Wnaethoch chi fethu manteisio ar Wythnos 2 gweithgareddau TuFasTuFewnSustrans? Dyma gyfle arall.
Crëwch lun 3D o’ch hoff le i fynd am dro neu feicio. Gallai hyn olygu eich bod yn ail-greu eich taith i’r ysgol.
Bydd angen:
Casglwch wastraff a phethau y gellir eu hailgylchu sydd i’w cael o amgylch y tŷ. Gallai’r rhain gynnwys:
Cyfarwyddiadau
Yn gyntaf, mae eisiau golchi popeth yn drylwyr ac yna galli fynd ati i greu dy gampwaith.
Beth am rannu dy ddyluniadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TuFasTuFewnSustrans?
Chwilia o gwmpas dy ardal leol i geisio dod o hyd i bopeth ar dy restr helfa drysor egnïol.
Bydd angen
Alli di gael hyd i rywbeth ar gyfer pob un o’r canlynol yn dy ardal leol?
Rhywbeth... |
i’w ddringo |
i chwarae dal pêl gydag ef |
i gropian oddi tano |
i’w rolio ar hyd y llawr |
i neidio drosto |
i gerdded drosto |
i’w gydbwyso ar dy ben |
i gerdded drosto fel rhaff dynn |
i’w godi |
i sefyll arno |
i’w reidio |
i’w daflu |
i neidio oddi arno |
i sblasio ynddo |
Gweithgaredd ymestynnol
Ysgrifenna stori sy’n cynnwys yr holl bethau roeddet ti’n gorfod eu gwneud i gwblhau’r Helfa Egnïol. Cofia gynnwys lluniau lliwgar.
Dos ati i greu dy Helfa dy hun ar gyfer dy deulu. Gallai gynnwys cliwiau cyfrin, pethau i dynnu lluniau ohonynt a siapiau i’w cydweddu.
Rydym am ddarganfod mwy am gennau a beth maen nhw’n gallu ei ddangos inni am ansawdd yr aer o’n cwmpas.
Beth yw cennau?
Organebau tebyg i blanhigion, sy’n llwyd, yn wyrdd neu’n felyn yw cennau, ac maen nhw’n tyfu ar greigiau, waliau a choed.
Gall cennau ddangos inni ba mor lân neu lygredig yw’r aer rydyn ni’n ei anadlu. Mae hyn oherwydd eu bod yn sensitif iawn i newidiadau yn eu hamgylchedd.
Gwylia’r fideo isod a galli lawrlwytho’r canllaw i ddarganfod mwy.
Bydd angen
Cyfle i ddysgu sut i adnabod rhywogaethau cennau a beth mae hynny’n ei ddweud am ansawdd aer dy ardal leol.
Cyfarwyddiadau
Cwis Cennau
Llenwa’r bylchau gyda’r geiriau coll.
Mae cennau wedi’u gwneud o ddau beth bach iawn o’r enw o________ sy’n elwa o fyw a gweithio’n agos gyda’i gilydd.
F_____ sy’n rhoi ffurf i’r cennau ac a____ sy’n rhoi’r bwyd angenrheidiol i’r cennau oroesi.
Mae cennau’n amsugno maetholion o’r aer o’u hamgylch trwy f__________.
Mae cennau i’w cael mewn llawer o leoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac o amgylch y byd. Maen nhw’n tyfu mewn amryw o siapiau a lliwiau.
Mae gwyddonwyr yn astudio cennau er mwyn deall ansawdd yr aer gan fod rhai rhywogaethau’n goroesi mewn mannau lle mae lefelau nitrogen deuocsid (NO2) yn uchel, a rhai eraill lle mae NO2 yn isel.
Nwy niweidiol yw NO2 , sy’n cael ei gynhyrchu trwy losgi tanwydd ffosil, e.e. petrol mewn ceir.
Mae rhai:
Meddylia am y lleoedd y buaset ti’n dod o hyd i gennau sy’n hoff o nitrogen a chennau sy’n sensitif i nitrogen.
Gwna nodyn os wyt ti’n meddwl y gallai’r aer fod yn lân neu’n llygredig.
Nawr mae’n amser edrych ar y Canllaw Cennau ac archwilio’r cennau yn dy ardal di. A ydyn nhw’n rai sy’n hoff o nitrogen neu’n rhai sy’n sensitif i nitrogen?
Mae bwrdd breuddwydion yn adnodd ardderchog ar gyfer ein dysgu ni oll am osod nodau i ni’n hunain – sgil bwysig mewn bywyd.
Mae dysgu gosod nodau yn ein dysgu i gymryd cyfrifoldeb. Rydym yn dysgu bod y pethau rydyn ni’n eu gwneud yn gallu dylanwadu ar beth sy’n digwydd. Ac mae’n ffordd arbennig o dda o fagu hyder.
Bydd angen
Cyfarwyddiadau
Oedolion, cofiwch longyfarch plant wrth iddyn nhw gamu, bedalu, neu lamu tuag at eu huchelgeisiau.
Mae’r siwrne’r un mor bwysig â chyflawni’r nod ei hun.
Dylunia gwrs rhwystrau yn y tŷ neu yn yr ardd. Neu galli lunio dy gwrs ar balmant neu lwybr gyda sialc.
Cofia ofyn am gyngor gan oedolyn ar ble i osod dy gwrs rhwystrau. A chofia ddilyn canllawiau’r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol.
Bydd angen
Cyfarwyddiadau
Cofia ofyn caniatâd oedolyn os wyt ti am ddefnyddio sialc. Ac mae angen dilyn canllawiau’r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol bob amser.
Unwaith y byddi wedi creu dy gwrs, mae’n bryd iti roi cynnig arno.
Ehangu’r gweithgaredd
Beth am feddwl sut fuasai dy gwrs rhwystrau delfrydol yn edrych ar hyd dy stryd di?
Beth fyddai’r cwrs yn ei gynnwys pe byddet ti’n cael dewis unrhyw beth (cestyll bownsio, siglenni, ysgol raffau, weiren wib)?
Beth am dynnu llun o dy stryd a dylunio dy gwrs delfrydol? Wyt ti’n meddwl y byddai’n well cael pethau hwyliog fel hyn yno yn hytrach na’r holl geir?
Galli rannu dy syniadau gyda ni gan ddefnyddio #TuFasTuFewnSustrans.
Mae cennau wedi’u gwneud o ddau beth bach iawn o’r enw organebau sy’n elwa o fyw a gweithio’n agos gyda’i gilydd.
Ffwng sy’n rhoi ffurf i’r cennau ac alga sy’n rhoi’r bwyd angenrheidiol i’r cennau oroesi.
Mae cennau’n amsugno maetholion o’r aer o’u hamgylch trwy ffotosynthesis.