Her wythnos 3

Cadw’n egnïol gartref

Awn ar daith o amgylch y corff, gan ddysgu, archwilio a bod yn egnïol.

Lawrlwythwch boster a chardiau Y Corff Dynol.

What you'll need

  • Poster a chardiau Y Corff Dynol (gellir eu lawrlwytho yma)
  • Llun neu ffotograff bach ohonot ti yn cerdded, yn beicio neu’n sgwtera
Human Body Children's Map Welsh

Cyfarwyddiadau

  1. Yn gyntaf, bydd angen argraffu’r poster a’r cardiau am y corff dynol
  2. Yn ofalus, torra’r cardiau ffeithiau a’r cardiau her allan. Rho’r llun neu ffotograff ohonot ti dy hun ar y man Cychwyn.
  3. Dilyna’r llinell dotiau gwyn nes cyrhaeddi’r safle cyntaf, safle ‘1’
  4. Mae’n amser nawr iti ddod o hyd i’r cerdyn ffaith cyntaf a dysgu sut mae cerdded, beicio a sgwtera’n effeithio ar y rhan hwn o’r corff. Yna, mae angen iti ddod o hyd i’r cerdyn her cyntaf a rhoi cynnig ar yr her.

Pan fyddi di’n barod, symuda dy ffigur ymlaen i’r safle nesaf. Galli gwblhau’r gweithgaredd hwn i gyd ar unwaith fel gêm, neu efallai y gwnei di alw heibio dau o’r safleoedd bob dydd dros gyfnod o 5 diwrnod.

Beth am rannu dy syniadau gyda ni gan ddefnyddio #TuFasTuFewnSustrans