Gofynion Etholiadau Lleol 2022 Sustrans Cymru

Sustrans manifesto asks for the 2022 Welsh local elections in Welsh

Darllenwch ein gofynion ar gyfer ymgeiswyr yr etholiadau lleol

Rydym yn galw ar lywodraeth leol i gyflewni arweinyddiaeth uchelgeisiol i sicrhau adferiad cynaliadwy ar ôl y pandemig sy’n deg i bob person yng Nghymru.

Darllenwch gofynion ein maniffesto.

Agoriad llygaid yw’r pandemig sydd wedi amlygu ac ehangu’r anghyfiawnder sy’n bodoli rhwng pobl a llefydd.

Dyma pam rydym yn gal war lywodraeth leol i gyflenwi arwenyddiaeth uchelgeisiol i sicrhau adferiad cynaliadwy sy’n deg i bob person yng Nghymru.

Mae yna gyfle unigryw i ganolbwyntio ar deithio llesol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gwasanaethu defnyddwyr oll yn gyfiawn, ac i ddarparu Cymru Yfory, i Bawb.

Cyn Etholiadau Lleol Cymraeg 2022, mae Sustrans Cymru wedi gosod ei phedwar gofynion clir ar gyfer ymgeiswyr cynghorol a fydd yn ategu adferiad y DU, creu etifeddiaeth aruthrol ar gyfer cenhedloedd y dyfodol a’i wneud yn haws i bawb cerdded, olwyno a beicio.

Gofynion Etholiadau Lleol 2022 Sustrans Cymru

Gofyniad 1: Symud rhwystrau oddi ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Mae cynghorau Cymraeg wedi ymateb i bryderon pobl ynglŷn â cherbydau anghyfreithlon yn teithio ar balmantau a pharciau gan osod rhwystrau corfforol.

Ond yn aml mae’r rhwystrau yma’n atal trafnidiaeth ddilys – rhieni yn gwthio bygis, defnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudol, neu bobl ar feiciau neu dreiciau sy’n lletach neu’n hirach na’r meintiau arferol.

Mae 1,500 o rwystrau’n parhau i fodoli ar led Cymru.

Gadewch i ni roi’r lle a’r cyfle i bobl symud gan waredu neu ailgynllunio pob rhwystr cyfyngol ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

 

Gofyniad 2: Creu trefi a dinasoedd sy’n blaenoriaethu pobl yn gyntaf gan wneud cymdogaethau 20-munud yn egwyddor canolog ym mhlannu lleol, trafnidiaeth, iechyd a pholisi economaidd.

Bydd rhwydweithiau deniadol beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn galluogi pobl i gyrraedd ardaloedd eraill.

Mae cymdogaethau 20-munud yn cefnogi datblygu lleol, y strydoedd mawr, swyddi a’r economi lleol wrth leihau tlodi trafnidiaeth ac ynysiad.

Mae llawer o bobl ar draws Cymru wedi bod yn fyw yn llawer mwy lleol ers y cyfnod clo, ond yn rhy aml mae pobl wedi’u hynysu.

Dylai pawb gallu cyrraedd gwasanaethau angenrheidiol, mannau gwyrdd a chysylltu ag eraill, heb ots am ei gefndir demograffaidd.

 

Gofyniad 3: Sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n cael mynediad i feic, a hyfforddiant beicio am ddim.

Mae beicio’n wych ar gyfer plant:

  • Mae’n helpu nhw i gael y 60 munud argymelledig o ymarfer corff dyddiol
  • Mae athrawon yn adrodd bod plant sy’n cerdded a beicio i’r ysgol yn fwy bywiog
  • Mae’n hwyl a sbri, ac yn gallu teimlo’n lot fwy cyffrous na theithio gan gar
  • Gall beicio helpu plant i ddod i nabod eu hardal a theimlo’n rhan ohoni.

Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael mynediad i feiciau, ac yn teimlo’n hyderus wrth yrru nhw, er mwyn iddynt elwa o’r manteision yma.

Mae beicio’n datblygu sgiliau ac yn cyddu hyder plant ar yr hewl.

 

Gofyniad 4: Adeiladu llwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel ar gyfer pob tref a dinas, yn seiliedig ar ymatebion Mapio Rhwydwaith Teithio Llesol.

Y modd gorau i lwyddo wrth annog cerdded a beicio yw sicrhau bod ein hewlydd, strydoedd a mannau cyhoeddus yn cael eu blaenoriaethu fel llefydd ymhle gall pobl o bob oedran a gallu symud o gwmpas yn gyfleus, yn hyderus ac yn ddiogel heb gar.

Gall llwybrau mewn llefydd da, wedi’ seilio ar ymatebion Mapio Llwybrau Teithio Llesol, helpu i leihau annhegwch cymdetihasol gan gynyddu mynediad i swyddi, addysg a gwasanaethau, wrth wella iechyd a chynhwysiad cymdeithasol.

  

Rhannwch y dudalen hon

 Linkedin icon Email icon