Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 12th OCTOBER 2022

Creu lleoedd fel modd o gadernid newid hinsawdd

Yn y blog, mae dylunwyr trefol Sustrans Cymru, Paria Mundhra a Tiegan Salter, yn siarad am bwysigrwydd creu lleoedd a sut gellir ei ddefnyddio fel modd o fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd.

Gall y ffordd rydym yn blaenoriaethu gwagle mewn gwaith dylunio cael effaith dwfn ar ein hinsawdd. Llun gan: ©2020, Jon Bewley/photojb.

Yr haf yma, mae tymereddau gorchestol wedi ymuno â thonnau gwres peryglus ar led y ddaear mewn llefydd fel Unol Daleithiau America, Yr Almaen a Tsieina.

Mae hefyd yn rhybudd o’r amseroedd heriol sydd i ddod, yn enwedig i rheini sy’n byw ac yn gweithio yn ein dinasoedd a threfi.

O ganlyniad i newid hinsawdd, mae cyfnodau estynedig o dymereddau twym yn dod yn fwyfwy arferol, ac rydym yn dysgu faint yn union mae’n ardaloedd trefol yn brwydro i ymdopi.

 

Effeithiau newid hinsawdd ar ein trefi a dinasoedd

Mae’n drefi a dinasoedd wedi’u dylunio ar gyfer hinsoddau oerydd, ond wrth i’r byd parhau i losgi mwy o lo, olew, a nwy i bweru ein cartrefi, cerbydau, a diwydiant, mae’r tebygolrwydd o fwy o donnau gwres aml ddim ond yn cynyddu.

Mae ardaloedd metropolitanaidd yn wynebu mwy o berygl yn ystod tonnau gwres wrth i dymereddau cynyddol cael eu gwaethygu o ganlyniad i’r effaith ynys gwres trefol.

Mae concrit a tharmac tywyll, anhydraidd yn amsugno pŵer yr haul ac yn ei thywynnu allan fel gwres, gan gadw ein trefi a dinasoedd yn dwym ymhell ar ôl machlud yr haul.

Mae deunydd ein hardaloedd trefol yn eu gwneud nhw’n dueddol i ordwymo efo’r potensial iddynt ddod yn angheuol, yn enwedig ar gyfer yr henoed neu bobl efo cyflyrau iechyd isorweddol.

Gan ystyried hyn, mae’n rhaid i ni weithio efo’n gilydd i greu ac amddiffyn y perthnasau sy’n bodoli nawr ac yn y dyfodol sydd gennym efo’n gilydd a’r llefydd rydym yn byw.

Mae newid hinsawdd yn darparu’r angen a’r awydd taer i ni i ail-gysylltu efo’n hamgylcheddau cwmpasol a’u llunio nhw’n gyfunol ar gyfer ein lles cilyddol rhanedig trwy strategaethau creu lleoedd.

Bydd llefydd ar led Cymru i gyd yn wynebu mwy o heriau o ganlyniad i newid hinsawdd. Llun gan: 2022, Geraint Thomas/Sustrans.

Creu lleoedd fel strategaeth a modd o greu newid

Strategaeth creu lleoedd sy’n disgrifio rhwydwaith cyfunol o fannau gwyrdd cynlluniedig ac anghynlluniedig mewn ardal drefol, sy’n croesi’r bydoedd cyhoeddus a phreifat, yw gwyrddu trefol.

Mae’r gweithrediad llwyddiannus o strategaethau gwyrddu trefol megis isadeiledd dŵr storm, toeau gwyrdd, parciau, a llwybrau gleision yn cynnig amrediad o fanteision.

Fel mae coed a thyfiant yn cysgodi strydoedd, mae dŵr yn anweddu o’u dail (yn yr un modd â sut mae chwys yn oeri’n croen ni), i leihau’r tymereddau o’n hamgylcheddau trefol ac i helpu lleddfu'r effaith ynys gwres trefol.

Gall arwynebau mewn cysgod, er enghraifft, bod 11-25ºC yn oerach na’r tymereddau anterthol o ddeunydd digysgod, gan wneud y daith drefol i’r gwaith yn llawer mwy cyfforddus ar draed neu feic.

Mae strategaethau gwyrddu trefol yn yr un mor bwysig i’n hiechyd corfforol a meddwl ag ydynt i iechyd ein hamgylcheddau cwmpasol.

Er enghraifft, mae system gyfannol o barciau â llystyfiant, llwybrau gleision a mannau agored yn cynyddu cysur allanol gwresol dynol, yn gwella ansawdd aer, ac yn lleihau’r siawns o salwch sy’n gysylltiedig â gwres.

Mae trigolion sy’n byw yn agosach i barciau a mannau agored wedi’u canfod i ddioddef llai o ofid seicolegol, i fod yn fwy gweithgar yn gymdeithasol, ac i fyw yn hirach.

 

Rolau hanfodol mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol

Mae’r pandemig COVID-19 wedi dangos bod mynediad at fannau gwyrdd yn achos o gyfiawnder cymdeithasol cystal ag un amgylcheddol.

Dangosir adroddiad o 2018 bod 2.5 miliwn o bobl yn byw yn bellach na thro 10-munud o barc neu fan gwyrdd.

Ar led poblogaeth y DU, mae’r nifer o fannau gwyrdd hygyrch y person yn llai nag hanner maint blwch chwe llath (ardal y gôl) ar gae pêl-droed.

Dangosodd adroddiad gan The Guardian hefyd bod cloadau parciau o ganlyniad i orboblogi yn effeithio cymunedau BAME (Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig) a thlotaf yn anghyfartal, gan, yn ystadegol, mae gan y cymunedau yma llai o fynediad at barciau cyhoeddus a gerddi preifat ac yn rhannu llai o le.

Os yw targedau newid hinsawdd am gael eu cyflawni ac os yw natur am gael ei wneud yn hygyrch i bawb, mae angen i lywodraethau lleol a chenedlaethol defnyddio strategaethau creu lleoedd fel modd o ddarparu mannau gwyrdd o safon uchel yn ein trefi a dinasoedd.

Bydd mannau gwyrdd amrywiol ac amryfath o ansawdd uchel ddim ond ein helwa ni, byddant hefyd yn helpu gwrthdroi dirywiad natur a lleddfu effeithiau newid hinsawdd er mwyn i fodau dynol a rhywogaethau gwyllt ffynnu, nid ond goroesi, mewn cytgord.

 

Gall creu lleoedd arwain yr her i arglwyddiaeth ceir

Heblaw am newid yr amgylchedd adeiledig corfforol, gall strategaethau creu lleoedd oeri dinasoedd gan alluogi pobl i ail-feddwl sut i deithio o’u cwmpas.

Fel mae ceir yn rhyddhau allyriadau nwy tŷ gwydr, maent hefyd yn cynhyrchu gwastraff gwres, yn gwneud dinasoedd yn boethach byth ar ddyddiau twym.

Mae bodolaeth ceir, ac ein dibyniaeth arnynt, yn arwain at strydoedd dan drem ceir a chyfleusterau parcio dan orchudd tarmac sy’n cynyddu tymereddau cyfagos.

Er gall cerbydau trydanol gallu gwneud peth gwahaniaeth i’r effaith ynys gwres trefol, maent yn parhau i amnewid egni symudol i wastraff gwres wrth iddynt symud o gwmpas y ddinas.

Mae’u gyrwyr dal angen gwastatiroedd heulog anferthol i barcio ar ac i yrru ar hyd.

Gall dinasoedd sy’n hybu llai o yrru – naill ai trwy leihadau lôn ffordd, cyfyngu ffyrdd, ail-gynllunio lonydd beicio, neu gan gynyddu mannau â llystyfiant – lleddfu’r effaith ynys gwres trefol, hybu teithio llesol, a’u ymoeri’n effeithiol.

Mae adeiladu cadernid yn ein cymunedau trwy greu lleoedd yn mynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd yn naturiol, tra’n atgyfnerthu bywyd cymdeithasol fel elfen hollbwysig o gymdeithas.

Blaenoriaeth hollbwysig dylunio yw sicrhau bod ein dinasoedd a threfi'n dod yn llefydd bywadwy. Llun gan: ©2021, Jon Bewley.

Paratoi ein dinasoedd ar gyfer y dyfodol trwy brofiad

Fel modd o gadernid gwres, nid ond y gallu i gyflwyno sy’n gallu mynd i’r afael ag un don gwres yn y byr dymor sydd gan greu lleoedd.

Yn hytrach, mae’n diogelu iechyd pawb sy’n byw mewn dinas ac yn sicrhau bod y ddinas yn fywadwy yn yr hir dymor.

Mae creu lleoedd yn ein dysgu ni trwy angenrheidiau diymhongar, fel cymunedau cerddiadwy, mannau casgliad rhanedig, a chyfleoedd i ddathlu’r profiad dynol, bod bywyd yn nwyfus, ystyrlon, a hwylus.

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Gymru