‘Use Your Loaf’, becws hyfforddi cymunedol yn Y Rhyl, Gogledd Cymru, yw’r mudiad diweddaraf i fanteisio ar brosiect E-Symud Sustrans Cymru, sy’n ceisio gwneud e-feiciau’n hygyrch i gymunedau lleol. Lansiwyd y prosiect ar draws Cymru yn 2021, o ganlyniad i gefnogaeth a noddiant gan Lywodraeth Cymru.
‘Use Your Loaf’, becws hyfforddi cymunedol wedi’ leoli yn Y Rhyl, Gogledd Cymru. (Llun gan: Alex Bowen)
Wedi’ sefydlu gan Alex Bowen a’i gydweithwyr o’r Canolfan Foryd yn ystod y pandemig, becws hyfforddi cymunedol sy’n darparu cyrsiau a digwyddiadau cymunedol wedi’ anelu at ddysgu sgiliau pobi crefftwrol yw ‘Use Your Loaf’.
Mae cael mynediad at e-feic cargo trwy’r prosiect E-Symud wedi caniatáu Alex i wneud cludiadau’n gyflymach ac i godi ymwybyddiaeth am ei brosiect.
Yn siarad am ei brofiad, meddai Alex:
“Rwyf yn hapus i ddweud bod defnyddio e-feic wedi bod yn hawdd ac yn gyfleus.
“Maent yn gyflym, hawdd i’w ddefnyddio, mae wir wedi fy helpu i deithio o gwmpas y dre mewn chwinciad, ac rwyf wedi teimlo’n ddiogel ac yn sicr wrth ei ddefnyddio.”
Cynyddu gweledigrwydd brand efo e-feic
O ganlyniad i’r prosiect E-Symud a’r gallu i ddefnyddio dynodiadau’r elusen ar yr e-feic, mae ymwybyddiaeth ar y mudiad wedi tyfu, gan arwain at sgyrsiau yn y stryd ac yn y bacws ar Stryd Abbey.
“Mae’r gallu i ddodi basgedi ac arwyddion ar y e-feic wedi helpu efo gweledigrwydd.
“Rwyf wedi cael pobl yn edrych a sylwi tra fy mod i’n seiclo, sy’n wych o safbwynt marchnata.
“Mae llawer o bobl hefyd wedi siarad efo fi amdani pan fo’r beic wedi bod yn aros yn y ‘stafell hyfforddi.
“Felly rwyf wedi gallu sôn wrthynt am E-Symud hefyd.”
Nod ‘Use Your Loaf’ yw darparu cyfle i aelodau cymuned Y Rhyl i wneud bara o waith llaw, bara crefftwrol a chynhyrchion toes melys.
Mae defnydd yr e-feic wedi helpu i hyrwyddo’r becws cymunedol (Llun gan: Alex Bowen)
Datblygu sgiliau newydd a chyfleoedd am waith
Darganfyddodd Alex bod gan ‘Use Your Loaf’ ac E-Symud rhai amcanion yn gyffredin – i roi mynediad i bobl at ddysgu sgiliau newydd, a datblygu llwybr mewn i addysg bellach, cyflogaeth neu gyfleoedd gwirfoddoli:
“Rydym ar agor i unrhyw un sydd eisiau dysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau, sydd dim ond eisiau cwrdd â phobl, adeiladu hyder, neu gymdeithasu.”
Mae’r becws yn helpu cymuned Y Rhyl i ddysgu sgiliau newydd, ennill profiad gwaith, a chael mynediad at fwyd o ansawdd da am brisoedd fforddiadwy.
Cefnogi amrediad o fuddiolwyr
Yn siarad ar sut mae E-Symud wedi helpu trigolion Y Rhyl, meddai Jonny Eldridge, Swyddog Dinasoedd a Threfi Byw:
“Ers i’r prosiect dechrau yn Y Rhyl yn ystod Gorffennaf blwyddyn ddiwethaf, mae dros 70 o drigolion wedi elwa o fenthyciad hollol rydd am gyfnod o bedair wythnos.
“Mae rhai esiamplau’n cynnwys athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cael gwared â’r car am fis er lles taith lesol ar e-feic.
“Rydym hefyd wedi cael rhieni efo plant ifanc sydd wedi defnyddio un o’n e-feiciau sy’n arbenigo mewn cludo teithwyr i helpu efo’r daith i’r ysgol neu feithrin.
“A phobl sy’n profi tlodi trafnidiaeth ac sydd wedi defnyddio e-feic er mwyn cael mynediad at amrediad gwell o gyfleoedd.”
Mae ‘na 20 o e-feiciau ar gael i bobl, busnesau, a mudiadau yn Y Rhyl a’r ardal gyfagos cael ei ddefnyddio trwy’r prosiect.
Mae prosiect E-Symud hefyd yn cael ei gynnal mewn dinasoedd a threfi eraill ar draws Cymru, gan gynnwys Aberystwyth, Y Barri, Y Drenewydd ac Abertawe.
Os ydych yn fyw mewn neu’n gyfagos i’r Rhyl ac mae gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, neu os hoffech ddysgu mwy am y prosiect E-Symud yn gyffredinol, gallwch gysylltu â Jonny am fwy o wybodaeth gan ddanfon e-bost ato ar jonny.eldridge@sustrans.org.uk.