Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 4th AUGUST 2022

Sut mae defnydd Sustrans o dechnoleg glyfar yn arwain at benderfyniadau glyfrach

Yn Sustrans, rydym wedi ymrwymo at ei wneud yn haws i gerdded, olwyno, a beicio, ac er mwyn gwneud ein cymunedau yn ddinasoedd a threfi ar draws Cymru’n llefydd mwy cyfeillgar, diogel, a mwy hygyrch i bawb. Pan rydym yn cynllunio a dylunio isadeiledd sy’n annog pobl i gerdded neu feicio’n fwy, mae’n bwysig bod gennym ddealltwriaeth dda o ymddygiadau cymhleth defnyddwyr hewlydd. Yn y blog yma, mae Thaisa Wells, Uwch Ddylunydd Trefol, yn sôn am ddefnydd technoleg glyfar a’i rôl ganolog yn ystod y proses dylunio.

Camerâu deallusrwydd artiffisial yn dangos teithiau cerddwyr tu allan i ardal un o'n prosiectau. Llun gan: Street Systems.

Bu Sustrans yn defnyddio technoleg sydd ar flaen y gad sy’n cynnig mewnwelediadau syfrdanol i symudiad a llif cerddwyr, beicwyr, a cherbydau mewn amgylcheddau adeiledig.

Mae gan y dechnoleg glyfar yma’r gallu i chwarae rhan fawr wrth gefnogi’n partneriaid pan eu bod nhw’n cynllunio gwelliannau i isadeiledd a mentrau teithio llesol.

O ganlyniad i gamerâu deallusrwydd artiffisial (DA), gallan nawr cynnig data gwaelodlin a mesur trawiad mewn lot mwy o ddyfnder na methodoleg draddodiadol.

Gall camerâu DA dangos y symudedd ar hewlydd yn lle dim ond cyfrifon a chyflymderau cerbydau, gan ddarparu llun defnyddiol o ryngweithiadau defnyddwyr ffyrdd.

Patrymau symudedd cerbydau a cherddwyr yn cael eu dal gan gamerâu deallusrwydd artiffisial yng nghanol dref Merthyr Tudful. Llun gan: Street Systems.

Astudiaeth achos - Merthyr Tudful

Un enghraifft o’r ffordd rydym wedi defnyddio’r dechnoleg yma yw’r arolwg wedi’ wneud gan Sustrans ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Canolbwynt yr arolwg yma oedd symudedd ac ymddygiad cerbydau a cherddwyr yn ac o gwmpas canol dref Merthyr Tudful.

Ein pwrpas oedd asesu’r posibilrwydd o welliannau awgrymedig i’r rhwydwaith cerdded i ddwy gyffyrdd pwysig a phrysur, yn ogystal â chanol y dref.

Defnyddiodd yr arolwg 29 o’r camerâu DA dros gyfnod o dri diwrnod, wedi’ gefnogi gan arolygon yn y man a’r lle, i ddeall sut a pham mae pobl yn cerdded yn ac o gwmpas canol y dref.

Dangosodd y camerâu DA, er enghraifft, y mynediadau ac allanfeydd mwyaf peryglus cylchfannau.

Gall y camerâu recordio sefyllfaoedd peryglus fel methiannau agos ac achosion pan oedd cerddwyr ar y ffyrdd efo cerbydau’n symud.

Dangosodd symudiadau cerbydau a ddaliwyd gan y camerâu DA rhai llwybrau cyffredin – yn cael eu hadnabod fel “llinellau dymuniad” – a chymerwyd gan yrwyr.

Gwelsom o’r llwybrau yma roedd crin dipyn o’r briffordd yn edrych fel petai’n cael ei thanddefnyddio.

O ganlyniad, mae gennym yr achos ar gyfer gwneud newidiadau – mae’r potensial i leihau lledau priffyrdd, gwneud newidiadau i geometreg cyffyrdd, ac ailddyrannu gwagle er lles cerddwyr.

Dangosodd symudiadau cerddwyr gan y camerâu DA eu llinellau dymuniad cyfatebol, a chefnogodd y penderfyniad i leoli croesfan yn ôl y cynnig dan arolwg, yn ogystal ag amlinellu’r angen am fwy.

Mae data’r cerddwyr hefyd yn cefnogi’r cynnig i gyfyngu cerbydau mewn rhan o ganol y dref, yn rhoi’r cyfle i ystyried darpariaeth lesol a siopa hygyrch ychwanegol.

Cynorthwyodd y dechnoleg camerâu DA i drwytho’r ymarferoldeb, defnyddioldeb, a gwrthdrawiad y cynigion gan fesur ymddygiadau cerddwyr a cherbydau ym mhob lleoliad yr arolwg.

Patrymau symudedd cerbydau tu allan i Ysgol Gynradd Fairfield ym Mhenarth. Llun gan: Street Systems.

Astudiaeth achos - Ysgol Gynradd Fairfield, Penarth

Mae Sustrans wrthi’n darparu prosiect cymunedol dylunio stryd mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, yn cynnwys Ysgol Gynradd Fairfield a’r gymuned gyfagos.

Y nod yw i greu dull o ddylunio amgylchedd diogel ac atyniadol ar gyfer cerdded, olwyno, a beicio i bawb sy’n blaenoriaethu pobl.

Cafodd pedwar camera DA eu gosod o gwmpas yr ysgol i ddal symudiadau cerbydau a cherddwyr dros ddau ddiwrnod.

Gan ddefnyddio’r dechnoleg yma, roedd yn bosib i ni ddeall patrymau defnyddio ffyrdd a rhyngweithiadau cerddwyr a cherbydau yn ystod cyfnodau gollwng a chasglu ar y stryd o flaen yr ysgol.

Dangosodd y camerâu’n glir bod amgylchedd anniogel i blant teithio’n llesol i’r ysgol, o ganlyniad i’r nifer o a lleoliad cerbydau.

Amlygodd symudedd cerddwyr eu bod nhw’n defnyddio’r briffordd yn aml, a bod eu llinellau dymuniad yn dangos ble dyle croesfannau delfrydol cael eu lleoli a ble dyle palmantau cael eu lledaenu.

Dangosodd y camerâu bod yna system unffordd anffurfiol ar hyd y stryd tu allan i’r ysgol, ond dangoson nhw hefyd yr anhrefn sy’n cael ei achosi pan nad yw un neu ddau gerbyd yn dilyn y system yma.

Mae’r setiau ddata’n cael eu dadansoddi a’u defnyddio trwy gydol y proses cyd-ddylunio i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau a chyfathrebu problemau penodol adnabyddedig i hapddalwyr, cymuned yr ysgol, rhieni, a thrigolion lleol.

 

Dyfodol dylunio ar gyfer teithio llesol

Mae dinasoedd a threfi wedi cael eu dylunio o gwmpas ceir am rhy hir, gan adael llai o le i gerdded, beicio, a chyfleoedd cymdeithasol.

Yma yn Sustrans, rydym yn creu llefydd sy’n blaenoriaethu’r bobl sy’n byw ac sy’n treulio amser yna.

Mae dealltwriaeth well o gymhlethdod llefydd a deinamigau eu holl ddefnyddwyr yn angenrheidiol i wella ffyrdd teithio llesol ac annog mwy o deithio llesol.

Mae gan fewnwelediadau data gan gamerâu DA eu rhan i chwarae wrth gyfarparu Awdurdodau Lleol i wneud penderfyniadau sy’n fwy deallus ac yn y diwedd creu newid parhaus a phositif sy’n cefnogi gwell ffordd o deithio i ni gyd.

Share this page

Darllenwch fwy o newyddion a blogiau am ein gwaith yng Nghymru.