Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 2nd OCTOBER 2020

Sustrans Cymru yn dangos ymrwymiad cryf i gynhwysiant wrth benodi Cyfarwyddwr newydd

Mae'n bleser gan Sustrans gyhoeddi penodiad Christine Boston fel eu Cyfarwyddwr newydd ar gyfer y sefydliad yng Nghymru o 12 Hydref 2020. Fel Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, bydd Christine yn arwain y tîm sy'n gweithio ar draws ystod o brosiectau.

Head shot of Christine Boston, Sustrans Cymru director, wearing glasses, a striped purple top and a navy scarf, smiling with greenery in the background.

Mae Christine yn ymuno â ni ar ôl nifer o flynyddoedd gyda'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol lle mae hi wedi arwain ar strategaeth a gweithrediadau yng Nghymru.

Yn ystod ei hamser gyda GCC, mae Christine wedi darparu arweinyddiaeth ar gyfer y sector trafnidiaeth gymunedol ac wedi sicrhau cyfleoedd sylweddol i'r sector yng Nghymru.

Gan weithio gyda Sustrans Cymru, mae Christine wedi cadeirio clymblaid Transform Cymru ers 2019, gan gydlynu ystod o sefydliadau ar draws trafnidiaeth, cydraddoldebau ac iechyd i ddylanwadu ar bolisi ar drafnidiaeth gynaliadwy a chynhwysol i Gymru.
  

Cysyllty cymunedau 

Dywedodd Steve Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Materion Allanol Sustrans am ei benodiad:

“Rwy’n gyffrous i groesawu Christine Boston i’n tîm fel ein Cyfarwyddwr newydd Sustrans Cymru.

"Mae Christine yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd gyda hi a fydd yn amhrisiadwy i gefnogi ein tîm a'n partneriaid ledled Cymru.

“Mae ganddi wybodaeth ddofn am gysylltu cymunedau yng Nghymru ac angerdd i wneud teithio egnïol yn hygyrch i bawb.

"Bydd Christine yn chwarae rhan allweddol wrth i ni barhau â'n gwaith hanfodol i'w gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio yn ddiogel a chreu Cymru lanach, gwyrddach ac iachach."
  

Cefnogi mwy o bobl i fwynhau buddion cerdded a beicio

Dywedodd Christine am ei phenodiad:

“Rwy’n falch iawn o ymuno â’r tîm arbenigol yn Sustrans ac edrychaf ymlaen at barhau i hyrwyddo teithio egnïol yng Nghymru.

“Mae pandemig COVID-19 wedi caniatáu inni weld sut y gallwn fyw ein bywydau yn wahanol, gan wneud siwrneiau mwy lleol o’r cartref ar droed neu ar feic. Mae awdurdodau ledled y byd wedi cyflymu cynnydd ar gyfleusterau teithio egnïol er mwyn caniatáu i bawb wneud siwrneiau diogel ac iach.

“Mae’n bwysig i mi ein bod yn defnyddio’r cyfle hwn i gefnogi mwy o bobl i fwynhau buddion cerdded a beicio, gan gael gwared ar y rhwystrau sydd hyd yma wedi gwahardd pobl.”
  

Agenda o gynhwysiant

Bydd yr apwyntiad hwn yn caniatáu inni wthio ein hagenda cynhwysiant ymlaen er mwyn sicrhau y gall mwy o bobl ledled Cymru ddewis teithio egnïol fel yr opsiwn mwyaf diogel a mwyaf cyfleus.

 

Mwy am ein gwaith yng Nghymru.

Share this page