnod mor fyr fel fy mod i’n gwerthfawrogi’r beic ffordd a’r angen i weithio bach yn galetach - ac rwyf yn parhau i fwynhau’r profiad awyr agored.

 

Angen ar gyfer isadeiledd teithio llesol yng nghefn gwlad Cymru

Credaf gall y prosiect elwa o hysbysebu gwell – darganfyddais am E-Symud trwy glywed amdani – er mwyn cyrraedd mwy o bobl.

Er pa mor dda oedd y beic, credaf gallai wedi elwa o gael drych, yn enwedig ar gyfer ei ddefnyddio ar hewlydd.

Mae’n hefyd werth ystyried ble rydych am derfynu efo’r e-feic, oherwydd nid oes gan bob man cyfleusterau parcio digonol.

Ble ‘dw i’n byw yn Aberystwyth, does dim storfa ddiogel ar gyfer beiciau ac yn gyffredinol mae llefydd i barcio beiciau yn brin.

Byddai wedi bod yn ddiddorol i weld rhai ystadegau ar ddiwedd cyfnod y benthyciad, i weld pa mor bell teithiais, gwelliannau yn amseroedd teithiau arferol, ac i weld gwelliannau mewn ffitrwydd.

Mae’n bosib bydd y rhain yn helpu eraill i deimlo’n galonogol i brynu beic a pharhau i seiclo heibio cyfnod y benthyciad.

 

Ffordd ddelfrydol i gyflwyno a mwynhau teithio llesol

Manteision E-Symud yw, yn fy marn i, ei fod yn helpu pobl sydd â diddordeb mewn gwella eu ffitrwydd ond sy’n ansicr os e-feic yw’r dewis cywir iddyn nhw.

Mae’r e-feiciau’n wirioneddol hygyrch efo cyfleusterau da - rydych yn cael yr holl offer sydd angen i ddechrau: gwefrydd, clo, helmed, cewyll, goleuadau, gard olwyn a.y.b.

Mae’n gyflwyniad gwych i seiclo, ac yn enwedig e-feiciau, ar gyfer rheini ella sydd dim y seiclwyr mwyaf hyderus neu weithredol.

Canfyddais ei fod yn ffordd wych o wella fy ffitrwydd heb iddi fod yn llethol - rhoddodd e’r rhyddid o symudedd i mi a wnaeth gwella fy lles, fy iechyd meddyliol, a’n iechyd corfforol.

Yn gyffredinol, rwy’n credu bod hyn yn brosiect bendigedig a dyle cael ei roi ar waith mewn mwy o leoliadau a’i wneud yn fwy hygyrch i fwy o unigolion.

 

Am y prosiect E-Symud

Mae E-Symud yn brosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Sustrans, sy’n galluogi pobl i fenthyg beiciau trydanol.

Mae 20 o e-feiciau ar gael trwy’r cynllun i bobl, busnesau a mudiadau yn Aberystwyth a’r ardal gyfagos cael defnyddio.

Mae’r prosiect E-Symud hefyd yn rhedeg mewn dinasoedd a threfi eraill ar draws Cymru, gan gynnwys Abertawe, Y Barri, Y Drenewydd, a’r Rhyl.

I ddarganfod mwy o wybodaeth am E-Symud yn Aberystwyth, neu yng Nghymru’n gyffredinol, cysylltwch â sioned.lewis@sustrans.org.uk.

 

Cefnogwch y gwaith mae Sustrans yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n lle hapusach ac iachach i fyw.

Share this page