Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 18th JULY 2022

Ail ysgol yng Nghymru yn ennill Gwobr Ysgol Teithio Llesol Aur

Ysgol Gynradd Radnor yn Nhreganna, Caerdydd, yw’r ail ysgol yng Nghymru i ennill Gwobr Ysgol Teithio Llesol Aur Sustrans Cymru am eu hymroddiad i deithio llesol.

Radnor Primary in Canton, Cardiff, are the second school in Wales to achieve the Sustrans Cymru Gold Active Travel School Award for their dedication to active travel.

Criw Teithiau Iach yn Ysgol Gynradd Radnor, Treganna yn derbyn eu Gwobr Ysgol Teithio Llesol Aur, gan gynnwys athrawon, cynghorwyr Caerdydd, cyn-ddisgyblion a chydweithwyr Sustrans.

Mae’r Wobr Aur yn cael ei wobrwyo i ysgol sydd wedi dangos ymrwymiad parhaus i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy dros nifer o flynyddoedd.

Mae rhieni a phlant ymroddedig yn Ysgol Gynradd Radnor wedi bod yn cerdded, olwynio, yn sgwtera neu’n beicio ar y daith ysgol yn rheolaidd, gan helpu i leihau llygredd ar stryd eu hysgol ac yn y gymuned ehangach.

Mae'r ymrwymiad hwn wedi arwain at newidiadau sefydliadol, diwylliannol ac ymddygiadol sylweddol a pharhaol yn y ffordd mae cymuned yr ysgol yn teithio.

Athro ymroddedig yn ymfalchïo mewn trawsnewid y gymdogaeth yn lle diogel a hwyliog i deithwyr llesol

Yn trafod llwyddiant yr ysgol, medd Kane Morgan, Pencampwr Teithio Llesol Ysgol Gynradd Radnor:

“Mae’n anghredadwy, i weld holl ymdrechion y disgyblion, rhieni, ac athrawon yn cael ei chydnabod efo gwobr mor urddasol.

“Rydym yn ymfalchïo yn yr ymdrech rydym yn rhoi mewn i drawsnewid ein cymdogaeth yn Nhreganna, i fan diogel a hwylus ar gyfer pawb sy’n teithio’n llesol a gobeithiwn bydd ein campau yn ysbrydoli ysgolion eraill i wneud yr un peth.

“Ein disgyblion a moddau cynaliadwy o deithio yw dyfodol y ddinas yma, ac rydym yn awyddus i ysgogi plant, rhieni, ac athrawon i deithio’n llesol i’r ysgol ac i’r gwaith.

“Na fyddem wedi cyflawni popeth yr ydym heb yr help o Sustrans Cymru ac ymdrechion yr holl gymuned wrth gydweithio er lles pawb.

“Hoffwn weld ein plant yn gadael Radnor a pharhau’r arferion teithio llesol maent wedi dysgu, fel gallen nhw gwneud y penderfyniadau trafnidiaeth gywir trwy gydol eu bywydau."

Blockquote quotation marks
Rydym yn ymfalchïo yn yr ymdrech rydym yn rhoi mewn i drawsnewid ein cymdogaeth yn Nhreganna, i fan diogel a hwylus ar gyfer pawb sy’n teithio’n llesol a gobeithiwn bydd ein campau yn ysbrydoli ysgolion eraill i wneud yr un peth. Blockquote quotation marks
Kane Morgan, Pencampwr Teithiau Iach, Radnor

Bwc Beicio i gychwyn y dathlu

Cychwynnodd y bws beic ym Mharc Fictoria, Treganna, a gorffennodd wrth gatiau'r ysgol y tu allan i Ysgol Gynradd Radnor

Cynhaliwyd y dathliad ar ddydd Mercher 13eg o Orffennaf i gydnabod ymdrechion Ysgol Gynradd Radnor, gyda Chyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston, yn cyflwyno’r wobr Aur i’r ysgol.

Bu bws beicio, yn cychwyn mewn parc lleol, drwy strydoedd Caerdydd, tuag at giatiau’r ysgol yn cychwyn dathliadau’r bore.

Roedd y dathliadau hefyd yn cynnwys sioe sgiliau BMX gan Fusion Extreme yn ogystal â myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘blingiwch eich beic’.

Llongyfarchodd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston, yr ysgol:

“Ar ran Sustrans Cymru, hoffwn llongyfarch Ysgol Gynradd Radnor ar y llwyddiant campus yma, maent wedi dangos ymroddiant ardderchog i deithio llesol.

“Mae’n wych i weld ysgol yn ymrwymo’n llwyr i’r nod o gynnal newid ar draws ei cymuned, a phob clod i’r plant, rhieni ac athrawon sydd wedi chwarae rhan.

“Gwyddom manteision teithio llesol – mae’n ein helpu i fyw bywydau hapusach ac iachach, ac o safbwynt teithio i’r ysgol mae’n cynnig dull llawn hwyl i bawb.”

 

Blockquote quotation marks
Gwyddom manteision teithio llesol – mae’n ein helpu i fyw bywydau hapusach ac iachach, ac o safbwynt teithio i’r ysgol mae’n cynnig dull llawn hwyl i bawb. Blockquote quotation marks
Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru

Cefnogaeth gan y Rhaglen Teithiau Iach a Chyngor Caerdydd

Mae Sustrans Cymru wedi bod yn cefnogi Radnor dros y blynyddoedd drwy’r Rhaglen Teithiau Llesol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i greu diwylliant sy’n ei gwneud hi’n haws i blant gerdded, olwynio, sgwtera, neu feicio.

Gyda chefnogaeth gan Sustrans Cymru a Thîm Teithio Llesol i’r Ysgol Cyngor Caerdydd, mae Ysgol Gynradd Radnor bellach wedi ymrwymo’n llawn ac wedi’i mobileiddio i weithio’n annibynnol i gynyddu teithio llesol ar draws cymuned yr ysgol.

Siaradodd Cynghorydd Dan De’Ath, Arweinydd Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd, am bwysigrwydd teithio llesol:

“Mae’n gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid teithio llesol ar draws y ddinas wedi’ gefnogi’n gryf gan y gwaith sy’n mynd ymlaen yn ein hysgolion.

“Maent yn chwarae rôl hanfodol o ran sut mae Caerdydd am leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer, a mynd i’r afael â’r problemau parhaus yr argyfwng hinsawdd.

“Mae’n Dîm Teithio Llesol Ysgolion ymroddedig yn cynnal amrediad o gefnogaeth i ysgolion er mwyn hyrwyddo teithio llesol yn y modd gorau, o ddarparu beiciau a stordai ar gyfer beiciau i wella palmentydd a rhoi Strydoedd Ysgolion mewn gweithrediad, sy’n helpu tagfeydd dyddiol a achosir gan yrru i’r ysgol.

“Gall cerdded, sgwtera neu feicio i’r ysgol helpu i wella diogelwch ar yr hewlydd, cynyddu ymwybyddiaeth plant ar hewlydd, a gwella iechyd a lles meddyliol.

“Rwyf wrth fy modd bod Ysgol Gynradd Radnor wedi cyflawni’r wobr urddasol yma, sy’n canmol y newidiadau positif a mabwysiadir yr ysgol a’i chymuned.”

Cofrestrwch ar gyfer Gwobr Ysgol Teithio Llesol

Mae Gwobr Ysgol Teithio Llesol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig datrysiad ar-lein pwrpasol ar gyfer ysgolion yng Nghymru.

Mae’r gwefan yn arwain athrawon drwy'r camau allweddol sydd eu hangen i gynyddu a chynnal nifer y disgyblion sy'n teithio'n llesol i'r ysgol.

Gall ysgolion tracio cynnydd a chael mynediad at gyfoeth o adnoddau ategol i gyflawni tair lefel a dod yn esiamplau o arfer gorau.

Gall unrhyw ysgol yng Nghymru gofrestru a gweithio tuag at ennill eu gwobr efydd, arian ac aur. Cofrestrwch yma.

Nid yw’n hawdd i’w wneud bob amser, ond mae Sustrans Cymru wastad yn barod i gefnogi gwaith caled cymunedau ysgolion ledled Cymru.

Mae ceisiadau bellach ar agor i fod yn rhan o Raglen Teithiau Iach Sustrans Cymru gan ddechrau ym mis Medi.

Gwnewch gais nawr i gael cefnogaeth ar gyfer creu diwylliant sy'n ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, olwynio, sgwtera neu feicio. 

Share this page

Cymerwch gip ar y newyddion diweddaraf gan Sustrans yng Nghymru