Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 24th OCTOBER 2023

Disgyblion o Ogledd Cymru yn codi arian efo taith gerdded ac olwyno noddedig er mwyn prynu fflyd o feiciau addasedig

Cymerodd disgyblion o Ysgol Pendalar, ysgol anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaernarfon, rhan yn ddiweddar mewn taith cerdded ac olwyno noddedig i godi arian am fflyd o feiciau addasedig ar gyfer yr ysgol. Gan gydweithio â rhaglen Teithiau Iach Sustrans, mae’r ysgol wedi dangos ei hymrwymiad at gynhwysiad.

A parent and child from Ysgol Pendalar, Caernarfon, taking part in a sponsored walk and wheel.

Mae cymuned Ysgol Pendalar wedi dod at ei gilydd i godi arian ar gyfer fflyd o feiciau addasedig. Llun gan: Debbie Humprheys/Sustrans.

Bu disgyblion Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon yn cymryd rhan yn ddiweddar mewn taith cerdded ac olwyno noddedig y pellter o’u hysgol i’r Wyddfa.

Yn cydweithio â thîm Diogelwch Ffordd Cyngor Gwynedd a rhaglen Teithiau Iach Sustrans, mae’r ysgol wedi tanlinellu’ hymrwymiad at gynhwysiad.

Mae’r ysgol, sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen Teithiau Iach a ariannir gan Lywodraeth Cymru ers Medi 2022, wedi pleidio achos cynhwysiad mewn teithio llesol ar gyfer ei ddisgyblion.

Mae gan bob disgybl rhyw lefel o anghenion dysgu ychwanegol, efo disgyblion yn mynychu’r ysgol o’r oedran 3 i 19.

Cafodd y disgyblion eu gofyn, pe bai un dymuniad ganddynt, beth fyddai eu dymuniad?

Eu hymateb oedd cael trac addas ar dir yr ysgol i ymarfer sgiliau seiclo a sgwtera’n ddiogel, a llwybr cyd-ddefnyddio o’r ysgol i’w galluogi nhw i ymarfer eu sgiliau yn yr ardal leol.

 

Dal ar gyfle i wella cynhwysiad

Cafodd taid un o’r disgyblion y syniad i godi arian er mwyn prynu fflyd o feiciau addasedig i’r ysgol, gan ddringo’r Wyddfa.

O ganlyniad, trefnodd yr ysgol taith cerdded ac olwyno o Lanberis ar hyd y ffordd Lôn Las Peris.

Cafodd disgyblion, rhieni a gwarchodwyr, yn ogystal â chyn-ddisgyblion, eu gwahodd i gymryd rhan.

Yn dilyn hynny, awgrymodd y Swyddog Teithiau Iach trefnu taith cerdded ac olwyno noddedig yn ystod wythnos llesiant yr ysgol.

Medrodd rhieni, gwarchodwyr, a disgyblion seiclo, cerdded, ac olwyno’r pellter o’r Wyddfa i’r ysgol – eu cyfanswm presennol yw £1,860.

“Mae pob ymweliad i’r ysgol yma’n ysbrydoledig, ac mae wynebau hapus y disgyblion yn dweud y cyfan wrth iddynt brofi amrywiaeth o gyfleoedd,” medd Debbie Humphreys, Swyddog Teithiau Iach Gogledd Orllewin Cymru.

Aeth Gwyn Owen ymlaen i drefnu taith cerdded noddedig – yn lle codi’r Yr Wyddfa yn unig, bennodd y daith cerdded efo cyfanswm o £955 ar ôl iddo fe a thîm o 12 eraill cyflawni’r her 15 Copâu Cymreig.

Nid yw’r codi arian wedi gorffen yna chwaith, efo tad un o’r disgyblion yn mynnu dathlu ei 50fed penblwydd gan seiclo 50 milltir ar feic sefydlog.

I godi arian tuag at brynu beiciau addasedig ar gyfer yr ysgol, mae e’n ofyn i bobl dyfalu pa mor hir bydd am gymryd gan gyfrannu £1 am bob cynnig – ei gyfanswm hyd yn hyn yw £880.

