Wythnos 1: Tu Fas Tu Fewn Sustrans

Croeso i’ch wythnos lawn gyntaf o weithgareddau ac ysbrydoliaeth i’r teulu gan Sustrans.

Pethau creadigol, meddylgar a hwyliog i’w gwneud. Rydym yma i’ch ysbrydoli yn y tŷ ac yn yr awyr agored am yr wythnos i ddod.

Diwrnod 1: Celf beic ar y llawr

Ewch ati i greu dyluniadau beiciau o wahanol gyfnodau hanes gan ddefnyddio eitemau cyffredin sydd i’w cael o amgylch y tŷ. 

Bydd angen:

  • Dod o hyd i eitemau o wahanol siapiau a meintiau o amgylch eich tŷ
  • Lle clir ar y llawr – dyna fydd eich 'cynfas'.
Bicycle floor art

Gwneud beic gan ddefnyddio pethau rydych wedi’u casglu o amgylch y tŷ.

Cyfarwyddiadau

Defnyddiwch yr eitemau rydych wedi’u casglu a’u siapio i’w gosod ar ffurf beic.

Estyniad 

Rhy hawdd? Ewch ati i ymchwilio beiciau hanesyddol eiconig, fel y beic peni-ffardding, y Boneshaker a’r Velocipede

Gallwch ddarganfod sut roedden nhw’n edrych; o beth roedden nhw’n cael eu gwneud a’r flwyddyn y cawsant eu gwneud gyntaf. 

Beth am roi cynnig ar ail-greu’r beiciau hanesyddol hyn gartref fel gwaith celf ar y llawr?

Yn ôl i’r brig

 

Diwrnod 2: Ditectif calonnau

Heddiw, rydym am archwilio pa weithgaredd sy’n gwneud i dy galon guro gyflymaf.  

 Bydd angen

  • Amserydd
  • Darn o bapur

Ynglŷn â’r galon

Mae dy galon yn gyhyr cryf iawn sy’n pwmpio gwaed sy’n cynnwys ocsigen o amgylch dy gorff, i bob rhan ohonot ti.

Mae’n hynod o bwysig ein bod ni oll yn cadw’n calonnau’n iach. Gallwn wneud hyn trwy wneud gweithgareddau sy’n cyflymu curiad y galon.

Heart fact

Sut allwn ni fesur curiad y galon?

Gair arall am guriad dy galon yw pwls. Galli deimlo dy bwls drwy roi dau fys ar ochr chwith dy wddf. Mae angen eistedd i lawr yn dawel wrth wneud hyn.

Defnyddia amserydd i gyfrif sawl curiad rwyt ti’n eu teimlo mewn 15 eiliad. Wedyn, mae angen lluosi hwn â 4. Er enghraifft, 19 curiad mewn 15 eiliad x 4 = 76.

Bydd hyn yn dangos sawl curiad mae dy galon yn ei wneud mewn munud pan rwyt ti’n gorffwys, ac enw arall ar hyn yw ‘cyflymder y galon wrth orffwys’.

Gwyliwch y fideo: Mynd ati i deimlo curiad eich calon

Cyfarwyddiadau

  1. Mesura guriad dy galon wrth orffwys. Gwna nodyn o’r rhif hwn.
  2. Wedyn, dewisa weithgaredd i gyflymu dy galon! Gwna’r gweithgaredd hwn am funud, mor gyflym ag y galli. 
  3. Nawr, mae’n amser mesur curiad dy galon – fe ddylet ti weld newid mawr. Cofnoda guriad dy galon eto.
  4. Gwna’n siŵr fod curiad dy galon wedi gostwng i lawr yn ôl i’w gyflymder wrth orffwys cyn rhoi cynnig ar weithgaredd arall. 
  5. Nawr, ailadrodd y camau a mesur curiad dy galon yn erbyn rhai o’r gweithgareddau isod. 

Dyma rai awgrymiadau:

Gweithgaredd

Curiad y galon

 Eistedd yn dawel (Dyma fydd cyflymder dy galon wrth orffwys)
 Neidio am un funud  
 Sgipio am un funud  
 Rhedeg yn dy unfan am un funud  
 Sgwtera am un funud  
 Beicio am un funud  
 Sefyll ar dy ddwylo am un funud  

Pa weithgareddau eraill fedri di feddwl amdanynt i gyflymu curiad dy galon? Gwna dy restr dy hun a mesur curiad dy galon yn erbyn pob gweithgaredd.

Ehangu’r gweithgaredd

Cael y teulu i gymryd rhan

Beth am gael pobl eraill yn y tŷ i gymryd rhan a mesur curiad eu calonnau nhw?

