Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 15th JUNE 2022

Sustrans Cymru a CGGC yn partneru wrth iddynt symud i hwb sector elusennol

Mae Sustrans Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru (CGGC) wedi partneru i rannu swyddfa newydd yng Nghaerdydd.

Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston, a Cyfarwyddwr Gweithrediadau CGGC, Matthew Brown. (Llun gan Simon Dowley, CGGC.)

Daw’r penderfyniad ar ôl i’r ddau fudiad ceisio dychwelyd i’r gweithle yn dilyn ymlaen o’r pandemig COVID-19, ac yn gosod allan dyfodol hynod o gyffrous i’r ddau fudiad.

Dywedodd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston:

“Rydym yn gyffrous iawn i symud mewn i’r lle rhanedig newydd yma efo CGGC, ac i gael y cyfle i adeiladau hwb sector elusennol yn yr ardal hanesyddol yma o Gaerdydd. Mae ein cydweithwyr yn edrych ymlaen at ddychwelyd i weithle sy’n cyd-fynd â’r ffordd gyfoes, hybrid o weithio.

“Mae gwreiddiau Sustrans Cymru hen wedi’ osod yn ardal hanesyddol Tre-biwt felly mae’n addas iawn ein bod ni’n parhau efo’r traddodiad yna efo’n hwb newydd yng Nghaerdydd wedi’ leoli yma.

“Mae’r symudiad yma i’r hwb newydd efo CGGC yn cyflwyno cyfle cyffrous i ni i ddatblygu perthnasau agos, cryfhau partneriaethau ac ymgymryd â gweithio cydweithrediadol, rhywbeth sy’n ategu egwyddorion Sustrans tra’n sicrhau bod y sector elusennol yng Nghaerdydd yn parhau i gryfhau.”

Bydd y trefniad yn meddwl bod y ddau fudiad am gychwyn ar ffordd newydd o weithio, gan rannu hwb cynllun agored, eithaf y grefft sy’n caniatau rhwydweithio ac yn annog gweithio cydweithrediadol rhwng y ddau fudiad.

Medd Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau CGGC:

“Rydym wrth ein bodd i rannu’r man newydd yma efo Sustrans. Gweithion efo Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Data Cymru a’r Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (CGyLG) Cymru – sydd hefyd wedi’u lleoli yn yr adeilad – i’w ddylunio ac mae’n fan gwych.

“Cafodd ei adeiladu ar gyfer gweithio hybrid yn ogystal â gweithio’n agored ac yn gydweithrediadol efo eraill. Gobeithiwn bydd ein man rhanedig newydd yn arwain at lwyth o gydweithio rhwng CGGC, Sustrans a phartneriaid eraill sy’n rhannu ein hegwyddorion.”

Bydd y ddau fudiad yn ail-gyflwyno’u staff yn raddol i weithle rhanedig sy’n talu teyrnged i nifer o ffigyrau sylweddol yng nghyd-destun academaidd, diwylliannol a hanesyddol Cymreig.

Mae ystafelloedd cyfarfod wedi’u henwi ar ôl pobl fel Betty Campbell MBE, Jan Morris, Megan Lloyd George, a Griffith Vaughan Williams, efo’r hwb wedi’ leoli’n gyffrous mewn ardal o Gaerdydd sydd am gael ei drawsnewid ar gyfer y dyfodol.

 

Dysgwch fwy am ein gwaith yng Nghymru fan hyn.

Share this page