Assemble yn Sustrans

Dysgwch fwy am ein llwyfan gwirfoddoli ar-lein newydd, Assemble.

Beth yw Assemble?

Assemble yw ein llwyfan gwirfoddoli ar-lein newydd. Lle ar gyfer:

  • rhyngweithio â gwirfoddolwyr eraill a gweithwyr Sustrans
  • cofnodi eich gweithgareddau gwirfoddoli
  • cadw’n hysbys am newyddion gwirfoddoli o’ch ardal leol ac o amgylch y Deyrnas Unedig
  • dod o hyd i adnoddau i gefnogi eich gwirfoddoli a llawer mwy.

Gellir ei ddefnyddio ar eich cyfrifiadur, gliniadur neu lechen ddigidol (mewn porwr gwe), ynghyd ag ar eich ffôn. Ar eich ffôn, gallwch ddefnyddio ap Sustrans Assemble tra’r ydych allan yn gwirfoddoli.

Ewch i fwrw golwg ar ein tudalen Defnyddio Assemble. Yma, gallwch ddarganfod mwy am sut i gael mynediad at Assemble, a sut gallwch ei ddefnyddio i gefnogi eich gwirfoddoli yn y dyfodol.

 

Os oes gennych chi gyfrif Assemble yn barod, mewngofnodwch yma.

 

Video thumbnail of Xavier Brice, Sustrans Chief Executive, talking about our Assemble platform

Neges gan Xavier Brice, Prif Weithredwr Sustrans, am Assemble

Gwyliwch y neges ar YouTube
Video thumbnail for a tour of our Assemble platform

Ewch i gael golwg ar Assemble

Gwyliwch y cylchdaith ar YouTube

Sut mae Assemble yn cefnogi eich gwirfoddoli

Mae Assemble yn fan i chi gofnodi effaith eich gweithgareddau gwirfoddoli, cwblhau hyfforddiant ar-lein a darllen y newyddion a chanllawiau gwirfoddoli diweddaraf.

Mae Assemble hefyd yn cynnig pethau newydd nad oeddent ar gael i chi fel gwirfoddolwr o’r blaen. Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth cyfrif y gallwch ei olygu’n hawdd, a dim ond un enw defnyddiwr a chyfrinair fydd ei angen arnoch. A hyn oll mewn rhaglen wedi’u dylunio i fod yn hawdd ei defnyddio.

Mae sawl rheswm ein bod yn credu y dylech ddefnyddio Assemble. Isod, fe welwch ein pum prif reswm:

  • Negeseuon – gallwch ryngweithio gyda gweithwyr Sustrans a gwirfoddolwyr eraill yn eich tîm a’ch ardal
  • Ffrwd newyddion – cadwch yn hysbys am y newyddion gwirfoddoli diweddaraf gan Sustrans o amgylch y Deyrnas Unedig ac yn eich ardal chi
  • Digwyddiadau – byddwch yn derbyn gwahoddiadau a gwybodaeth ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein
  • Cofnodi gweithgareddau – gallwch gyflwyno gwybodaeth am eich gweithgareddau gwirfoddoli
  • Ap ffôn symudol – defnyddiwch Assemble tra byddwch allan yn gwirfoddoli.
Video thumbnail for a guide to getting started on our Assemble platform

Sut i fewngofnodi a dechrau arni

Gwyliwch y fideo ar YouTube

Pam ydym ni’n defnyddio Assemble?

Fel rhan o’n strategaeth gwirfoddoli, mae symud i Assemble yn golygu y gallwn gefnogi eich gwirfoddoli’n well. Mae’n helpu i wneud y siwrne gwirfoddoli’n fwy hygyrch.

Ar ddiwedd 2022, daeth ein llwyfan gwirfoddoli blaenorol, VolunteerNet, i ben.

Mae Assemble nawr yn disodli VolunteerNet. Mae’n cynnig nifer o fuddion gwych eraill i chi ac i weithwyr Sustrans fel ei gilydd. Mae’r buddion hyn yn cynnwys:

  • gwella’r ffordd yr ydym yn dangos, yn cydnabod, ac yn dathlu’r effaith gadarnhaol y mae gwirfoddoli’n ei chael yn eich ardal leol ac yn genedlaethol
  • proses symlach i ymuno fel gwirfoddolwr, sy’n gwneud y siwrne i wirfoddoli gyda Sustrans yn fwy hygyrch
  • llwyfan sy’n hawdd ei defnyddio, gan ganiatáu inni gyrraedd cynulleidfa ehangach ac amrywiaeth ehangach o bobl
  • storio eich data yn ddiogel a chaniatáu mynediad ichi at eich data eich hun a gallu ei ddiweddaru.

 

Newidiadau i iaith gwirfoddoli yn Sustrans

Rydym wedi newid teitlau ein cyfleoedd gwirfoddoli. Bydd eich tasgau a gweithgareddau gwirfoddoli a’r hyn a wnewch yn aros yr un fath.

Nod y newidiadau yn yr iaith a ddefnyddiwn yw bod yn fwy cynhwysfawr i gynulleidfa ehangach o wirfoddolwyr.

 

 

Darganfyddwch fwy am y newidiadau i’n hiaith gwirfoddoli.

 

Dysgwch fwy am sut i gael mynediad at Assemble, a sut gallwch ei ddefnyddio.

 

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am Assemble.