Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 25th OCTOBER 2023

Cyngor Bro Morgannwg yn lansio prosiect e-feiciau dyfeisgar i helpu gweithwyr gofal cartref mynd i’r gwaith

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi partneru â Sustrans Cymru i lansio prosiect cyffrous newydd, Teithio â Gofal. Bydd y prosiect yma’n olygu gall gweithwyr gofal cartref ym Mro Morgannwg, De Cymru, benthyg e-feic am ddim er mwyn teithio i’r gwaith. Yn ogystal ag annog buddion iechyd a lles, un o obeithion y prosiect yw i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau ymhlith trafnidiaeth.

A turquoise e-bike parked in front of a waterfront in Barry, South Wales.

Mae Sustrans yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg ar y prosiect arloesol yma i ddarparu trafnidiaeth gynaliadwy. Llun gan: Jonathan Bewley/Sustrans.

Mae Cyngor Bro Morgannwg a Sustrans wedi partneru i ddarparu prosiect dyfeisgar newydd a all newid yn llwyr y ffordd y mae gweithwyr gofal cartref yn y Fro yn teithio ar gyfer gwaith.

Bydd y prosiect Teithio â Gofal yn weld y Cyngor yn prynu fflyd o 30 e-feiciau a all cael eu defnyddio gan weithwyr gofal cartref fel cerbydau cwmni er mwyn teithio i’r gwaith.

Mae gweithwyr gofal cartref presennol yn debygol o fod yn gerddwyr, heb fynediad at gerbyd preifat a dim ond trafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig ar gael i gwrdd â’u hanghenion, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig y Fro.

Gobeithia’r Cyngor bydd gweithwyr gofal sydd eisiau nawr yn gallu seiclo ar e-feiciau rhwng apwyntiadau, a bydd gofalwyr cymhwysol newydd sydd methu gyrru ac wedi dewis fel arall i weithio mewn gofal preswyl, bydd nawr ganddynt yr opsiwn o fynd mewn i ofal cartref gan ddefnyddio e-feic rhwng apwyntiadau.

 

Cydweithio i roi’r gallu i bobl

Bydd gweithwyr sydd angen e-feic i fynd i apwyntiadau cartrefol yn gallu benthyg un mor hir ag sydd angen arnynt, efo cyfnod peilot y prosiect i redeg am flwyddyn o Hydref 2023.

Bydd gweithwyr gofal hefyd yn derbyn yr holl offer sydd angen arnynt i deithio o gwmpas Bro Morgannwg ar gyfer eu gwaith gofal, gan gynnwys panieri, helmedau, cloeau beic, festiau gweladwy, a dillad gwrth-ddŵr.

 

Gwneud yr ymrwymiad i deithio cynaliadwy

Yn siarad ar effaith gall Teithio â Gofal cael, dwedodd Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae’r bartneriaeth newydd gyda Sustrans Cymru’n wych ar gyfer ein staff, y bobl maent yn cefnogi, a’r Cyngor ar y cyfan.”

“Mae manteision ymarfer corff cyson yn adnabyddus. Ar gyfer swydd a all fel arall cynnwys llawer o amser yn eistedd mewn car, mae’r e-feiciau’n ffordd ardderchog i helpu ein gofalwyr cadw’n heini ac yn iach. Mae ‘na buddion lles meddyliol i’w cael hefyd.”

“Mae’r prosiect hefyd yn meddwl gallwn recriwtio pobl sydd heb fynediad at gerbyd ei hun a chynnig rhywbeth bach yn wahanol i recriwtiaid newydd.”

“Mae’r buddion i’n cleifion yn glir, y ffaith bydd ein staff yn gallu trafeilio’n lot yn haws.”

“Bydd y rheini sy’n gweithio mewn trefi, ble mae’r prosiect am gael ei ffocysu’n bennaf, yn gallu teithio’n gyflym rhwng cartrefi mewn ardaloedd adeiledig ble gall tagfeydd bod yn broblem.”

“Yn y cyfamser, gall eraill sy’n gweithredu mewn ardaloedd gwledig cael mynediad at ffyrdd sydd heb fod ar gael i geir.”

“Bydd y fenter hefyd yn helpu’r Cyngor i gwrdd â’i ymrwymiad Prosiect Sero i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.”

 

Mynd i’r afael ag anghyfiawnderau mewn trafnidiaeth

Mae gwaith ymchwil blaenorol Sustrans wedi dangos bod menywod yn cael eu heffeithio’n anghyfartal yng nghyd-destun anghyfiawnderau trafnidiaeth - dangosir Mynegai Cerdded a Seiclo Sustrans bod, ar led y DU, mae menywod yn llai tebygol o seiclo na ddynion.

Yr un peth sy’n wir ar gyfer pobl Du, Brodorol, a Phobl o Liw o’u cymharu â’u cyfatebwyr Gwyn, ac mae’r demograffig o ofalwyr cartref yn Fro Morgannwg yn bennaf yn fenywod a chanran uchel o bobl Du, Brodorol, a Phobl o Liw.

Un o’r gobeithion ar gyfer Teithio â Gofal yw gan wneud e-feiciau ar gael am ddim am mor hir ag sydd eu hangen i weithwyr gofal cartref, bydd y prosiect yma’n cael effaith positif anferth ar y grwpiau yma sy’n cael eu heffeithio’n anghyfartal a’u galluogi nhw i deithio’n llesol.

Blockquote quotation marks
Mae’r buddion i’n cleifion yn glir, y ffaith bydd ein staff yn gallu trafeilio’n lot yn haws. Blockquote quotation marks
Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, Cyngor Bro Morgannwg

Gwneud teithio llesol yn faes sy’n newid y gêm

Bydd Sustrans yn mynd â’r beiciau i’r staff, yn darparu hyfforddiant ar sut i ddefnyddio a gyrru’r beiciau’n ddiogel iddynt, a hybu unrhyw waith cynnal neu drwsio sydd angen, efo’r nod o gael cyn lleied o effaith ar allu’r gofalwyr i wneud eu swyddi.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan nawdd oedd yn wreiddiol yn fwriadol i alluogi awdurdodau lleol i gynyddu gallu gwasanaeth cymorth cartref trwy ariannu gwersi gyrru a chynnig mynediad at gerbydau trydan.

Gan benderfynu i ffocysu buddsoddiad ar e-feiciau, mae’r Cyngor yn hyrwyddo’i agenda datgarboneiddio tra’n gefnogi ei staff gan wella’u hiechyd a lles meddyliol trwy deithio llesol.

Medd Liz Rees, Rheolwr Rhaglen yn Sustrans Cymru: “Dyma gyfle cyffrous iawn i ni weithio ag awdurdod lleol sydd eisiau arloesi rhywbeth gwahanol.”

“Mae’n dangos ymrwymiad y Cyngor i ddulliau iachach a hapusach o fyw ar gyfer ei staff ac i leihau ei allyriadau carbon, yn cydymffurfio â’i darged sero net 2030.”

“Mae hefyd yn ymddangos bod trafnidiaeth ar gyfer gwaith sy’n ecogyfeillgar yn dewis dilys iawn.”

“Gwyddom fod teithio’n llesol yn helpu pobl efo’u hiechyd a lles, ac mae e-feiciau’n ffordd wych o helpu pobl i deithio o gwmpas ardaloedd efo tirwedd heriol, megis y Fro.”

“Bydd staff gofal nawr yn gallu neidio ar e-feic, a lleihau eu hamser teithio mewn llawer o achosion, cynyddu eu diogelwch personol, a chael yr annibyniaeth i deithio sy’n dod efo’r gallu i seiclo.”

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru