Yn Sustrans, tueddwn i ganolbwyntio ein gwaith ar sut i wella bywydau pobl trwy deithio llesol. Ond, ar adegau, mae’n gwaith ni’n croestorri â’r amgylchedd naturiol sydd o’n gwmpas. Yn y blog yma, mae Rheolwr Tir Sustrans Cymru, Andy Rowe, yn siarad am un o’i hoff fannau – Ceunant Clydach. Mae’r ardal yma yn Ne Ddwyrain Cymru’n llawn rhyfeddod naturiol sy’n amlinellu pam ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mae'r antur a'r amrediad naturiol sydd i'w gael yng Ngheunant Clydach yn werth ei weld. Llun gan: Andy Rowe, Sustrans.
Fel Rheolwr Tir Sustrans Cymru, ‘dw i’n cael mynd i rai llefydd prydferth, ac os ydw i’n gwneud fy swydd i’n gywir yna gall pawb arall ymweld â nhw, hefyd.
Mae un o rain, Ceunant Clydach, wedi’ leoli ar Ffordd 46 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, tua wyth milltir i’r gorllewin o’r Fenni.
Hanes diwydiannol ac amrediad amgylcheddol
Fel llawer o lwybrau yn Ne Cymru, mae gorffennol diddorol ganddo – roedd yn arfer bod yn waith haearn a oedd yn gwasanaethu rheilffordd, gefail, gwaith calch, a chwarel.
Y peth positif am hyn ar gyfer teithwyr llesol yw’r ffaith bod wrth i chi mynd lan o’r Fenni, mae’n esmwyth os yn gyson; byddech yn canfod eich hun yn mwynhau golygfeydd eang o’r cwm yn fuan.
Un o rannau mwyaf trawiadol y ceunant yw’r safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SDGA), ger Llanelli Hill.
Mae gan Sustrans trwydded ar y rhan yma, ac rydym yn gweithio’n agos efo Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i’w cynnal.
Canfyddiadau ffwngaidd a phethau prin ecolegol
Mae’n un o’r rhannau pryn y RBC yng Nghymru efo arwyneb wedi’ orchuddio â glaswellt, ac er nad yw hyn yn wych o safbwynt hygyrchedd, mae ‘na rheswm da am hyn.
Mae ffwngws parasitig, o’r enw hyfryd llindagwr penblodiog, yn un enghraifft o’r nifer o ffyngau sy’n bodoli yn yr ardal.
Ynghyd â gwerthyd wridog, tagell binc rosliw, tafod daear melynwyrdd, a chapiau cwyr, y rhywogaethau gwahanol yma yw’r rheswm pam fod y llwybr yn llwybr glas yn hytrach na tharmac.
Mae’r torri gwair rheolaidd sydd wedi’ gytuno efo CNC yn cynnal cynefin i’r ffyngau yma, efo’r rhan fwyaf ohonynt yn dueddol o ffrwytho madarch o gwmpas adeg mis Medi-Hydref.
Gan fod yr ardal wedi’ ymylu â choetir ffawydden syfrdanol, gallaf awgrymu’r safle i unrhyw fycolegwyr sy’n darllen hyn.
Ffordd 46 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg trwy Geunant Clydach. Llun gan: Andy Rowe, Sustrans.
Unigryw i Geunant Clydach, unigryw i'r byd
Pan ddechreuais fy rôl yn 2015, dwedodd cydweithiwr wrthaf pe bawn i’n torri’r goeden anghywir i lawr yng Ngheunant Clydach, bydd yr awdurdodau’n carcharu mi a thaflu’r allwedd i ffwrdd.
Cymerodd blwyddyn arall o ymchwil i leoli’r goeden benodol a bygythiodd fy ngharchariad dyfodol.
Mae’n ffurf unigryw yn enetig o gerddinen wen a esblygodd yn y cwm yma sy’ dim yn bodoli unrhyw le arall.
Mae’i obaith o oroesi wedi cael peth cymorth o ganlyniad i’w golwg caglog, aflêr, a dibwys, sy’n golygu dim ond ychydig bach o bobl bydd yn cydnabod cymaint o beth brin eithafol.
Mae’n cuddio tu ôl i goeden criafolen anhygoel ac yn ôl pob sôn yn gwneud yn dda, felly dydw i ddim ‘di mynd i’r carchar eto (er siom amlwg fy nghydweithiwr).
Safle unigryw sy'n haeddu gofal hynod arbennig
Pe bawn i’n ceisio enwi’r rhywogaethau o flodau gwyllt, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, adar, a mamaliaid sydd hefyd yn byw yn yr ardal, byddaf yn creu rhestr hir yn lle’r blog yma.
Does dim modd i mi beidio sôn am y nifer mawr o ystlumod sy’n clwydo yn yr hen dwneli rheilffordd, ond yn gyffredinol gallaf ddweud ei fod yn fan gwirioneddol fioamrywiaethol, a bod yna wastad rhywbeth i weld ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Nid yw teithio llesol ond yn gwneud synnwyr mewn amgylchedd trefol.
Gwyddom fod pobl yn gwerthfawrogi mannau gwyrdd a bioamrywiaeth, ac mae Ceunant Clydach yn enghraifft wych o fan wyllt gall y RBC eich arwain at.
Mae gen i rywbeth i ofyn – os ydych yn ymweld â’r safle, os gwelwch yn dda cymerwch ofal.
Os ydych eisiau bwyta madarch, nid SDGA yw’r lle i’w casglu gan fod y ffyngau o dan amddiffyniad cyfreithlon.
Os nad yw erlyniaeth yn ddigon i’ch atal, rwyf wedi clywed bod capiau cwyr yn blasu o gwyr a bydd bwyta tagell binc rosliw yn achosi (o leiaf!) penwythnos ar y tŷ bach – yn amlwg nid o brofiad personol ydw i’n siarad.
F'awgrymiad i, yn lle, yw eich bod chi dim ond yn edrych, ffotograffio, rhyfeddu, a mwynhau.