Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 21st NOVEMBER 2023

Tîm Lleoedd Iachach yng Nghymru’n tyfu efo dechreuwyr newydd cyffrous

Mae Sustrans Cymru wedi tyfu’i dîm amgylchedd adeiledig, Lleoedd Iachach, efo’r apwyntiad cyffrous o dri aelod newydd o staff. Efo’r apwyntiadau yma, mae’r tîm dylunio a pheirianneg nawr wedi’ wneud lan yn bennaf gan fenywod, yn tanseilio arferion y diwylliant.

An image of three of Sustrans Cymru's newest starters.

Bydd aelodau newydd o staff Sustrans Cymru’n dod ag ymwybyddiaeth a brwdfrydedd i dîm sy’n herio arferion y diwylliant. Llun gan: Paloma Prasad; Simheca Ilango; Adithya Menon\Sustrans.

Mae Sustrans yn gyffrous i gyhoeddi apwyntiadau newydd i’w dîm Lleoedd Iachach yng Nghymru.

Mae’r apwyntiad o Paloma Prasad, Simheca Ilango, ac Adithya Menon i’r tîm yn dynodi cyfnod cyffrous newydd i dîm dylunio a pheirianneg sydd wedi’ wneud lan yn bennaf gan fenywod.

Mae’r triawd yn raddedigion mewn dylunio trefol a pheirianneg, ac yn cyfrannu ymwybyddiaeth a sgiliau sydd am gyfoethogi gallu Sustrans i greu llefydd hapusach ac iachach i fyw yng Nghymru.

 

Cyfle i gyflawni uchelgeisiau gyrfaol sy’n cyd-fynd â gwerthoedd personol

“Mae gweithio ar gyfer Sustrans yn fy ngalluogi’n weithredol i gyfrannu tuag at greu cymunedau cynaliadwy ac iachus, sy’n cyd-fynd â f’amcanion gyrfaol,” medd Adithya, un o Beirianwyr Graddedig diweddaraf, a pheiriannwr benywaidd cyntaf Sustrans Cymru.

“Fy nod i yw defnyddio fy sgiliau i wthio ymlaen cynlluniau trafnidiaeth gynaliadwy sy’n elwa’r amgylchedd yn ogystal ag ansawdd bywyd pobl.”

Mae’r recriwtiaid newydd yn dod ag ymwybyddiaeth o gynllunio, cynhwysiad, a chynaliadwyedd sydd am alluogi’r tîm i ddatblygu’i gynnig creu lleoedd.

“Mae’r agwedd o gymuned rhwng cenedlaethau wastad wedi f’ymddiddori, ac rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o Sustrans ble gallai cefnogi teithiau cynhwysol, diogel, a hygyrch ar gyfer pobl o bob cefndir a gallu,” esboniodd Simheca, Dylunydd Trefol Graddedig.

Efo syniadau, safbwyntiau, a diddordebau newydd, bydd eu cyfraniad yn gwella’r gefnogaeth gall Sustrans cynnig i awdurdodau lleol a phartneriaid ar draws Cymru.

Sustrans Cymru's design and engineering team sat together for a photo, smiling at the camera.

Y tîm dylunio a pheirianneg yn llawn, yn ceisio gwneud ein cymdogaethau a chymunedau’n llefydd hapusach ac iachach i bawb. Llun gan: Christine Boston\Sustrans.

Cyfleoedd cyffrous newydd i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol

“Ar ôl symud i ddinas newydd ar gyfer y rôl a mynd ati yn y gwaith, mae’n teimlo o’r diwedd fel fy mod i ‘di cyrraedd ble rwyf angen bod,” dwedodd Paloma, hefyd yn Ddylunydd Trefol Graddedig yn nhîm Lleoedd Iachach.

“Mae bod yn rhan o symudiad sy’n hollol gefnogol o f’uchelgeisiau o deithio llesol a phrif ffrydio rhywedd mewn dylunio, chwannog i fod yn academaidd ar ôl prifysgol, a gweithio â phlant a phobl ifanc yn fy nghadw i’n ystyriol ac yn ddiolchgar.”

Yn siarad am yr apwyntiadau, dwedodd Patrick Williams, Pennaeth Lleoedd Iachach: 

“Ers sefydlu tîm dylunio a pheirianneg yng Nghymru yn 2021, rydym wedi medru cynnig mwy o gefnogaeth i awdurdodau lleol fel iddynt gyflawni eu hamcanion.

“Mae rhai o’r gwaith rydym wedi cyflawni’n cynnwys strydoedd ysgolion, uwchgynllunio teithio llesol, a datblygu llwybrau gleision.

“Mae’n adlewyrchu ein cyflawniadau, ein bod ni ‘di medru gwneud yr apwyntiadau yma, sydd am ganiatáu ni i gynyddu ein hymgysylltiad cymunedol a datblygu dyluniadau sy’n hygyrch i bawb.”

 

Datblygu cynnig trwy safbwyntiau a phrofiadau bywyd newydd

Mae’r recriwtiaid newydd yn ymuno â Sustrans Cymru yn ystod cyfnod cyffrous wrth iddi barhau i adeiladu dawn yn ei dîm dylunio a pheirianneg.

Ar ôl cyfnod o dyfiant, mae’n gyffrous i allu cymryd ymlaen cyfleoedd newydd i ddatblygu trefi a dinasoedd, yn dod â chymunedau yn fyw gan ei wneud yn haws i bawb i gerdded, olwyno, a seiclo.

Ychwanegodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru: 

“Mae’n fendigedig i gynyddu’r tîm ac ychwanegu dulliau a syniadau newydd.

“Mae cefnogaeth ar gyfer teithio llesol wedi cefnogi yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar, ac rwy’n gyffrous ar gyfer y cyfraniad mae’r tîm yn gwneud, a’r amgylchedd positif rydym yn creu ar gyfer pobl a chymunedau.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi trawsnewid ein cynnig yng Nghymru ac mae’r apwyntiadau diweddaraf yma’n galluogi ni i barhau i ddarparu mwy o gefnogaeth i drawsnewid y ffordd rydym yn teithio ar gyfer teithiau beunyddiol.”

Yn siarad am sut gall Sustrans apelio at weithwyr posibl, dwedodd Patrick Williams: 

“Mae teithio llesol yn cynnig llwybr cyffrous a gwerthfawr i raddedigion sydd ar ddechrau eu taith yrfaol.

“Credwn fod cyfraniad graddedigion heddiw am chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei ddylunio heddiw yn wirioneddol mynd i’r afael ag anghenion yfory.”

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru