Cynllun ysgol teithio llesol

Nod Llywodraeth Cymru yw i bob ysgol yng Nghymru ddatblygu Cynllun Teithio Llesol Ysgol. Mae ein tîm yn Sustrans Cymru yn cynnig cefnogaeth hyd braich i holl ysgolion ar gyfer creu eu cynllun ysgol teithio llesol eu hunain.

Lawrlwythwch ein canllaw cam wrth gam

Beth yw cynllun teithio llesol ysgol?

Cynllun Teithio Llesol Ysgol yw rhestr o gamau gweithredu y mae pob ysgol yn ymrwymo iddynt, gyda'r nod o ysbrydoli disgyblion, rhieni, gwarcheidwaid, a staff i gerdded, olwyno neu feicio i’r ysgol gan leihau dibyniaeth ar gerbydau preifat.

Mae’r cynlluniau byr, syml hyn yn cael eu teilwra i anghenion a gweledigaeth unigryw bob ysgol, ac maent yn annog ymagwedd iachach a chynaliadwy at y daith ddyddiol i’r ysgol.

 

Pam creu cynllun teithio llesol ysgol?

Mae Cynllun Ysgol Teithio Llesol nid yn unig o fudd i’r ysgol ei hun ond mae hefyd effeithiau cadarnhaol ehangach ar y gymuned leol a’r ardal ehangach.

Mae manteision Cynllun Ysgol Teithio Llesol yn cynnwys:

  • Gwella diogelwch: Taclo pryderon diogelwch ar y ffyrdd yn ystod cyfnodau danfon a chyrchu
  • Unigolion iach a hyderus: Rhoi hwb i weithgaredd corfforol, hybu annibyniaeth a llesiant, a mynd i’r afael â gordewdra ymysg plant yng Nghymru
  • Gwella canolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth: Gwella sylw a diddordeb plant drwy’r argymhelliad i wneud ymarfer corff am 30 munud bob dydd
  • Amrywio dulliau cludiant: Ehangu’r opsiynau ar gyfer teithio i’r ysgol
  • Mynediad at gyllid: Sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. O 2024/2025, dim ond ysgolion gyda chynlluniau teithio llesol fydd yn cael gwneud cais am gyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau drwy awdurdodau lleol.

Gall creu Cynllun Teithio Llesol Ysgol ar gyfer eich ysgol ddod â phleser a buddion i gymuned gyfan yr ysgol heb alw am lawer o ymdrech.

Creu eich cynllun teithio llesol ysgol

Barod i ddechrau arni? Lenwi’r ffurflen ar-lein a chreu cynllun Teithio Llesol ysgol wedi’i deilwra i’ch ysgol chi. Angen arweiniad neu gefnogaeth ychwanegol? Cysylltwch â’n tîm prosiect neilltuol – rydyn ni yma i’ch helpu i wneud llwyddiant o’ch cynllun teithio llesol ysgol.

Ysgrifennwch eich cynllun yma

Sut i ysgrifennu eich cynllun ysgol teithio llesol

Mae’r canllaw cam wrth gam hwn yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod i greu Cynllun Ysgol Teithio Llesol ar gyfer eich ysgol.

Templed ar gyfer Cynllun Teithio Llesol Ysgol

Lawrlwythwch y templed hwn i ysgrifennu eich Cynllun Teithio Llesol Ysgol all-lein a’i gadw’n gyfredol.
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein os yw’n gwell gennych gael eich tywys drwy’r broses a chreu eich Cynllun Teithio Llesol Ysgol ar-lein.

Enghreifftiau ac Astudiaethau Achos

Gallwch ddod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich Cynllun Teithio Llesol Ysgol yn yr enghreifftiau hyn o weithgareddau ysgol ac astudiaethau achos.

Mum walking to school, holding hands with her twin daughters smiling at the camera

Adnoddau ychwanegol i ysgolion

Darganfyddwch amrywiaeth eang o ddeunyddiau, fel enghreifftiau o weithgareddau ysgol, cynlluniau gwersi, gwasanaethau boreol ac ati. Maent yn cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru.