Her wythnos 2

Dyluniwch eich siwrne eich hun

Eich her yw ail-ddylunio’r strydoedd rydych chi’n eu defnyddio wrth wneud un o’ch siwrneiau arferol.

Efallai mai eich taith i’r ysgol fydd hon, y daith i dŷ aelod o’ch teulu neu ffrind, i barc lleol, neu unrhyw le y dymunwch.

Bydd angen:

  • Map o’ch ardal leol (gallwch argraffu un neu lunio un eich hun)
  • Pin ysgrifennu/pensiliau
Healthy Streets Wheel Welsh

Beth sy’n effeithio ar y ffordd y defnyddiwn ein strydoedd? 

Rydym yn treulio llawer o amser ar y strydoedd o amgylch ein cartrefi, ein hysgolion a’n parciau.

Maen nhw’n cynnwys amryw o nodweddion gwahanol. Ffyrdd, palmentydd, lonydd beicio. Coed a blodau, meinciau, sgwariau, lleoedd parcio ceir, drysau siopau.

Mae’r ffordd y mae’r strydoedd wedi’u cynllunio’n rheoli sut rydyn ni’n defnyddio’r mannau hyn.

Mae yna 10 o ddangosyddion Strydoedd Iach sy’n dangos i ni a yw stryd yn le braf i fod. Dyma nhw:

  1. Pawb yn teimlo bod croeso iddyn nhw
  2. Pobl yn dewis cerdded a beicio
  3. Aer glân
  4. Mae pobl yn teimlo’n ddiogel
  5. Nid yw’n rhy swnllyd
  6. Mannau i oedi a gorffwys
  7. Cysgod
  8. Hawdd ei chroesi
  9. Naws hamddenol i bobl
  10. Pethau i’w gweld a’u gwneud

Cyfarwyddiadau

Gan ddefnyddio map, dewch o hyd i’r llwybr o’ch tŷ chi i’ch cyrchfan. Ceisiwch ddewis siwrne nad yw’n rhy bell. 

Meddyliwch am beth yr hoffech ei weld ar y siwrne hon. Ydi hi’n brysur neu’n ddistaw? A oes yna fannau gwyrdd? 

A yw pobl yn beicio a sgwtera neu’n cerdded? Pwy fuasai’n dod gyda chi ar y siwrne hon fel arfer? A yw hon yn teimlo fel siwrne ddiogel?

Nawr mae’r hwyl yn dechrau! 

  1. Lluniwch fap sy’n mynd o’ch tŷ chi i’ch cyrchfan.
  2. Os ydych chi’n cael trafferth llunio eich llwybr, gofynnwch i oedolyn argraffu’r llwybr neu ei lunio i chi. 
  3. Ar eich map: labelwch y rhannau pwysicaf o’ch llwybr. Unrhyw beth y gallwch ei gofio! Cylchfannau. Parciau. Tai eich ffrindiau.
  4. Nawr dyma’ch cyfle i ddylunio’r strydoedd ar eich siwrne! 
  5. Pe bai cyfle ichi ddechrau o’r dechrau, sut fyddech chi’n dylunio’r strydoedd i’w gwneud yn lleoedd braf i dreulio amser?

Ystyria’r Dangosyddion Strydoedd Iach a defnyddia’r olwyn i dy helpu.

Meddyliwch am y Dangosyddion Strydoedd uchod. Ceisiwch ddylunio eich strydoedd i fod mor iach â phosibl.

Rhannwch eich creadigaethau gyda ni gan ddefnyddio #SustransTuFasTuFewn. Fe fydden ni wrth ein boddau’n gweld eich dyluniadau.