Mae Sustrans wedi bod yn cydweithio â mudiadau sector cyhoeddus gwahanol yng Nghymru sydd wedi arwyddo lan i’r Siartr Teithio Llesol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Hyd yn hyn, mae’r elusen wedi cefnogi mudiadau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, Gwent, a Bae Abertawe, yn helpu eu gweithwyr i ganfod hyder mewn teithio llesol a chynaliadwy.
Mae Sustrans wedi bod yn gweithio â mudiadau sector cyhoeddus i gefnogi ac annog staff i deithio'n llesol ac yn gynaliadwy. Llun gan: Steve Chantrell/Sustrans.
Mae Sustrans yn angerddol am gyflawni prosiectau sy’n adfywio cymunedau, ac mae hynny’n wir am y byd proffesiynol hefyd.
Rydym wedi bod yn gweithio efo mudiadau gwahanol sy’n llofnodwyr i Siarteri Teithio Llesol Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, Gwent, a Bae Abertawe.
Nod y gwaith yma felly yw i gefnogi’r mudiadau yma i wneud newid ystyrlon i’r ffordd mae’u gweithwyr yn teithio a gweithio
Mae’r Siarteri Teithio Llesol yn gytundebau rhwng mudiadau’r sector cyhoeddus ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gydweithio er mwyn sicrhau bod teithio’r dyfodol i weithwyr yn newid i fod yn fwy cynaliadwy.
Y syniad, yn y bôn, yw gwneud opsiynau teithio’n fwy cynaliadwy a chanolbwyntio’n fwy ar iechyd a lles yr unigolyn
Pam yw teithio iach yn bwysig?
Mae bywyd cyfoes a chymdeithas sy’n canolbwyntio ar geir wedi cyfrannu at lefelau dirywiol o weithgarwch corfforol.
Mae hyn hefyd wedi arwain at gynyddiad ym mhroblemau iechyd sy’n gysylltiedig â diffyg ymarfer corff.
Ffactorwch lygredd aer ar led, unigedd cymdeithasol, ac anghyfiawnderau iechyd difrifol yn ogystal ag argyfwng hinsawdd sy’n gwaethygu ac yn cael ei deimlo ar draws y byd, mae hyn i gyd wedi amlinellu’r angen am newid.
Dyna pam, yma yng Nghymru, mae yna ffordd radicalaidd newydd yn y modd rydym yn teithio yn cael ei ymdopi.
Beth sy’n cael ei wneud yng Ngwent, Bae Abertawe, a Chaerdydd a Bro Morgannwg?
Mae mudiadau ar draws Cymru’n dangos eu hymrwymiad tuag at foddau iachach a mwy cynaliadwy o deithio, gan arwyddo Siartr Teithio Llesol yn gyhoeddus.
Mae pob Siartr yn cynnwys cyfres o ymroddiadau bydd y mudiad yn wneud dros 2 neu 3 flynedd i gefnogi eu staff ac ymwelwyr i gerdded a seiclo’n fwy, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a newid i gerbydau trydanol.
I gyd-fynd ag hynny, mae Sustrans wedi rhannu ei wybodaeth a’i brofiad o gerdded, olwyno, a seiclo, gan gefnogi gweithwyr efo opsiynau teithio gwahanol.
Un o’r rhwystrau mwyaf i lawer yw diffyg profiad neu hyder mewn amnewid y car am deithio’n llesol.
Er mwyn mynd i’r afael ag hynny, mae Sustrans wedi sefydlu llyfrgelloedd beiciau, efo amrediad o e-feiciau, beiciau arferol, a sgwteri sydd ar gael i’w fenthyg am ddim i weithwyr mudiadau sydd wedi llofnodi Siartr Teithio Llesol.
Y gobaith yw gan wneud y rhain ar gael am ddim i weithwyr, byddant wedi’u hannog a’u galluogi i wneud y newidiadau i sut maent yn teithio i’w swyddi ac yn ystod gwaith.
Dwedodd Steven Chantrell, Swyddog Teithio Llesol Gwent ar gyfer Sustrans Cymru: “Mae yna cymaint o bobl sydd eisiau newid y ffordd maent yn teithio i’r gwaith, ond dydyn nhw ddim yn gwybod ble i ddechrau neu’r opsiynau sydd ar gael iddynt.”
“Gan roi’r cyfle i bobl treialu defnyddio e-feic o’r llyfrgelloedd beiciau a’u trwytho am yr opsiynau prynu sydd ar gael trwy’r cynllun Beicio i’r Gwaith, rydym yn helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am deithio cynaliadwy yn ogystal â gwaredu rhwystrau sy’n bodoli.”
Sut mae Sustrans yn mynd â theithio llesol i’r bobl
Efo cefnogaeth y mudiadau llofnodol, mae Sustrans wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws eu gweithleoedd.
Y nod yw cyflwyno cerdded, olwyno, a seiclo a’r manteision o newid teithio mewn car am foddion mwy cynaliadwy o deithio yn uniongyrchol i weithwyr yn eu gweithle.
Dywedodd Tracey Redwood, arweinydd y Siartr Teithio Llesol yng Ngwent: "Mae'r Llyfrgell Beiciau Gwent a'r Cynllun Benthyciad Beic yn fentrau sy'n cynnig mynediad rhwydd at feiciau, e-feiciau, a sgwteri i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan."
"Rydym yn annog ein holl staff i gadw'n heini ac i leihau eu hallyriadau carbon ble bynnag sy'n bosib - mae'r mentrau a chynigir gan Sustrans yn foddion gwych sy'n eu helpu nhw i gyflawni’r nod yma."
Mae Sustrans wedi cynnal sesiynau ble gall staff mudiadau sydd wedi llofnodi Siartr Teithio Llesol cael cyfle i dreialu moddion gwahanol o deithio cynaliadwy'n ddiogel. Llun gan: Steve Chantrell/Sustrans.
Mae ofn o ladrad beiciau yn rhwystr sylweddol arall ar gyfer y rheini sydd eisiau symud i ffwrdd o deithio i waith mewn car.
Yn ogystal â gweithio efo llofnodwyr y Siarteri Teithio Llesol, mae Sustrans wedi bod yn gweithio efo Heddlu Gwent a De Cymru i leihau trosedd beiciau gan gynnal digwyddiadau cofrestru a marcio beiciau i’r cyhoedd.
Gan gefnogi mudiadau sector cyhoeddus i wneud newidiadau sylweddol ac annog eu gweithwyr i deithio’n fwy cynaliadwy, mae Sustrans yn helpu pobl yng Nghymru i wneud newidiadau o bwys.