Tu Fas Tu Fewn Sustrans

Adnoddau defnyddiol i deuluoedd yn ystod Covid-19

Yn dilyn y cyfyngiadau symud ar y Deyrnas Unedig gyfan a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Mawrth, mae ysgolion yn parhau i fod ar gau am gyfnod, ac anogir teuluoedd i gymryd rhan mewn dysgu o gartref.

Wedi’u cynllunio gan ein swyddogion ysgolion profiadol

Mae’r adnoddau wedi cael eu datblygu gan weithlu arbenigol Sustrans o swyddogion ysgolion, sy’n meddu ar gyfoeth o brofiad o ddatblygu adnoddau difyr ac addysgol sy’n addas i ysgolion.

Mae’r pecyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i’w gwneud yn y tŷ ac yn yr awyr agored, sy’n llawn hwyl, yn addysgol ac yn cadw plant yn egnïol.

Bob wythnos, bydd rhieni’n derbyn pum gweithgaredd ar themâu llesiant, symud y corff, bod yn greadigol, archwilio a rhyddid i chwarae, ynghyd â her a gêm i blant gael bod yn egnïol tra maen nhw’n aros gartref.

TuFasTuFewnSustrans
Blockquote quotation marks
Mae cerdded, beicio a sgwtera’n ffyrdd gwych o gyfrannu at ein cadw’n egnïol ac yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Yn ystod y cyfnod hwn pan fo raid inni aros gartref ar y cyfan, mae’n anoddach gwneud y gweithgareddau hyn. Nod Tu Fas Tu Fewn Sustrans felly yw cynnig syniadau ac ysbrydoliaeth i ddod â gweithgareddau iechyd a llesiant i mewn i’r cartref. Blockquote quotation marks
Chris Bennett, Pennaeth Newid Ymddygiad ac Ymgysylltu Sustrans, a thad sydd wrthi’n ymdopi â dysgu gartref

Mae’r rhaglen yn rhan o gylchlythyr ar gyfer rhieni gan Sustrans, sy’n cynnwys dolenni i syniadau ar gyfer beicio a cherdded a chynnwys arall defnyddiol i helpu teuluoedd gerdded, beicio a sgwtera.

I ddysgu mwy am Tu Fas Tu Fewn Sustrans, ewch draw i’r dudalen gofrestru ac adnoddau ar gyfer rhieni

Rydym yn galw ar ysgolion ac Awdurdodau Lleol i roi gwybod i rieni am yr adnodd werthfawr, rhad ac am ddim hon.

Os mai ysgol ydych chi

Rhowch wybod i rieni a gofalwyr am yr adnodd am ddim – gall rhieni gofrestru ar ein gwefan i’w dderbyn. 

Beth am rannu’r ddolen gyda rhieni?

  1. Ar eich gwefan
  2. Trwy eich sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol
  3. Yn eich cylchlythyr neu ebost nesaf at rieni

Os mai Awdurdod Lleol ydych chi

Rhowch wybod i ysgolion a’ch cymuned am yr adnodd am ddim.

  1. Anogwch rieni i gofrestru. Cofiwch gynnwys dolen i dudalen gofrestru Sustrans ar eich gwefan, trwy eich sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol a sianeli eraill
  2. Anfonwch ebost i ysgolion gyda dolen i’r dudalen hon i’w galluogi i rannu’r neges gyda rhieni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag

Education team

Education team