 

Dangos ymrwymiad go iawn at deithio llesol

Mae’r ysgol o 120 o ddisgyblion wedi bod yn aelod ymroddedig i raglen Teithiau Iach Sustrans Cymru, ac mae hyn yn ymdrech sy’n mynd ymlaen i sicrhau gall pawb cymryd rhan mewn teithio llesol.

Ers ymuno â’r rhaglen, mae’r ysgol wedi cynnal cyfarfodydd cyson efo Pencampwyr Teithiau Iach i drafod sut gall y rhaglen a Gwobr Ysgol Teithio Llesol Sustrans cael eu haddasu er mwyn cynnwys pawb.

Mae Swyddog Teithiau Iach lleol Sustrans Cymru wedi trefnu sesiynau blasu er mwyn i ddisgyblion ieuengaf yr ysgol ceisio defnyddio beiciau balans, diolch i gefnogaeth Byw’n Iach.

Mae Ysgol Pendalar hefyd wedi cymryd rhan mewn her Stroliwch a Roliwch Sustrans, gan orffen yn ail yn y gorffennol yng nghategori ysgolion cyfun a gan ennill sgwteri i’r ysgol ar gyfer eu hymdrechion.

Mae staff yr ysgol hefyd wedi derbyn hyfforddiant sgiliau sgwtera gan y Swyddog Teithiau Iach lleol ac maent am dderbyn hyfforddiant beiciau balans yn y tymor newydd.

Diolch i dîm Diogelwch Ffordd Cyngor Gwynedd, mae’r disgyblion hefyd wedi cymryd rhan mewn sesiynau sgiliau diogelwch ffordd gan yr awdurdod lleol, yn helpu i’w paratoi ar gyfer teithio tu allan i’r ysgol.

A parent and child riding an adaptive bicycle in an indoor setting for Ysgol Pendalar's sponsored walk and wheel.

Mae rhieni, gwarchodwyr, disgyblion, a chyn-ddisgyblion i gyd wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau i godi arian. Llun gan: Debbie Humphreys/Sustrans.

“Mae’r rhaglen Teithiau Iach wedi ein hybu i fod yn fwy ymwybodol o symud a theithio’n llesol,” dwedodd Iola Jones, Pencampwr Teithiau Iach Ysgol Pendalar.

“Mae’r disgyblion wedi cael nifer o brofiadau cyffrous ac wedi cymryd rhan a mwynhau pob cyfle.”

“Cawsom wasanaeth uwchradd, wedi’ baratoi gan ein Swyddog Teithiau Iach, ac roedd yr ymateb yn wych, o safbwynt adnabod llawer iawn o bethau gallwn ni ei wneud i deithio’n llesol adref ac yn yr ysgol.”

“Mae effaith cymryd rhan yn y gweithgareddau llesol yn yr ysgol yn amlwg ar y plant, wrth eu gweld yn mwynhau bod yn actif wrth ddysgu sgiliau newydd.”

 

Partneriaethau o dan ddatblygiad yn chwarae rôl hanfodol

Mae’r ysgol hefyd wedi bod yn gweithio i ddatblygu a chryfhau partneriaeth â Beics Antur, cangen o’r fenter gymdeithasol Antur Waunfawr sydd wedi’ leoli yng Ngwynedd.

Mae’r cydweithrediad rhwng Ysgol Pendalar a Beics Antur dros y flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at ddisgyblion yn mwynhau sesiynau dysgu seiclo wythnosol ar dir yr ysgol ac ar ffordd seiclo leol yng Nghaernarfon.

Diolch i’r amrediad o feiciau sydd ar gael gan Feics Antur, mae’n gyfle euraidd i ddisgyblion hybu sgiliau seiclo.

Mae’r disgyblion hefyd wedi cael mynediad at feiciau diolch i Cycle Power, clwb seiclo cynhwysol lleol, efo plant a’u teuluoedd yn cael eu hannog i ymuno ar deithiau penwythnos ar hyd Lôn Las Menai.

Mae Ysgol Pendalar hefyd wedi gallu trefnu sesiynau cynnal wythnosol efo Beics Antur fel i ddisgyblion datblygu sgiliau yn ogystal â’u hannibyniaeth.

Share this page

Darllenwch am y newyddion diweddaraf o Gymru