Mynegai Cerdded a Beicio Caerdydd

"Mae’r adroddiad hwn yn ein galluogi i ddeall pwy sy’n teimlo y gallant deithio’n llesol yng Nghaerdydd. Mae’n gam cyntaf pwysig tuag at ddeall cyfranogiad a rhwystrau, ynghyd â chreu system drafnidiaeth sydd wirioneddol yn gweithio i bawb."


– Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru

Bob blwyddyn, mae cerdded a beicio yng Nghaerdydd yn arwain at:

804

o gyflyrau iechyd tymor hir wedi’u hatal

£221 miliwn

mewn buddion economaidd i unigolion a’r rhanbarth

17,000 o dunelli

o allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’u harbed

Icon of navy car.

Hyd at 99,000

o geir wedi’u tynnu oddi ar y ffordd bob dydd

Claire, standing in her street smiling

Claire Lordan, Sblot

Rwy'n cerdded i lawer o leoedd allan o reidrwydd. Mae'n rhaid i mi ymweld â'r ysbyty o leiaf bob mis i gasglu presgripsiynau neu fynd â fy mechgyn i apwyntiadau. Mae gan fy meibion Caiden, 13, a Cruz, 11, ADHD.

Rydyn ni'n mwynhau cerdded, rydyn ni wedi arfer ag e ac yn aml dyma’r adeg mae fy mechgyn yn fwy agored ac yn siarad am bethau sy'n digwydd yn eu bywydau.

Mae gwahaniaeth yng nghyflwr y ffyrdd rhwng ardaloedd yng Nghaerdydd, mae ochr ddwyreiniol y ddinas yn arbennig o wael. Hoffwn weld hyn yn cael ei gydbwyso gyda mwy o fannau gwyrdd, coed a gwell palmentydd ar gyfer ardaloedd llai cefnog.

  

Mae menywod a phobl ar incwm is yn llai tebygol o gymryd rhan mewn teithio llesol yng Nghaerdydd

Mae’r astudiaeth hon yn cadarnhau mai dim ond 16% o fenywod yng Nghaerdydd sy’n beicio o leiaf unwaith yr wythnos o’i gymharu â 30% o ddynion.

Er bod pobl yng Nghaerdydd yn cerdded neu’n olwyno’n amlach nac unrhyw ddull trafnidiaeth arall, gyda mwy na hanner y trigolion (53%) a arolygwyd yn cadarnhau eu bod yn cerdded o leiaf bum niwrnod yr wythnos, dim ond 36% o bobl a oedd yn perthyn i’r grŵp demograffig gwaith llaw medrus nododd eu bod yn gwneud hynny.

Cofnododd yr un grŵp, ynghyd â’r rhai mewn rolau lled-fedrus a di-grefft, neu bobl sy’n ddi-waith, y lefelau cyfranogaeth isaf ar gyfer beicio o leiaf unwaith yr wythnos ymysg trigolion y ddinas (20% a 18%, yn eu trefn).

Mae ardal ac incwm yn sicr yn chwarae rhan yng nghyfranogiad pobl mewn teithio llesol.

Dywedodd 80% o’r trigolion sy’n perthyn i’r grwpiau economaidd-gymdeithasol mwyaf cefnog eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo bod croeso iddynt wrth dreulio amser ar strydoedd eu cymdogaeth, o’i gymharu â 59% o’r bobl ar ben arall y sbectrwm.

Clawr blaen Mynegai Cerdded a Beicio Caerdydd

Lawrlwythwch Fynegai Cerdded a Beicio Caerdydd

Dyma weledigaeth Caerdydd ar gyfer cerdded, olwyno a beicio.

Lawrlwythwch yr adroddiad.

Mae’r adroddiad hwn ar gael ar fformat testun yn unig hefyd.

Rhannwch y dudalen hon

Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu am y Mynegai Cerdded a Beicio a helpu’ch dinas chi wneud cerdded, olwyno a beicio’n ddeniadol ac yn hygyrch i bawb.

 Linkedin icon Email icon

Caerdydd dros y blynyddoedd

Dyma’r bedwaredd gwaith i ni gydweithio â Chyngor Caerdydd i gynnal arolwg o deithio llesol yn y ddinas. Lawrlwythwch ein hadroddiadau blaenorol:

A oes gennych gwestiwn am y Mynegai Cerdded a Beicio?

Mae croeso ichi gysylltu â ni.