Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 23rd AUGUST 2019

Dyma pam dwi'n caru'r Rhwydwaith Beiciau Cenedlaethol: stori Margaret

Mae beicio bob amser wedi chwarae rhan fawr ym mywyd Margaret, yma mae hi'n dweud wrthym pam mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol mor agos at ei chalon.

A female poses with her bike in a park

Margaret ar y RhBC

Rhaid i mi gyfaddef ar y dechrau ... dwi'n gaeth i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol!

Digwyddodd hyn yn rhannol oherwydd fy mod wedi bod yn ffodus i fyw dim ond 1KM o un o brif lwybrau’r RhBC am 25 mlynedd. Mae wedi fy nhynnu i mewn fel ffordd hawdd, dawel, ddi-draffig, heb dagfeydd i gyrraedd y gwaith gan ryddhau fy meddwl, ac yn bwysicach fyth, ffordd o gyrraedd gartref.   Pan agorodd ein cyngor lleol lwybr diogel drwy ein parc gyda'r nos dyna ni; doedd dim cystadleuaeth rhwng taith feicio 20 munud, taith gerdded 40 munud neu dros 40 munud ar fws.

Blockquote quotation marks
Wrth i mi dyfu gyda'r RhBC, mae fy hyder i archwilio mwy o'r rhwydwaith hefyd wedi tyfu. Mae fy mrwdfrydedd i gyflwyno ffrindiau i wahanol rannau o'r rhwydwaith drwy arwain teithiau, a hyd yn oed cynllunio gwyliau o'i amgylch wedi tyfu; erbyn hyn mae ein holl wyliau'n seiliedig ar lwybr RhBC. Blockquote quotation marks

Mae'r RhBC yn ei gwneud mor hawdd i gynllunio, ac ar y cyfan mae'n darparu safon y gallwch ddibynnu arni o lwybrau sy'n aml yn ddi-draffig a bron bob amser yn glir, yn ogystal ag arwyddion i ddangos y ffordd i chi.

Yma yn ne Cymru rwy'n ymwybodol iawn o ba mor lwcus ydyn ni i fod â llwybrau beicio i fyny'r rhan fwyaf o'n Cymoedd, bron pob un ohonynt ag arwyneb o safon dderbyniol.

Rwy'n credu fy mod i'n angerddol am y RhBC oherwydd rydw i bob amser wedi beicio. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael fy magu gyda theulu oedd â beiciau fel eu hunig ddull o deithio - er efallai nad oeddwn yn meddwl fy mod yn lwcus ar y pryd.

A flower bank in a park in Wales

Cyn gynted ag yr agorodd cyngor lleol Margaret lwybr diogel trwy'r parc gyda'r nos, dechreuodd gymudo'n rheolaidd ar feic.

Yn y dyddiau hynny, roedden ni’n tueddu i gadw at lwybrau lleol oedd yn gyfarwydd i ni, gan y gallai mentro ymhellach i ffwrdd fod yn anodd; roedd angen mapio, mesur ac archwilio pa mor agos oedd y cyfuchliniau ar dir anhysbys.  Y dyddiau hyn, mae mapio ar-lein a dulliau digidol eraill yn ei gwneud yn hawdd dilyn llwybrau wedi'u cynllunio ymlaen llaw ac archwilio proffiliau llwybrau cyn mentro allan.

Fel y gwelwch, dyna’r peth am y RhBC, mae’n mynd â chi i lefydd nad oeddech chi erioed wedi meddwl y byddech chi'n ymweld â nhw, yn rhoi cyfle i chi weld golygfeydd godidog; mae bron bob amser yn cynnwys caffi, ac yn y pen draw mae’n eich tynnu chi i mewn i’w rwydwaith.

Dysgwch mwy am ein gwaith yng Nghymru

Share this page