Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 8th JANUARY 2019

Strydoedd Ysgol Sustrans

Mae ein rhaglen Strydoedd Ysgol yn mynd i’r afael â thagfeydd traffig, ansawdd aer gwael a’r pryderon diogelwch ar y ffyrdd sy’n gyfarwydd i lawer o ysgolion. Gwnawn hyn trwy gyfyngu traffig modurol wrth giatiau’r ysgol am gyfnod byr, yn gyffredinol yn ystod cyfnodau danfon a chasglu plant o’r ysgol. Dysgwch sut gallwn ni gefnogi eich ysgol neu’ch awdurdod lleol i dreialu Strydoedd Ysgol a’i roi ar waith.

Mum walking to school, holding hands with her twin daughters smiling at the camera

Mae’r dull ‘Strydoedd Ysgol’ yn cael ei dreialu gan nifer gynyddol o drefi a dinasoedd yn y Deyrnas Unedig.

Fe’u gelwir hefyd yn ‘Strydoedd Ysgolion Iach’, ‘Parthau Eithrio ger Ysgolion’ neu ‘Strydoedd Ysgol Di-Draffig’ weithiau, ac maent yn arwain at gael mwy o blant i gerdded a beicio i’r ysgol.

Y canlyniad yw amgylchedd stryd hapusach, diogelach ac iachach i bawb.

Sut maen nhw’n gweithio?

Mae Strydoedd Ysgol yn amrywio o le i le. Gan amlaf, cyfyngir traffig am 30–60 munud ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol.

Gosodir arwyddion rhybudd ac mae’r stryd yn troi’n barth cerdded a beicio. Mae mynediad i breswylwyr a deiliaid bathodynnau glas, ond gwaherddir traffig trwodd.

Mae amgylchiadau lleol yn bwysig. Gall cynghorau yn Llundain a Chymru ddefnyddio camerâu adnabod plât cofrestru awtomatig (ANPR) fel dull gorfodaeth Strydoedd Ysgol.

Bydd cynghorau eraill yn gosod bolardiau neu rwystrau dros dro i atal mynediad.

Siaradwch gyda ni i ddarganfod beth sydd wedi gweithio mewn lleoedd eraill. Gall ein Dylunwyr Trefol gynnig cyngor ar sut i sefydlu Strydoedd Ysgol yn eich ardal chi.

 

  
Gweithio mewn partneriaeth i gynnal Strydoedd Ysgol

Cynhelir Strydoedd Ysgol Sustrans mewn cydweithrediad â Playing Out.

Mudiad dielw cenedlaethol yw Playing Out sy’n cefnogi ymdrechion cynyddol dan arweiniad rhieni i adennill rhyddid plant i chwarae allan a defnyddio’r strydoedd y maen nhw’n byw arnynt.

Yn 2019, fe wnaethom ymuno â Playing Out i helpu 40 ysgol ledled y Deyrnas Unedig gau eu ffyrdd i draffig ar gyfer lansiad y Big Pedal.

Derbyniodd ymgyrch arobryn y Big Pedal a Strydoedd Ysgol gefnogaeth anhygoel gan y cyhoedd, gyda 90% o’r rhieni a phreswylwyr a arolygwyd yn dweud y buasent yn cefnogi strydoedd di-draffig rheolaidd y tu allan i ysgolion.

  

Blockquote quotation marks
Mae Strydoedd Ysgol yn ffordd bwerus o ddangos i rieni beth sy’n bosibl pan fo ceir yn cael eu tynnu o’r lleoliad. Blockquote quotation marks
ATHRO, YSGOL GYNRADD ST MARY’S CE, SOUTHAMPTON

   

Sut gall Sustrans eich helpu i sefydlu Stryd Ysgol

Gall Sustrans ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr i helpu Awdurdodau Lleol sefydlu Strydoedd Ysgol.

Mae gennym dîm o beirianwyr, dylunwyr trefol ac arbenigwyr ar ymgysylltu cymunedol ar draws y Deyrnas Unedig.

Maen nhw’n gweithio’n agos gydag ysgolion, cymunedau ac awdurdodau lleol i ddarparu cyngor ac adnoddau arbenigol i roi Strydoedd Ysgol ar waith.

Mae hyn yn cynnwys:

  • datblygu polisïau Stryd Ysgol
  • cynnal astudiaethau dichonoldeb
  • rhannu canllawiau dylunio
  • cefnogaeth i ymgysylltu
  • sefydlu ffyrdd o fonitro effaith prosiectau, a
  • treialu a sefydlu Strydoedd Ysgol.

Gellir darparu Strydoedd Ysgol fel rhan o brosiect Ysgolion Sustrans hefyd.

 

Gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau llwyddiant

Mae Strydoedd Ysgol yn gweithio ar ei orau pan mae’n cael ei yrru gan y gymuned.

Mae cefnogaeth ar lawr gwlad wedi’i gyfuno ag arweinyddiaeth wleidyddol yn allweddol er mwyn llwyddo.

Rydym yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid, yn cynnwys penderfynwyr, rhieni, disgyblion a phreswylwyr, er mwyn sicrhau bod nod y cynllun yn ddealladwy i bawb ac er mwyn ennill cefnogaeth yn lleol.

Rydym yn defnyddio treialon i roi’r posibiliadau ar waith ac arddangos effaith Strydoedd Ysgol.

Yn ein profiad ni, unwaith bydd cymuned ysgol wedi cael profiad o amgylchedd tawel, di-draffig y Stryd Ysgol, daw cefnogaeth eang i’w rhoi ar waith yn barhaol.

Monitro’r effaith

Mae ein Hadran Ymchwil a Monitro wedi datblygu fframwaith monitro arbenigol ar gyfer gwerthuso effaith Strydoedd Ysgol.

Mae hyn yn hanfodol ar gyfer cadarnhau’r achos ar gyfer newid hirdymor.

   
I ddysgu mwy am sut gall Sustrans eich helpu chi i roi strydoedd ysgol ar waith, ebostiwch ein tîm addysg ar schoolswales@sustrans.org.uk 

   

Dysgwch fwy am ein gwaith gydag ysgolion.

Share this page