Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 12th JANUARY 2024

Newidiodd fy mherthynas â seiclo ar ôl benthyg e-feic: Stori Nia

Doedd Nia dim yn seiclwr hyderus neu frwd cyn iddi fenthyg e-feic oddi wrth Sustrans. Newidiodd hynny’n gyfan gwbl diolch i E-Symud, y prosiect a ariannir gan Lywodraeth Cymru sy’n gwneud e-feiciau’n hygyrch i bobl ar led Cymru. Arweiniodd hyn at daith a newidiodd ei pherthynas hi â seiclo.

Nia on her e-bike with an attachment on the back, on the coastline.

Cafodd Nia ei ysbrydoli nôl i seiclo ar ôl iddi gael benthyg e-feic trwy’r prosiect E-Symud. Llun gan: Nia Owen.

Er iddi wedi mynd ar gefn beic ychydig o weithiau fel oedolyn, yn gyffredinol nid oedd seiclo am Nia.

Roedd ganddi feic adref heb iddi erioed yn wirioneddol ei hoffi.

Roedd yn anodd iddi wneud unrhyw beth oni bai am deithiau fflat o ganlyniad i boen yn ei phen-glin a daeth ymlaen wrth iddi ddringo.

Ond, newidiodd popeth pan yn hydref 2022 benthycodd Nia e-feic trwy brosiect E-Symud Sustrans.

“Gwnaeth yr e-feic ar fenthyg o Sustrans ei wneud yn bosib i mi seiclo’n ddigon aml a digon pell i sylweddoli beth gall bywyd edrych fel efo beic,” dwedodd Nia.

“Roedd yn bosib i ni ddeall sut gallen ei ddefnyddio fel teulu, heb fentro ar gost prynu e-feic cyn gwybod os bydd yn gweithio ar ein cyfer ni.”

E-Symud yw prosiect a ariannir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei weithredu mewn pum lleoliad ar draws Cymru, yn galluogi pobl i fenthyg e-feic am ddim am fis.

 

Galluogi pobl i newid sut maent yn teithio

Y diwrnod cyntaf cafodd Nia’r e-feic, teithiodd hi’r holl chwe milltir adref ar ei gefn, a dyma oedd dechreuad trawsnewidiad mewn perthynas Nia â seiclo.

Y diwrnod ar ôl iddi gymryd yr e-feic adref, mi aeth hi allan unwaith eto, y tro yma’n mynd am daith 16 milltir arfordirol.

Gan ddelio efo’r ddwy ddringfa fer ond serth, aeth Nia allan nôl ati unwaith yn rhagor y diwrnod nesaf efo taith o gwmpas rhai parciau lleol.

Yn ogystal â bod yn ddelfrydol ar gyfer hamdden, mae e-feiciau’n cynnig dewis arall go iawn, ymarferol o safbwynt teithio.

Yn fuan, roedd Nia yn ymweld â’i brawd, hyd yn oed yn teithio’r ffordd 24 milltir hirach, dawelach ar yr arfordir er mwyn osgoi traffig.

 

Cychwyn cariad am deithio’n llesol

Roedd yr effaith positif o fenthyg e-feic trwy E-Symud yn glir i’w weld – taniodd cysylltiad â seiclo nad oedd Nia wedi profi o’r blaen.

Ymhen wythnos o fenthyg yr e-feic, roedd Nia yn mynd allan ar deithiau 30 milltir, yn halio  olgert efo’i nith pum mlwydd oed.

Yn ystod y pythefnos cyntaf o’i benthyciad o’r e-feic, roedd Nia wedi seiclo’n fwy ac yn bellach nag unrhyw adeg erioed yn ystod ei bywyd fel oedolyn.

“Fel teulu, mae wedi ein caniatáu ni i seiclo i lefydd bydden wedi gyrru i fel arall,” medd Nia.

“Nawr mae seiclo’n rhan o’n fywydau dyddiol trwy gydol y flwyddyn!”

O ganlyniad i wneud e-feic ar gael am ddim am fis, roedd Nia yn gallu cysylltu efo seiclo a theithio’n llesol mewn ffordd nad oedd hi wedi profi o’r blaen.

Arweiniodd hyn at brynu e-feic ei hun, ar ôl canfod e-feic ar werth am fargen yn hwyrach yn y flwyddyn.

Image of Nia on her e-bike with a trailer attached, wearing waterproof gear.

Nia, yn barod am y gwynt a’r glaw, ar ei e-feic efo olgert ei merch. Llun gan: Nia Owen.

E-feiciau yn arwain at ffyrdd gwahanol o deithio

Ers gwneud defnydd o’r prosiect E-Symud a phrynu e-feic ei hun, mae Nia wedi ymrwymo’n llawn at seiclo fel modd o deithio.

Mae’r trawsnewidiad yn golygu ei bod hi’n aml nawr yn dewis y beic yn lle’r car.

Yn ystod yr haf, dechreuodd Nia ar drefn newydd er mwyn normaleiddio seiclo, gan gymryd ei merch ar yr e-feic i ymweld â’i thaid a’i nain.

Yn gynt, bydd y daith yma wedi cael ei wneud gan yrru.

Nawr, mae Nia yn mynd allan ar ei e-feic yn rheolaidd, weithiau yn teithio arni pob diwrnod o’r wythnos.

“I ddweud bod benthyg e-feic oddi wrth Sustrans wedi newid bywyd Nia o safbwynt teithio’n llesol, dyna tanosodiad,” dwedodd Tom, ei phartner.

“Mae wedi helpu datgloi seiclwr hynod alluog a hyderus, ac wedi gwneud teithio llesol yn rhan o fywyd pob dydd.”

“Mae wedi dod yn ystod amser ble gallai effeithio bywyd arall yn y bôn hefyd.”

“Mae ein merch nawr yn 22 mis ac mi fydd hi’n tyfu lan gan wybod bod beiciau, olgerti, a seddi plant yn rhan arferol o fywyd pob dydd, ac yn dewis dichonadwy i’r car!”

Os ydych yn fyw yn Y Rhyl, neu’r ardal gyfagos, a bod gennych ddiddordeb mewn benthyg e-feic am ddim am fis, cysylltwch â Jonny Eldridge ar e-bost neu gan ei alw ar 07922 875131.

 

Canfyddwch fwy am y prosiect E-Symud, sydd wedi’ ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Share this page

Darganfyddwch yr hyn rydym yn gwneud yng Nghymru