Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 11th MARCH 2022

Datganiad Terfyniad Cyflymder Safonol 20mya

Mae Sustrans Cymru’n croesawi ymrwymiad parhaol Llywodraeth Cymru i roi terfyn cyflymder safonol o 20mya mewn gweithrediad ar ffyrdd cyfyngedig.

National Cycle Network Route 4 sign with two people on bikes in the background

Mae’r cynigion sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn gallu trawsnewid cymunedau ar draws Cymru, ac yn gam ymlaen tuag at yr amcan o greu strydoedd sy’n fwy diogel a llefydd iachach ar gyfer pawb.

Bydd y newidiadau yn effeithio ffyrdd cyfyngedig, sef yn bennaf ffyrdd trefol efo goleuadau strydoedd a therfynau cyflymder presennol o 30mya.

Bydd cyfyngu terfynau cyflymder yn yr amgylcheddau yma’n gwneud siwrneiau pawb yn fwy diogel ac achub bywydau, yn enwedig ar gyfer rheini sy’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas, megis plant a phobl ifanc.

Dywedodd, Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:

"Rydym yn credu dylai pawb yng Nghymru gallu mynedu ffyrdd diogel, a bydd creu terfynau cyflymder safonol 20mya yn ein cymunedau yn helpu i leihau goruchafiaeth cerbydau modur hefyd.

"Bydd hyn yn helpu i wneud ein strydoedd yn fwy atyniadol er mwyn i bobl cerdded, olwyno a beicio.

"Hefyd, bydd cyfleoedd i gymdeithasu rhwng aelodau cymunedol a chyfleoedd i gefnogi’r economi lleol."

Mae gwaith ymchwil o ymdrech diweddar ym Mryste i roi terfynau cyflymder 20mya ar waith trwy’r ddinas wedi darganfod bod cyflwyniad o’r mesur yn effeithiol o ran lleihau cyflymderau cymedrol, yn lleihau’r perygl o wrthdrawiadau ac anafiadau, ac wedi annog cyfranogiad ehangach yn teithio llesol, yn enwedig ar gyfer plant sy’n teithio i’r ysgol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi amlinellu sut bydd cyflwyniad terfyn cyflymder safonol 20mya yn achub oddeutu chwe bywyd yn flynyddol, yn atal 1,000 o ddamweiniau, ac arbed yr economi Gymraeg £50 miliwn.

Yng nghyd-destun ehangach, mae gwaith ymchwil ar raddfa fawr yn canfod bod pobl ar draws y DU o blaid cyflwyniad terfyniadau cyflymder safonol 20mya, efo arolygon yn aml yn canfod bod dros 70% o ymatebwyr yn gefnogol.

Mae’r achos am newid yn glir, ac os ydym am greu system trafnidiaeth sy’n creu strydoedd iach, bywiog sy’n hygyrch i bawb, yna mae’n rhaid i derfynau 20mya chwarae rôl.

Rydym yn falch i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i gyflawni’r newid yma.

   

Rhannwch ein gofynion ar gyfryngau cymdeithasol i ledaenu'r neges.

Share this page