Her wythnos 1

Cadw’n egnïol gartref

Dy her yw cwblhau’r Map Ôl Troed trwy gadw’n egnïol. Dos i gerdded, beicio neu wneud ymarfer corff a chofnodi’r gweithgaredd trwy liwio’r olion troed a gwneud dy ffordd o gwmpas y map. 

Lawrlwytho’r Map Ôl Troed

Er ein bod wedi cael ein siarsio i aros gartref i helpu ein harwyr i daclo’r firws, does dim rhaid inni beidio bod yn egnïol a symud ein corff.

Mae gweithgaredd corfforol yn bwysig iawn. Mae’n gwneud i’n hormonau hapus lifo o gwmpas y corff. Endorffinau yw’r enw arnynt.

Bydd angen

  • Y Map Ôl Troed (neu galli lunio un dy hun)
  • Pinnau ffelt, pensiliau neu greonau

Rheolau’r her

Dy nod yw lliwio 5 ôl troed bob wythnos trwy gwblhau amrywiol weithgareddau corfforol. I ti mae’r dewis o ba weithgareddau i’w gwneud – mae ambell i syniad isod.

20 i 30 munud o weithgaredd = lliwio un ôl troed

15 munud o weithgaredd = lliwio hanner ôl troed

Dyma rai syniadau ar gyfer eich gweithgaredd corfforol: 

  • Cerdded am 30 munud = un ôl troed
  • ‘PE with Joe Wicks’ = un ôl troed
  • Ymarfer corff am 20 = un ôl troed
  • Beicio am 15 munud = hanner ôl troed

Os byddi’n mynd allan i gerdded, beicio neu sgwtera – gwna’n siŵr fod oedolyn yn dod gyda thi. Cofiwch ddilyn canllawiau’r llywodraeth.

Gosod cerrig milltir i ti dy hun

Wrth iti deithio o gwmpas y Map Ôl Troed, byddi’n cyrraedd cylchoedd oren gyda rhifau arnynt. Dyma dy weithgareddau carreg filltir. 

Galli ddyfeisio dy weithgareddau carreg filltir dy hun neu ofyn i oedolyn helpu. Mae’n rhaid iddyn nhw fod ychydig yn wahanol i dy weithgareddau ôl troed. Dylid eu cwblhau cyn symud ymlaen i’r ôl troed nesaf. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau arbennig: 

  • Helpu yn yr ardd am un awr
  • Creu rwtîn ddawnsio hwyliog
  • Helpu i wneud swper

Nawr, dewch inni fod yn egnïol.

Cyfarwyddiadau

  1. Mae angen argraffu (neu wneud llun) dy Fap Ôl Troed siwrne iach.
  2. Wedyn, mae angen nodi dy weithgareddau Carreg Filltir wrth ymyl y cylchoedd oren wedi’u rhifo ar dy fap.  
  3. Rwyt ti’n barod i fynd ati i gofnodi dy weithgareddau. 
  4. Lliwia’r olion traed ar dy fap wrth iti gwblhau gweithgaredd egnïol neu ymarfer corff. 30 munud = un ôl troed.
  5. Pan fyddi’n cyrraedd un o’r cerrig milltir oren ar dy Fap Ôl Troed, mae’n rhaid iti gwblhau’r gweithgaredd carreg filltir sy’n cyd-fynd â’r rhif hwnnw.
  6. Unwaith y byddi wedi cwblhau dy weithgaredd arbennig, fe gei di fynd ymlaen i’r ôl troed nesaf.

Fedri di lwybro dy ffordd o gwmpas y Map Ôl Troed? Gobeithiwn y gwnaiff y map hwn dy ysbrydoli i gadw’n egnïol gartref. 

Galli rannu’r gweithgareddau rwyt ti’n eu gwneud gan ddefnyddio’r hashnod #TuFasTuFewnSustrans ar y cyfryngau cymdeithasol, a gweld beth mae teuluoedd eraill yn ei wneud hefyd.