Mae Rheolwr Polisi a Materion Allanol Sustrans Cymru, Joe Rossiter, yn rhannu rhai o'r uchafbwyntiau o Gynhadledd Teithio Llesol Cymru diweddar, wedi' ddarparu ym mhartneriaeth efo Llywodraeth Cymru.
Delwedd o gyflwyniad gan Ali Abdi, Prifysgol Caerdydd.
Roedden yn falch iawn i gynnal Cynhadledd Teithio Llesol eleni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Ein thema oedd Sicrhau Teithio Llesol i Bawb, yn ein galluogi i ddod a grŵp o siaradwyr arbennig at ei gilydd i drafod sut gallan fod yn fwy cynhwysol yn ein diwylliant ynghyd â’n gilydd.
Mae Sustrans Cymru’n credu’n angerddol dylai pob person cael mynediad cyfiawn i drafnidiaeth.
Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gallu cael mynediad at wasanaethau angenrheidiol yn ein cymunedau.
Rydym eisiau ei wneud yn haws i bawb yng Nghymru i gerdded, olwyno a beicio.
Cynyddu teithio llesol yng Nghymru
Dechreuodd Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y Gynhadledd gan drafod y gweithrediadau mae Llywodraeth Cymru’n ei gymryd i gynyddu teithio llesol ar draws y wlad.
Roedd yn wych i’r Gweinidog ymuno wrth iddo sôn am ymrwymiad y Llywodraeth i deithio llesol.
Dulliau croestoriadol, wedi' seilio ar dystiolaeth
Canolbwynt sesiwn cynta’r diwrnod oedd ar sylfaen tystiolaeth ar gyfer teithio llesol a chynhwysiad:
- Trafododd Dawn Rahman ei gwaith ymchwil ar famau sy’n beicio;
- Siaradodd Dr Zahara Batool ar ei gwaith ymchwil dyfeisgar ar ystyried rhwystrau ymhlith teuluoedd o etifeddiaeth Pacistanaidd sy’n byw yn Bradford;
- A chyflwynodd Dr Andy Cope o Sustrans ar ei waith cydweithredol efo’r elusen, Centre for Ageing Better, ynglŷn â deall sut i gefnogi pobl canol-oed i ymgymryd â theithio llesol.
Cynigodd pob cyflwyniad mewnwelediad gwerthfawr ar y ffactorau sy’n rhwystro pobl, gan ystyried pwysigrwydd defnyddio dulliau croestoriadol, wedi’ seilio ar dystiolaeth.
Clywsom oddi wrth Partneriaeth Ogwen am ei waith yn y cymuned lleol.
Awdurdodi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
Clywsom wedyn am brofiadau bywyd pobl, ac am y rhwystrau sy’n atal teithio llesol rhag bod yn hygyrch i bawb.
Roedd yn fraint i gael casgliad o brosiectau rhyfeddol o wahanol lefydd yng Nghymru sy’n awdurdodi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
O The Gap Wales i Brifysgol Caerdydd, o Pedal Power i Bartneriaeth Ogwen, clywsom straeon o bob man o Gymru, yn dangos sut mae newid ymddygiadol yn awdurdodi i ddefnyddio teithio llesol.
Dylunio ar gyfer pawb
Canolbwynt y sesiwn olaf oedd ar ddylunio ar gyfer cynhwysiad. Rhannodd Amanda Harris ei phrofiad pwerus a thrawiadol o feicio annibynnol ar ôl damwain a wnaeth newid ei bywyd yn 2014.
Cyflwynodd Andrea Gordon o Guide Dogs Cymru, yn gyfochrog â Caroline Lewis o Access Design Solutions, ar bwysigrwydd dylunio ar gyfer cynhwysiad.
Dangosodd hyn pwysigrwydd dylunio ar gyfer pawb o fewn y model cymdeithasol o anabledd.
Yn olaf, gwelsom y gwaith anhygoel gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran gwaredu rhwystrau, yn galluogi defnydd rhyddach o’i ffyrdd.
Amlygodd pob un o’r golygfeydd yma’r ystyriaethau ymarferol o ddylunio teithio llesol sy’n hygyrch i bawb.
Straeon a golygfeydd pwerus
Yn ystod y Gynhadledd gofynnom i fynychwyr rhannu eu syniadau.
Roedd yn glir ymhlith y mynychwyr bod angen iddynt gydweithio efo grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar deithio llesol.
Dyna’r unig ffordd i ni ddeall beth yw’r rhwystrau sy’n bodoli a beth sydd am wasanaethu pawb.
Gwelsom hefyd cafodd nifer ohonynt eu heffeithio gan y straeon a golygfeydd pwerus a chlywsom yn ystod y diwrnod.
Hoffan ddweud diolch enfawr i bawb a gymerodd rhan a mynychodd y Gynhadledd Teithio Llesol i Gymru – doedd dim modd i’w gynnal hebddoch chi!
Darganfyddwch fwy am ein gwaith yng Nghymru fan hyn.
Os hoffech weithio efo ni i sicrhau bod gan bawb mynediad at gerdded, olwyno, a beicio, cysylltwch â ni ar: sustranscymru@sustrans.org.uk.