Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 3rd SEPTEMBER 2019

Sut y gallwn wneud strydoedd ysgol yn fwy diogel

Heddiw yw’r diwrnod y mae llawer o blant yng Nghymru yn mynd yn ôl i'r ysgol ar ôl gwyliau'r haf. P'un a ydych chi'n rhiant, yn ofalwr neu'n athro, mae sicrhau bod ein plant yn ddiogel, yn actif ac yn iach yn siŵr o fod ar frig eich rhestr flaenoriaethau.

Mum walking to school, holding hands with her twin daughters smiling at the camera

Mae ceir â’u peiriannau’n rhedeg, tagfeydd traffig, a pharcio peryglus ymysg y pethau y mae plant yn eu hwynebu o amgylch gatiau'r ysgol wrth iddynt gyrraedd a gadael yr ysgol bob dydd.  Mae'r rhain yn arwain at ffyrdd anniogel ac aer llygredig sy'n cael effaith negyddol ar iechyd a diogelwch rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Felly pa gamau allwn ni eu cymryd i newid hyn?

Mae arafu cyflymder ceir yn un mesur y gallwn ei gymryd i amddiffyn ein plant. Mae parthau 20 m.y.a. yn ymddangos ledled Cymru, a gwyddom o dystiolaeth bod arafu traffig yn lleihau damweiniau ac anafiadau, yn ogystal ag annog pobl i gerdded a beicio.

Mae gweithredu 20 m.y.a. wedi bod yn arbennig o effeithiol mewn cymunedau difreintiedig, lle bu iddynt haneru nifer yr anafiadau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Llundain. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dangos arweiniad ar y mater hwn ac wedi sefydlu tasglu i ystyried cyflwyno 20 m.y.a. fel y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn ardaloedd preswyl yng Nghymru.

Fodd bynnag, nid yw tagfeydd traffig ac ansawdd aer gwael yn mynd i gael eu datrys drwy ddim ond arafu cerbydau, mae angen i ni hefyd weld llai o geir yn cael eu defnyddio i gludo plant i’r ysgol.

Dim ond 1.6 milltir yw'r daith i ysgolion cynradd ar gyfartaledd, ac eto mae un o bob pedwar car ar y ffordd yn ystod cyfnod brig y bore ar daith ysgol; byddai'n hawdd symud y teithiau hyn i ddulliau cludo mwy cynaliadwy fel cerdded, beicio neu fynd at sgŵter.

Toddler with helmet and yellow coat on, riding a red bicycle

Gall beicio, sgwtera a cherdded fod yn ffordd wych o gynyddu gweithgaredd chi a'ch plant.

Gall teithio ar feic neu sgŵter a cherdded fod yn ffordd wych o sicrhau eich bod chi a’ch plant yn cael rhywfaint o ymarfer corff bob dydd; gall wella nid yn unig iechyd corfforol, ond hefyd iechyd meddwl plant. Dywed athrawon fod disgyblion sy'n cerdded, beicio neu’n defnyddio sgŵter i deithio i’r ysgol yn cyrraedd yn fwy effro, wedi ymlacio ac yn fwy parod i ddechrau'r diwrnod na'r rheiny sy'n teithio mewn car.

Er mwyn helpu pobl i deimlo'n ddiogel i deithio'n fwy actif rydym yn sylweddoli bod angen darparu'r sgiliau a'r isadeiledd cywir. 

Mae angen i ni ail-gynllunio ein strydoedd a'n mannau cyhoeddus, fel eu bod wedi’u hadeiladu ar gyfer pobl yn hytrach na cheir; mae hyn yn arbennig o berthnasol o amgylch ysgolion er mwyn galluogi pobl i deimlo'n ddiogel yn gadael eu ceir gartref.

Mae angen i ni hefyd helpu mwy o awdurdodau lleol i fynd ati i gau strydoedd dros dro y tu allan i gatiau'r ysgol; yma yn Sustrans rydym yn gwneud hyn trwy ein rhaglen “Strydoedd Ysgol ”. Bydd mentrau fel hyn yn helpu i leihau’r risg i blant sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol ac yn creu amgylcheddau mwy diogel i deuluoedd gerdded a beicio.

Drwy gyfuniad o addysgu ein hunain a'n plant a thrwy leihau cyflymder a nifer y ceir y tu allan i gatiau ein hysgolion, gallwn wneud ein strydoedd yn brafiach i dreulio amser ynddynt a chadw ein plant ysgol yn ddiogel ac yn iach.

Mwy am ein gwaith yng Nghymru 

Share this page