Ymgyrch Stroliwch a Roliwch Sustrans yw her cerdded, defnyddio olwynion, sgwtera a beicio i’r ysgol fwyaf yn y DU. Mae’n ysbrydoli disgyblion i wneud siwrneiau egnïol i’r ysgol i wella ansawdd yr aer yn eu cymdogaethau a darganfod sut mae’r newidiadau hyn o fudd i’w byd.
Sustrans Big Walk and Wheel encourages pupils to go to school by walking, wheeling, scooting or cycling.
Nodwch y dyddiad: gwnewch nodyn yn eich dyddiadur ar gyfer 11 – 22 Mawrth 2024 – Stroliwch a Roliwch Sustrans 2024
Sut i gymryd rhan
Bydd cofrestru’n agor ym mis Ionawr ar wefan Stroliwch a Roliwch.
Caiff holl ysgolion y Deyrnas Unedig gymryd rhan yn Stroliwch a Roliwch Sustrans, mae cofrestru am ddim ac mae’n hawdd cymryd rhan.
Wedi ichi gofrestru, bydd gennych fynediad at enw mewngofnodi i’ch ysgol lle gallwch gofnodi eich siwrneiau ar bob diwrnod yn ystod yr her a chadw golwg ar sut hwyl mae’ch ysgol yn ei gael.
Gallwch hyd yn oed gystadlu gydag ysgolion cyfagos.
Pam cymryd rhan
Ni fu teithio’n llesol ac yn gynaliadwy erioed mor bwysig, mae’n helpu disgyblion gyrraedd yr ysgol yn effro ac yn barod i ddechrau’r diwrnod, ac mae’n creu amgylchedd brafiach o amgylch yr ysgol.
Rydym wedi cynllunio ein hadnoddau rhyngweithiol ar gyfer ysgolion i fod yn hwyliog, hyblyg a llawn gwybodaeth am sut gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Mae’r adnoddau sydd ar gael am ddim yn cynnwys:
- Cynlluniau gwersi sy’n cysylltu â’r cwricwlwm
- Cynghorion doeth
- Cyflwyniad ar gyfer gwasanaeth boreol ysgolion
Helpwch ni gyflawni mwy fyth o siwrneiau egnïol na'r llynedd
Yn 2023, roedd y canlyniadau’n anhygoel.
2,772
Nifer o ysgolion a gofrestrodd i gymryd rhan
616,100
Nifer o ddisgyblion a gymerodd ran
2,667,000
Teithiau egnïol i’r ysgol