Gan bwy mae’r curiad calon cyflymaf? Gan bwy mae’r arafaf? 

Darganfod mwy o ffeithiau am y galon

Gan ba anifail mae’r curiad calon cyflymaf? Sawl calon sydd gan octopws? Ewch ati i geisio dysgu mwy o ffeithiau difyr am y galon. 

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 3: Cwis newid hinsawdd

Rho gynnig ar ein cwis newid hinsawdd. Tybed faint fedri di eu hateb?

Bydd angen

  • Pin ysgrifennu
  • Papur

Rownd 1: Gwir neu Gau

Ysgrifenna gwir neu gau fel ateb i’r cwestiynau canlynol.

  1. Mae newid hinsawdd yn achosi cynnydd mewn cyfnodau o sychder, gan ei gwneud yn fwy anodd i dyfu bwyd inni oll ei fwyta.
  2. Mae newid hinsawdd yn cael ei achosi’n bennaf gan amrywiaeth naturiol ym mhelydrau’r haul a gweithgaredd folcanig. 
  3. Mae’r capiau iâ ym Mhegwn y Gogledd yn meirioli. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o ddŵr yn y môr, gan achosi i lefelau’r môr godi.
  4. Ni fydd newid hinsawdd yn effeithio ar bobl ym Mhrydain fel ti a fi. 
  5. Does yna ddim byd y gallwn ei wneud i atal newid hinsawdd. 

Clicia i weld yr atebion

Cwestiwn bonws: mathemateg

Mae plentyn ysgol gynradd yn newid i feicio neu gerdded i’r ysgol bob dydd am flwyddyn ysgol gyfan, yn hytrach na mynd yn y car.

Faint o garbon deuocsid fyddan nhw’n ei atal rhag cyrraedd yr atmosffer yn ystod y flwyddyn ysgol? 

Defnyddia’r data a’r cyngor canlynol: 

  • Pellter cyfartalog siwrne i’r ysgol yw 1.6 milltir i blant ysgol gynradd.
  • Mae car nodweddiadol yn rhyddhau 411 gram o garbon deuocsid fesul milltir o’i daith. Dyna lond 27 o falwnau parti. (Nwy yw carbon deuocsid felly mae’n helpu i’w roi mewn cyd-destun y gallwn ei weld yn ein meddyliau, fel balwnau).
  • Mae 190 o ddyddiau ysgol mewn blwyddyn.
  • Nid yw beicio a cherdded yn rhyddhau carbon deuocsid i’r atmosffer. 
  • Cofiwch am y daith adref hefyd.

Ysgrifenna dy ateb. 

3.4 milltir yw’r siwrne gyfartalog i’r ysgol uwchradd. Cyfrifa’r arbedion carbon deuocsid ar gyfer plentyn ysgol uwchradd. 

Chwilio am her arall? Beth am ddarganfod yr union bellter mewn milltiroedd o dy dŷ di i giât yr ysgol? Fedri di gyfrifo dy arbedion carbon deuocsid di? 

Clicia i weld yr atebion

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 4: Fy Nghoeden Ddiolchgarwch

Beth am fynd ati i greu coeden ddiolchgarwch? Dyma ffordd hwyliog, greadigol a deniadol o gydnabod y pethau da yn dy fywyd bob dydd.   

A wyddost di fod mynegi diolchgarwch yn gallu gwella dy lesiant di yn ogystal â gwella dy berthynas ag eraill?

Bydd angen

The Gratitude Tree Welsh

Mae mynegi diolchgarwch yn beth bach sy’n gallu cael effaith FAWR ar dy hwyliau a dy safbwynt ar bethau.
 
Mae bod yn ddiolchgar yn ffordd o gydnabod y pethau da yn ein bywydau.

Mae’r gweithgaredd hwn yn arwain at greu ffordd ddeniadol o’n hatgoffa o’r pethau sy’n rhoi pleser yn ein bywydau bob dydd. Does yna ddim terfyn oedran ar ddod o hyd i ffyrdd creadigol o feithrin diolchgarwch.
 
Creu dy goeden!

Cyfarwyddiadau

  1. Defnyddia dy dempled deilen. Gwna ambell un ar ddarn o bapur lliw neu bapur plaen. 
  2. Yn ofalus a gydag oedolyn wrth law, defnyddia siswrn i dorri o amgylch ymylon dy ddail.
  3. Nawr, mae gen ti bentwr o ddail i’w haddurno!
  4. Dyma’r cyfle i bawb ysgrifennu a thynnu llun o’r pethau maen nhw’n ddiolchgar amdanynt ar eu dail. Beth am ddod o hyd i ffotograff o rywbeth rwyt ti’n ddiolchgar amdano hefyd?
  5. Nesaf, gan ddefnyddio’r glud, mae eisiau glynu bob un o’r dail ar y goeden. Efallai byddai casglu ychydig o frigau i’w rhoi ar y goeden yn ei wneud yn fwy realistig.

