Wythnos 2: Tu Fas Tu Fewn Sustrans

Croeso i’ch wythnos 2.

Wnaethoch chi fethu manteisio ar Wythnos 1 gweithgareddau TuFasTuFewnSustrans? Dyma gyfle arall.

Diwrnod 1: Addurno dy bethau gyda bling amryliw

Beth am fynd ati i fod yn greadigol ac addurno dy feic, bag neu sgwter gan ddefnyddio manion wedi’u hailgylchu neu eu hailddefnyddio?

Bydd angen:

  • Dy feic, bag neu sgwter

Pethau eraill y gallai fod eu hangen arnat

  • Tâp
  • Tiwbiau papur toiled
  • Hen focsys grawnfwyd
  • Pinnau lliwio
  • Poteli plastig
  • Ffoil cegin
  • Hen CDs
  • Unrhyw beth y gellir ei ailgylchu neu ei daflu i’r bin!

Cyfarwyddiadau

Gan ddefnyddio’r eitemau rwyt ti wedi’u casglu, addurna dy feic, sgwter neu fag.

Rhanna dy greadigaethau bling amryliw ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TuFasTuFewnSustrans.

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 2: Symud gyda steil

Heddiw, rydym am gerdded, siglo a wiglo ein ffordd drwy’r diwrnod.

Bydd angen

  • Dy sigl steilus
  • Darn o bapur
  • Cyfrifiannell

Pam cerdded?

Mae cerdded yn ffordd wych o symud o gwmpas. Nid yw’n ddrud ac mae’n rhoi amser inni gysylltu â’r byd o’n cwmpas.

Galli gychwyn dy ddiwrnod ar y droed iawn gyda’r gweithgaredd hwyliog hwn.

Cyfarwyddiadau

  1. Cynllunia lwybr ar gyfer dy daith gerdded fach. Er enghraifft; o gwmpas dy ystafell wely, o gwmpas dy dŷ, o dy ddrws ffrynt i’r drws cefn, o gwmpas yr ardd.
  2. Nawr mae’r hwyl yn dechrau! Rho ychydig o steil yn dy gamau trwy sgipio, hopian, dawnsio, neidio, siglo, wiglo a cherdded wysg dy gefn i gwblhau dy daith fach.
  3. Pa ffyrdd eraill o gerdded fedri di feddwl amdanynt? Beth am greu un o’r newydd?
  4. Beth am ail-greu’r ffordd y mae gwahanol anifeiliaid yn symud i gwblhau dy daith gerdded? Fe allet ti stompio’n araf fel eliffant, prowlan fel teigr neu ymlusgo fel crocodeil.

Medrau mathemategol

  1. Dos ati i gyfrif sawl cam mae’n ei gymryd i gwblhau dy daith ar hyd dy lwybr o gwmpas y tŷ, a chadw cofnod o sawl tro’r wyt ti’n cwblhau rownd gyfan.
  2. Lluosa’r rhifau hyn â’i gilydd i gyfrifo cyfanswm y camau rwyt ti wedi’u cymryd.
  3. Alli di droi hyn yn filltiroedd? Mae tua 1,000 o gamau mewn hanner milltir. 

Beth am gael aelodau’r teulu i ymuno â thi a chyfrif camau pawb gyda’i gilydd er mwyn cyrraedd ymhellach fyth?

Galli rannu dy ddull o gerdded gyda ni trwy rannu ffotograff neu fideo ar Twitter neu Instagram gan ddefnyddio #TuFasTuFewnSustrans.

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 3: Beth sydd mewn pecyn tŵls?

Gellir trwsio’r rhan fwyaf o broblemau ar feic gydag ychydig o dŵls bach o safon.

Heddiw, rydym am ddarganfod yr hyn sydd ei angen i gadw’r olwynion yn troi.

Bydd angen

  • Pin ysgrifennu a phapur
  • Beic neu lun beic
Bike Toolkit Illustration

Cyfarwyddiadau

Ceisia ateb cymaint o gwestiynau ag y galli.

Gweithgaredd 1

Edrycha ar feic, naill ai dy feic di neu un ar-lein. 

Beth wyt ti’n meddwl yw’r problemau mwyaf cyffredin y gellid bod eu hangen tra’r wyt ti allan yn reidio dy feic?

Ewch i’r atebion

Gweithgaredd 2

Enwa 5 teclyn y gellid ei ddefnyddio i drwsio pyncjar.

Cofia, mae gan rai beiciau olwynion gyda chlo chwim, ac mae olwynion ar feiciau eraill yn cael eu dal gan follten. 

Ewch i’r atebion

Gweithgaredd 3

Mae’r tabl isod yn rhestru rhai eitemau hanfodol ar gyfer pecyn tŵls i gadw dy feic yn symud.

Disgrifio sut byddet ti’n defnyddio pob un o’r tŵls hyn.

Efallai y bydd angen iti wneud ychydig o waith ymchwil, archwilio beic yn fanwl, neu ofyn i oedolyn yn y tŷ dy helpu.

Offer

Sut mae ei ddefnyddio?

 Lifer teiar

 

Twlyn amlbwrpas gydag allweddau Allen (hex)

o wahanol feintiau

 

 Sbaneri metrig (meintiau 8 i 15mm)

 

 Set tyrnsgriw clicied / socedi

 

 Sgriwdreifer (pen fflat a phen Phillips)

 

 Torrwr cadwyn

 

 Tiwb mewnol

 

 Olew ac irad

 

 Hen frwsh dannedd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ewch i’r atebion

Gweithgaredd 4

Cafodd yr Allwedd Allen, neu’r allwedd hecsagon/hex ei ddyfeisio gan Mr Allen Keyes. Gwir neu Gau?

Ewch i’r atebion

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 4: Y Gêm Dyfalu Emosiynau

Mae meithrin deallusrwydd emosiynol yn sgil bwysig.

Mae’n bwysig adnabod mai teimladau yw emosiynau. Maen nhw’n mynd ac yn dod ac maen nhw’n newid.

Heddiw, rydym am chwarae gêm sy’n llawn hwyl, ond sydd hefyd yn rhoi cyfle inni siarad am rywbeth pwysig iawn ar yr un pryd. Ein teimladau.

Bydd angen

  • Papur
  • Pinnau ysgrifennu
  • Siswrn
  • Powlen
  • Amserydd
Guess the emotion

Nod y gêm yw rhoi cliwiau i’r chwaraewyr ddyfalu emosiwn heb ei enwi.

Esiampl:

“Efallai y buaset ti’n teimlo fel hyn pe na fyddet ti’n cael mynd i dŷ dy ffrind”. Ateb: Rhwystredig.

Cyfarwyddiadau

  1. Estynna ddarn o bapur.
  2. Gydag oedolyn wrth law, torra’r papur allan yn sgwariau neu betryalau llai. 
  3. Ysgrifenna deimlad neu emosiwn ar bob cerdyn.

Po fwyaf ohonynt y gwnewch chi, po fwyaf o hwyl y cewch chi!

Dyma ambell emosiwn i ddechrau’r casgliad: 

  • Trist
  • Hapus
  • Gwirion
  • Ofnus
  • Pryderus
  • Balch

Mynd ati i chwarae’r gêm

  1. Rhowch yr holl gardiau emosiynau mewn powlen a’u cymysgu.
  2. Cymerwch dro’r un i godi un o’r bowlen.
  3. Gosodwch amserydd am 1 funud a mynd ati i ddisgrifio.

Sawl emosiwn allwch chi eu henwi mewn 1 funud? 

Amser i feddwl

Pa emosiynau wyt ti’n eu teimlo’n gryfach pan fyddi di’n cerdded ac yn beicio?

Dewisa rhai emosiynau negyddol o blith y cardiau – sut mae cerdded, beicio a sgwtera’n newid yr emosiynau hyn?

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 5: Enw Anferthol

Ein gweithgaredd heddiw yw ysgrifennu dy enw mewn llythrennau anferthol ar fap gan ddefnyddio’r strydoedd o gwmpas dy gartref. 

Bydd angen

  • Map o dy ardal ar bapur
Map graphic Outside In

Wyt ti erioed wedi teimlo’r awydd i ysgrifennu dy enw mewn llythrennau anferthol ar draws dy ardal leol?

Mae’n debyg na fuasai’r heddlu’n hoff iawn o dy weld yn creu graffiti rownd y fro. Ond mae’n bosibl gwneud, trwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Cyfarwyddiadau

Cymer olwg ar fap o’r ardal o gwmpas dy gartref. Os edrychi di’n fanwl ar y strydoedd, fe weli batrymau gwahanol.

Efallai y galli hyd yn oed weld ffurfiau llythrennau.

  1. Gan ddefnyddio dy strydoedd lleol, ceisia sillafu dy enw neu lythrennau cyntaf dy enw cyntaf ac olaf ar draws dy ardal (neu dy dref neu dy ddinas!)
  2. Os gwnei di hyn gyda map rwyt ti wedi’i argraffu, beth am ysgrifennu arno? Ond paid â gwneud hyn gyda hoff atlas dy rieni, da ti!

Y tro nesaf yr ei di am dro, i sgwtera neu i feicio – fedri di ddilyn y llwybr ar y map i greu dy enw neu lythrennau cyntaf dy enw? 

Atebion

Gweithgaredd 1

Pyncjar, cadwyn yn torri, brêcs yn rhwbio, h.y. brêcs yn rhwbio yn erbyn ymyl yr olwyn ac yn gwneud sŵn sisial, yr olwynion yn dod yn rhydd a’r gêrs yn neidio.

Cwestiynau

Gweithgaredd 2

Offer trwsio pyncjar (yn cynnwys papur tywod, patshyn/patshyn hunan-ludo, glud, sialc), 2 liferi teiars, tiwb mewnol sbâr, pwmp, a sbaner os nad oes olwynion clo chwim ar dy feic

Cwestiynau

Gweithgaredd 3

Offer

Sut mae ei ddefnyddio?

 Lifer teiar

Defnyddir y rhain i dynnu’r teiar oddi ar yr olwyn er mwyn cyrraedd y tiwb mewnol ac archwilio’r olwyn.

Twlyn amlbwrpas gydag allweddau Allen (hex)

o wahanol feintiau

Twlyn llaw sy’n cyfuno’r holl dŵls sylfaenol angenrheidiol mewn un teclyn, er mwyn trwsio’r beic a chyrraedd adref yn ddiogel.

Allweddau Allen yw’r twlyn a ddefnyddir amlaf gan unrhyw feiciwr. Maen nhw’n fath o sgriwdreifer siâp hecsagon sy’n ei gwneud yn bosibl datgymalu bron iawn pob rhan o’r beic a’i roi’n ôl at ei gilydd.

 Sbaneri metrig (meintiau 8 i 15mm)

Mae sbaneri’n dod mewn amryw o feintiau. Fel arfer, defnyddir sbaneri llai, h.y. 8, 9 a 10mm i dynhau neu lacio’r nytiau sy’n dal y ceblau yn eu lle. Gellir defnyddio sbaneri mwy i addasu gardiau mwd, adlewyrchwyr, goleuadau, seddi, cyrn ac olwynion. 

 Set tyrnsgriw clicied / socedi

 

 Sgriwdreifer (pen fflat a phen Phillips)

 

 Torrwr cadwyn

Gwahanu dolenni’r gadwyn er mwyn tynnu’r gadwyn a’i thrwsio.

 Tiwb mewnol

Mae hwn yn eistedd o dan y teiar, ac mae falf arno sy’n llenwi’r tiwb â gwynt neu’n tynnu’r gwynt ohono. Y tiwb wedi’i lenwi sy’n gwneud beicio’n gyfforddus. Dyma ble bydd angen ichi drwsio pyncjar.

 Olew ac irad

Defnyddir y rhain i iro’r gadwyn a’r ceblau.

 Hen frwsh dannedd

Mae’r rhain yn arbennig o dda ar gyfer glanhau’r baw o’r mannau anodd eu cyrraedd.

Cwestiynau