Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 18th APRIL 2023

Dadansoddi llwyddiannau'r prosiect e-feiciau cymunedol, E-Symud

Wedi’ ddechrau yn 2021, mae’r prosiect E-Symud yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig pobl mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru efo benthyciad beic trydanol am ddim. Yn adrodd ar flwyddyn gyntaf y prosiect, cafodd ein tîm yn yr Uned Ymchwil a Monitro (RMU) y cyfle i gydweithio ag ymchwilydd gradd Meistr o Brifysgol Caerdydd i ddadansoddi data cyfweliadau o gyfranogion y prosiect.

A woman cycling an e-bike in Barry

Mae'r prosiect E-Symud wedi helpu llawer o bobl yng Nghymru i symud o gwmpas yn llesol efo benthyciad e-feic am ddim. Llun gan: photojB.

Ers i’r prosiect dechrau, rydym wedi cyfweld â phobl sydd wedi benthyg e-feiciau ac e-feiciau cargo i geisio deall yn well eu profiadau o’r benthyciad, ac e-feiciau yn gyffredinol.

Efo caniatâd cyfranogion y cyfweliadau, rhannodd ein tîm data’r cyfweliadau efo Jack Kinder, myfyriwr gradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd Jack wedi’ ymddiddori yn ymchwilio e-feiciau a’u heffaith posibl ar gymunedau gwledig yng Nghymru ac allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth.

Yn ei thesis, dadansoddodd e’r data ar E-Symud gan ddefnyddio damcaniaeth newid ymddygiad o’r enw damcaniaeth ymarfer.

Mae’r damcaniaeth yn ystyried y ffordd rydym yn ymddwyn fel mater cymhleth sydd dim yn ddibynnol yn unig ar ein cyfrwng unigol ond hefyd ar y ffordd mae’n gymdeithasau wedi’u strwythuro.

Mae’n cymryd gwneud penderfyniadau fel gweithrediad o gyfres o ymarferion cymdeithasol sydd wedi’u dylanwadu gan gyflyrau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach, yn ogystal â’n profiadau bywyd unigol.

 

Cydnabod rhwystrau cymdeithasol

O ddata’r cyfweliadau â chyfranogion E-Symud, cafodd sawl rhwystr ei gydnabod yn aml gan bobl pan oeddent yn seiclo.
Cynhwysodd y rhwystrau yma:

  • safon beic y cyfrannog
  • tir a thirwedd
  • prinder isadeiledd seiclo ymroddedig
  • teimlo and oedd croeso iddynt ar ffyrdd
  • barnau negyddol ar seiclo
  • perygl canfyddedig
  • stigma o ddefnyddwyr ffyrdd a seiclwyr eraill.

Yn aml, y rhwystrau yma yw’r rhesymau pam fod pobl hefyd yn dewis i ddefnyddio trafnidiaeth foduraidd yn lle seiclo yn ardaloedd gwledig.

Blockquote quotation marks
Mae ffordd gweddol wastad rhwng fy nhŷ a’r dref, ond mae’n well gen i beidio mynd lawr y brif ffordd, oherwydd dydw i ddim yn teimlo’n arbennig o ddiogel ar fy meic efo’r traffig. Blockquote quotation marks
Cyfrannog prosiect E-Symud

Cafodd ei gydnabod hefyd mae ‘na rhwystrau at seiclo ac e-feicio sy’n effeithio ar rai grwpiau demograffig gwahanol, er enghraifft menywod neu’r henoed, yn fwy nag eraill.

Mae’r rhwystrau yma’n cynnwys:

teithiau efo llawer o arosiadau ble mae gofal plant yn gysylltiedig

maint a thrwch y beiciau, a’r ymdrech o’u symud nhw

perygl canfyddedig o rannu ffyrdd efo cerbydau moduraidd.

Blockquote quotation marks
Rydych yn gweld ychydig o bobl yn seiclo, ond mae’n mor serth mae’n anymarferol oni bai eich bod chi’n 21 ac yn heini iawn. Blockquote quotation marks
Cyfrannog prosiect E-Symud

Goresgyn rhwystrau efo e-feiciau

Mae gan feiciau a gynorthwyir yn drydanol y gallu i oresgyn nifer o’r rhwystrau a chanfu.

Mae E-Symud wedi bod yn llwyddiannus yn lleihau’r rhwystr o flinder corfforol ac yn galluogi pobl i seiclo’n bellach ac yn amlach.

Blockquote quotation marks
Yr hyn carais amdani oedd gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach… Fel arfer, byddaf yn gallu segura o gwmpas Aberystwyth am awr, ond efo’r e-feic roeddwn i’n gallu mynd lot ymhellach, rhywbeth mwynheais i… Rwy’n 70 nawr felly mae’n rhoi bach o hwb i mi, yn enwedig efo’r holl fryniau. Blockquote quotation marks
Cyfrannog prosiect E-Symud

Mae wedi ymestyn hyd y cyfnod o amser mae cyfranogion hynach yn teimlo’n hyderus i seiclo, ac wedi gwella eu teimlad o annibyniaeth.

Mae’r cymorth trydanol gan e-feiciau a beiciau cargo trydanol hefyd wedi gwella cyflymiad, yn arwain at ddefnyddwyr yn teimlo’n fwy cyfforddus yn seiclo yn gyfochrog â thraffig ffyrdd.

Blockquote quotation marks
Cwpl o weithiau es i mewn i’r Drenewydd i wneud bach o siopa, na fyddaf wedi gallu gwneud ar feic traddodiadol… erbyn yr amser i chi ychwanegu 5kg o siopa, dydych chi ddim am wneud hynny ar feic traddodiadol 8 milltir allan o’r dref, felly ie, positif iawn! Blockquote quotation marks
Cyfrannog prosiect E-Symud

Mae gan rai e-feiciau hyd yn oed atodiadau seddi plant, a dwedodd cyfranogion helpodd e-feiciau i wneud eu cyfrifoldebau gofal plant yn haws i gyflawni yn lle defnyddio car neu dacsi.

Outside in the park cycling an electric delivery cargo bike, ecargo bike, ebike.

Mae e-feiciau cargo'n ei wneud yn bosib i bobl gadael eu ceir tu ôl a seiclo yn lle pan fod angen cludo pethau. Llun gan: John Linton.

Ymestyn y prosiect E-Symud

Mae llwyddiant y prosiect E-Symud wedi arwain at y prosiect yn cael ei ymestyn am drydedd flwyddyn.

Ond, fel cydnabu gwaith ymchwil ein tîm RMU, mae ‘na dal i fod rhai heriau efo e-feiciau sydd angen ei ddatrys.

Y peth mwyaf ar gyfer llawer o’r cyfranogion oedd y gost brynu beiciau trydanol.

Mae hyn wedi amlygu wrth i gyfnodau benthyciad y cyfranogion dod i ben ac maent yn ystyried prynu e-feic i barhau i seiclo.

Er mwyn ei wneud yn arfer mwy realistig i gynnal, rydym wedi buddsoddi mwy mewn i fodelau mwy fforddiadwy i gyfranogion ceisio ac ystyried ar gyfer y dyfodol.

Cafodd nifer o heriau eraill eu cydnabod, megis pryderon am ddiogelwch personol ac ansicrwydd o le mae defnyddwyr e-feiciau yn perthyn ar ffyrdd.

Pan mae’n dod i’n gwaith ni yn Sustrans, rydym yn parhau i argymell bod defnyddwyr beiciau’n canfod hyfforddiant efo darparwyr awdurdodedig.

Rydym hefyd yn herio toriadau Llywodraeth y DU i deithio llesol bydd dim ond yn ei wneud yn anoddach i bobl teithio’n llesol.

Bydd gafael yn y materion yma’n helpu mwy o bobl i gerdded, olwyno, neu seiclo ar eu teithiau dyddiol.

 

Dadansoddi’r data yn gydweithrediadol

Roedd y ffordd cydweithrediadol rhwng Sustrans a Phrifysgol Caerdydd yn gyfle arbennig i sefydliad academaidd i fireinio’n ddyfnach mewn i’r data ble efallai nad oes gan Sustrans yr adnoddau i’w wneud.

Roedd hefyd yn gyfle gwych i Jack i weithio efo data byd go iawn, a bydd dadansoddiad hynny’n cael effeithiau gwirioneddol.

Yn y diwedd, canfu’r thesis dylai E-Symud cael ei ehangu fel iddo allu cyrraedd cymaint o bobl ag sy’n bosib.

Cafodd e-feiciau eu dangos i fod yn fodd effeithiol o leihau’r rhwystr blinder corfforol a chynyddu’r mwynhad o seiclo.

Maent yn cynnig agweddau positif sylweddol i helpu pobl amnewid i ffwrdd o deithiau dyddiol yng ngherbydau moduraidd.

Gan ddarparu benthyciadau e-feiciau i gymaint o bobl ag sy’n bosib, gallwn helpu pobl i oresgyn eu rhwystrau i seiclo a’u cefnogi nhw i deithio’n llesol.

Mae E-Symud wedi mynd mewn i’w drydedd flwyddyn ar ôl estyniad hyd at 2024 diolch i Lywodraeth Cymru.

 

Dysgwch fwy am y prosiect e-feiciau cymunedol E-Symud.

Darllenwch fwy am ein gwaith yng Nghymru.

Share this page

Darllenwch fwy am ein gwaith yng Nghymru