A dyna hi, Coeden Ddiolchgarwch. Cymerwch dro yr un i ddarllen beth rydych wedi’i ysgrifennu ar eich dail.

Yn ôl i’r brig

 

Diwrnod 5: Y Gêm Fwrdd Feicio

Ydych chi’n hoffi beicio a gemau bwrdd? 

Rydym wedi creu Gêm Fwrdd Feicio. Fe’i dyluniwyd gyda chymorth plant ysgol gynradd yn Peterborough. 

Lawrlwytho’r gêm

 Bydd angen

  • dis
  • Y Gêm Fwrdd Feicio
Bicycle Board Game

Cyfarwyddiadau

  1. Dewch o hyd i ddis neu gallech wneud un.
  2. Argraffwch ein gêm.
  3. Yn ofalus a gydag oedolyn wrth law, torrwch y cardiau gêm allan.
  4. Chwarae gyda'r teulu cyfan!

Yn ôl i’r brig

Diwrnod 3: Atebion

Gwir neu gau

  1. GWIR. Mae newid hinsawdd yn amharu ar batrymau tywydd, yn cynnwys cyfnodau o sychder amlach a mwy difrifol (cyfnod o sychder yw amser pan fo ardal yn cael llai nag arfer o law).
  2. GAU. Er bod ffrwydradau folcanig a phelydrau solar yn gallu dylanwadu ar yr hinsawdd, mae gwyddonwyr wedi cadarnhau mai’r PRIF beth sy’n achosi newid hinsawdd yw gweithgaredd dynol yn cynnwys llosgi tanwydd ffosil: olew, nwy, glo, petrol ac ati.
  3. GWIR. Meddylia am giwb rhew yn meirioli mewn gwydryn yfed. Bydd mwy o ddŵr yn y môr yn peri i lefelau’r môr godi, ac yn arwain at fwy o lifogydd arfordirol ym mhedwar ban byd, a gallai hyd yn oed beri i wledydd cyfan ddiflannu.
  4. GAU. Mae Prydain eisoes wedi cael llawer o lifogydd, fel y gwelsom y gaeaf diwethaf. Mae’n anodd dweud yn union beth sy’n cael ei achosi gan newid hinsawdd, ond mae’n effeithio’r tywydd eithafol ledled y byd ac yma ym Mhrydain.
  5. GAU. Mae yna lawer o bethau y gallwn eu gwneud i leihau’r nwyon tŷ gwydr rydym yn eu rhyddhau. Er enghraifft, defnyddio llai o betrol drwy feicio neu gerdded yn hytrach na gyrru ar gyfer siwrneiau byr, lleol.

Yn ôl i’r cwestiynau

Cwestiwn bonws: mathemateg

Cyfrifiad: [pellter y siwrne mewn milltiroedd] x [nifer o falwnau parti o garbon deuocsid a gaiff eu rhyddhau fesul milltir] x [dyddiau mewn blwyddyn ysgol] x [nifer o siwrneiau bob dydd]

Felly mae disgybl ysgol gynradd gyda siwrne 1.6 milltir i’r ysgol, sy’n teithio mewn car sy’n rhyddhau 27 balŵn o garbon deuocsid bob milltir, am 190 diwrnod o’r flwyddyn ysgol, ddwywaith y dydd (i’r ysgol ac yn ôl adref): 1.6 x 27 x 190 x 2 = 16,416

Sy’n golygu y byddai’r plentyn ysgol gynradd yn atal 16,416 o falwnau parti o garbon deuocsid rhag cyrraedd yr atmosffer trwy newid o deithio yn y car i feicio neu gerdded i’r ysgol, gan nad yw’r dulliau teithio hyn yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr fel carbon deuocsid. I’w roi mewn cyd-destun, mae hyn yn nifer tebyg i’r balwnau a welwn yn codi’r tŷ yn y ffilm Up!

Buasai plentyn ysgol uwchradd yn atal 34,884 o falwnau parti o garbon deuocsid rhag cyrraedd yr atmosffer trwy newid i feicio neu gerdded (3.4 x 27 x 190 x 2 = 34,884).

Byddai dy daith di i’r ysgol ar feic neu ar droed yn arbed: [pellter dy siwrne mewn milltiroedd] x 27 x 190 x 2 = ???

Yn ôl i’r cwestiynau