Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 21st OCTOBER 2022

Lansio adnodd teithio llesol i ysgolion yn unol â chwricwlwm newydd Cymru

Mae’r Rhaglen Teithiau Iach, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi creu adnodd newydd yn unol â chwricwlwm newydd Cymru, yn ymwneud â theithio llesol. Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, helpodd ein gwaith gydag ysgolion ledled Cymru i gynyddu lefelau teithio llesol 24.6% a lleihau’r defnydd o geir gan 29.9% ar y daith i’r ysgol, a gobeithiwn barhau â hyn gyda chymorth ein hadnodd newydd.

Teulu yn mwynhau taith llesol i'r ysgol yn Llangollen, Gogledd Cymru

Dod â theithio llesol i mewn i'r Cwricwlwm newydd

Mae ein hadnodd yn declyn hwyliog a deniadol i helpu i ddysgu'r manteision a'r llawenydd y gall cerdded, olwynio, sgwtera a beicio dod i blant.

Nid yn unig yn ddefnyddiol i’r plant ond mae’r adnodd hefyd wedi’i gynllunio i gynorthwyo gallu athrawon i gynllunio a chyflwyno sgiliau trawsgwricwlaidd o fewn cyd-destun teithio llesol.

Bydd yr adnodd hwn yn cyfoethogi profiad plentyn o gerdded, olwynio, sgwtera a beicio, gan gysylltu â’r pedwar diben, a gallai fod yn ychwanegiad defnyddiol at becyn cymorth unrhyw athro neu athrawes wrth ddylunio gwersi.

Bydd y gwersi hyn yn helpu disgyblion i ystyried manteision amgylcheddol ac iechyd corfforol a meddyliol cerdded, olwynio, sgwtera a beicio.

Bydd cwblhau’r teithiau dysgu hyn o fewn yr adnodd yn helpu i lunio “unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas"(Pedwar Diben, Cwricwlwm i Gymru 2022).

Mae pynciau'r gweithgareddau yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i...

  • llygredd aer
  • rhwystrau a chynwysoldeb
  • dylunio strydoedd mwy diogel
  • llwybrau diogel
  • olion traed carbon
  • costau teithio
  • iechyd a lles

Gyda’r fframwaith cymhwysedd digidol yn cael ei ychwanegu, gallwn hefyd rannu ein hoffer digidol newydd ac arloesol, fel yr offeryn mapio cymunedol lle gall disgyblion ymgysylltu â llwybrau teithio llesol yn eu hardal leol eu hunain.

Sut bydd yr adnodd yn newid gwersi i ysgolion

Syniad gweithgaredd rhifedd o gwmpas cymdogaethau 20 munud

Ni yw’r arbenigwyr mewn teithio llesol, ond nod yr adnodd yw i athrawon ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad i addasu’r adnodd hwn i’w wneud yn fwyaf addas ar gyfer eu dysgwyr eu hunain.

Mae’r teithiau dysgu wedi’u hanelu at blant ysgol gynradd, yn fras Blynyddoedd 4-6, gyda chymorth defnyddiol a gweithgareddau ymestyn camau dilyniant sy’n galluogi athrawon i deilwra cynnwys ar gyfer pob disgybl yn eu dosbarthiadau eu hunain.

Yn gynwysedig mae 8 Taith Dysgu yn Seiliedig ar Lythrennedd, 8 Rhifedd ac 8 Taith Ddysgu Seiliedig ar Gymhwysedd Digidol (gyda chanllawiau athrawon a syniadau am weithgareddau) yn seiliedig ar thema teithio llesol.

Ar gyfer pob taith ddysgu, bydd y canllaw i athrawon yn amlinellu pa rai o’r canlynol y mae’n eu cynnwys:

  • Sgil trawsgwricwlaidd (Llythrennedd, Rhifedd neu Gymhwysedd Digidol)
  • Amcanion camau cynydd y fframwaith
  • Meysydd dysgu a phrofiad

 

Y Rhaglen Teithiau Iach - creu diwylliant sy'n ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, olwynio, sgwtera neu feicio

Mae ein rhaglen Teithiau Iach, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i greu diwylliant sy’n ei gwneud hi’n haws i blant gerdded, olwynio, sgwtera neu feicio.

Mae teithio llesol yn chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac wrth leihau llygredd aer drwy symud ceir oddi ar strydoedd ein hysgolion. Mae hefyd yn wych ar gyfer iechyd corfforol a lles disgyblion a rhieni.

Gan weithio gydag adborth gan ein hathrawon Teithiau Iach ac yn seiliedig ar ganllawiau gan arbenigwyr cwricwlwm rydym wedi datblygu’r adnodd hwn, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, i athrawon ledled Cymru.

 

Gwnewch gais nawr i gael cefnogaeth ar gyfer creu diwylliant sy'n ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, olwynio, sgwtera neu feicio. 

Share this page

Cymerwch gip ar y newyddion diweddaraf gan Sustrans yng Nghymru