Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 4th SEPTEMBER 2020

Cystadleuaeth Wythnos Beicio i’r Ysgol Sustrans ar y cyfryngau cymdeithasol

Yn ystod Wythnos Beicio i’r Ysgol, rhannwch glip fideo byr neu ffotograff a neges yn dweud wrthym pam rydych chi wrth eich bodd yn beicio i’r ysgol, neu pam hoffech chi gael gwneud hynny, ac bydd cyfle i chi ennill gwobr cyffrous.

Byddwch yn greadigol, rhannwch eich stori a mwynhewch yn ystod Wythnos Beicio i’r Ysgol eleni.

A gwell fyth, pan fyddwch chi yn rhannu eich fideo neu luniau gyda ni, gallech chi ennill beic plentyn newydd sbon o Halfords.

Sut i gystadlu

  1. Yn ystod Wythnos Beicio i’r Ysgol, rhannwch glip fideo byr neu ffotograff a neges yn dweud wrthym pam rydych chi wrth eich bodd yn beicio i’r ysgol, neu pam hoffech chi gael gwneud hynny
  2. Dilynwch a thagiwch @Sustrans ar Facebook, Twitter neu Instagram
  3. Rhannwch eich cynnig mewn post gan gynnwys #SustransWin

 

Rhannwch eich ffotograffau erbyn dydd Llun 5ed o Hydref am gyfle i ennill beic plentyn Apollo newydd sbon o Halfords.

Enillwch feic plentyn o Halfords

Diolch i’n ffrindiau yn Halfords , bydd yr enillydd lwcus yn derbyn beic newydd sbon Apollo neu Carrera i blant

Telerau ac amodau cystadleuaeth Wythnos Beicio i’r Ysgol Sustrans ar y cyfryngau cymdeithasol

  1. Sustrans yw hyrwyddwr y gystadleuaeth hon.
    Swyddfa gofrestredig: 2 Cathedral Square, College Green, Bristol BS1 5DD.
    Mae Sustrans yn elusen gofrestredig rhif 326550 (Cymru a Lloegr) a SC039263 (Yr Alban).
  2. Nid oes ffi ar gyfer cymryd rhan ac nid oes angen prynu er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
  3. Mae’r holl wybodaeth sy’n manylu ar sut i roi cynnig ar y gystadleuaeth hon yn ffurfio rhan o’r telerau ac amodau hyn. O gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo i’r telerau ac amodau hyn.
  4. Derbynnir mwy nag un cynnig fesul person. Caiff cyfranogwyr rannu cymaint o ffotograffau a fideos ag y dymunant yn ystod y gystadleuaeth, a bydd pob ffotograff neu fideo yn cael eu cyfrif fel un cynnig.
  5. Mae’r gystadleuaeth ar gael i deuluoedd, rhieni a gwarcheidwaid sy’n beicio i’r ysgol yn ystod Wythnos Beicio i’r Ysgol 28 Medi – 2 Hydref 2020.
  6. I roi cynnig ar y gystadleuaeth, rhaid i gyfranogwyr lwytho fideo byr neu ffotograff o’u taith i’r ysgol ar Twitter, Facebook neu Instagram yn ystod yr wythnos. Yn y fideo neu o fewn y geiriau sy’n cyd-fynd â’r ffotograff, caiff cyfranogwyr ddweud wrthym pam maen nhw wrth eu boddau’n beicio i’r ysgol neu pam fuasent yn hoff o gael gwneud. Yna, rhaid i gyfranogwyr ddilyn a thagio @Sustrans ar y cyfrwng y maen nhw’n uwchlwytho eu fideo neu ffotograffau arno, ac mae angen defnyddio #SustransWin wrth rannu eu ffotograff er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
  7. Os ydych chi'n cyflwyno eich cynnig trwy Instagram, gwnewch yn siŵr bod eich proffil yn cael ei wneud yn gyhoeddus yn ystod y gystadleuaeth. Ni fydd Sustrans yn gallu gweld eich ffotograff neu fideo os yw'ch proffil yn un preifat.
  8. Nid yw'r hyrwyddiad hwn yn cael ei noddi, ei gymeradwyo na'i weinyddu gan Facebook, Twitter nac Instagram, ac nid yw’n gysylltiedig â nhw.
  9. Dewisir enillydd y wobr gan yr hyrwyddwr a fydd yn dewis eu hoff gynnig fel enillydd. Bydd pob penderfyniad o'r fath yn derfynol ac yn rhwymol.
  10. Mae'r gystadleuaeth yn cau am 9yb ddydd Llun 5 Hydref 2020.
  11. Caiff yr enillydd ei ddewis, ei gysylltu ag ef a'i gyhoeddi ddydd Mercher 7 Hydref 2020. Bydd Sustrans yn anfon neges breifat i'r cystadleuydd buddugol ar y cyfrwng y cyflwynwyd y cais buddugol arno. Unwaith y bydd yr enillydd wedi cadarnhau ei fod yn dymuno derbyn y wobr byddwn yn trosglwyddo ei fanylion i noddwr y wobr i drefnu i’w gasglu/danfon.
  12. Mae un gwobr ar gael: Un beic plentyn unai Apollo neu Carrera. Gall y gwobr gael ei ddewis gan yr enillydd. Mae’r dewis o feiciau Carrera yn addas i blant 6 oed ac hyn, felly os yw plentyn yr enillydd yn iau na 6 oed bydd angen iddynt ddewis o’r cyfres Apollo.
  13. Ni chynhigir arian yn lle'r gwobrau, hyd yn oed os caiff yr hyrwyddiad ei ganslo.
  14. Ni ellir trosglwyddo'r wobr. Os bydd amgylchiadau annisgwyl, ceidw noddwr y wobr neu'r hyrwyddwr yr hawl i gynnig gwobr arall.
  15. Dylai'r enillydd hawlio'r wobr erbyn dydd Mercher 14 Hydref 2020. Ar ôl y dyddiad hwn ceidw’r hyrwyddwr yr hawl i dynnu'r wobr yn ôl yn gyfan gwbl neu ddewis enillydd arall.
  16. Gwneir trefniadau ar gyfer casglu/danfon y wobr yn uniongyrchol rhwng noddwr y wobr a'r enillydd. Nid yw Sustrans yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gyflwyno'r wobr berthnasol na boddhad yr enillydd â'r eitem (eitemau). Cysylltwch â noddwr y wobr yn yr achosion hyn.
  17. Os bydd enillydd y wobr yn penderfynu peidio â derbyn y wobr, rhaid iddo hysbysu Sustrans o benderfyniad o'r fath yn ysgrifenedig a bydd, o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, yn fforffedu unrhyw hawl i'r wobr. Ni ddyfernir unrhyw wobr arall. Ceidw Sustrans yr hawl i ddelio â'r wobr a wrthodwyd ym mha bynnag fodd y gwêl yn dda.
  18. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn eich data personol. Am wybodaeth ar sut rydym yn gwneud hyn, gweler ein hysbysiad preifatrwydd. Bydd unrhyw ddata personol sy'n ymwneud ag ymgeiswyr yn cael ei ddefnyddio yn unol â deddfwriaethau diogelu data cyfredol yn unig a dim ond i weinyddu'r wobr y cânt eu defnyddio.
  19. Ni chaniateir i weithwyr Sustrans ac aelodau o'u teulu nac unrhyw un sy'n gysylltiedig yn broffesiynol â'r gystadleuaeth gystadlu.
  20. Ceidw’r hyrwyddwr yr hawl i ganslo neu newid y gystadleuaeth a'r telerau ac amodau hyn heb rybudd o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth yr hyrwyddwr.
Share this page