Nod Llywodraeth Cymru yw i bob ysgol yng Nghymru ddatblygu Cynllun Teithio Llesol Ysgol. Mae ein tîm yn Sustrans Cymru yn cynnig cefnogaeth hyd braich i holl ysgolion ar gyfer creu eu cynllun ysgol teithio llesol eu hunain.
Cynllun Teithio Llesol Ysgol yw rhestr o gamau gweithredu y mae pob ysgol yn ymrwymo iddynt, gyda'r nod o ysbrydoli disgyblion, rhieni, gwarcheidwaid, a staff i gerdded, olwyno neu feicio i’r ysgol gan leihau dibyniaeth ar gerbydau preifat.
Mae’r cynlluniau byr, syml hyn yn cael eu teilwra i anghenion a gweledigaeth unigryw bob ysgol, ac maent yn annog ymagwedd iachach a chynaliadwy at y daith ddyddiol i’r ysgol.
Mae Cynllun Ysgol Teithio Llesol nid yn unig o fudd i’r ysgol ei hun ond mae hefyd effeithiau cadarnhaol ehangach ar y gymuned leol a’r ardal ehangach.
Mae manteision Cynllun Ysgol Teithio Llesol yn cynnwys:
Gall creu Cynllun Teithio Llesol Ysgol ar gyfer eich ysgol ddod â phleser a buddion i gymuned gyfan yr ysgol heb alw am lawer o ymdrech.
Barod i ddechrau arni? Lenwi’r ffurflen ar-lein a chreu cynllun Teithio Llesol ysgol wedi’i deilwra i’ch ysgol chi. Angen arweiniad neu gefnogaeth ychwanegol? Cysylltwch â’n tîm prosiect neilltuol – rydyn ni yma i’ch helpu i wneud llwyddiant o’ch cynllun teithio llesol ysgol.
Ysgrifennwch eich cynllun ymaMae’r canllaw cam wrth gam hwn yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod i greu Cynllun Ysgol Teithio Llesol ar gyfer eich ysgol.
Lawrlwythwch y templed hwn i ysgrifennu eich Cynllun Teithio Llesol Ysgol all-lein a’i gadw’n gyfredol.
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein os yw’n gwell gennych gael eich tywys drwy’r broses a chreu eich Cynllun Teithio Llesol Ysgol ar-lein.
Gallwch ddod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich Cynllun Teithio Llesol Ysgol yn yr enghreifftiau hyn o weithgareddau ysgol ac astudiaethau achos.
Darganfyddwch amrywiaeth eang o ddeunyddiau, fel enghreifftiau o weithgareddau ysgol, cynlluniau gwersi, gwasanaethau boreol ac ati. Maent yn cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru.