Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 19th JULY 2022

Cyswllt Cil-y-Coed: Hen reilffordd filwrol i gael ei drawsnewid

Mae’r cyfnod cyntaf o brosiect i drawsnewid gyn-reilffordd filwrol yn llwybr cyd-ddefnyddio a theithio llesol wedi dechrau. Yn cydweithio â Chyngor Sir Fynwy, mae Sustrans Cymru wrthi’n ceisio dod â’r llwybr cerdded a beicio yma’n fyw. Bydd hyn yn arwain at gysylltiadau rhwng tref Cil-y-Coed, Porthysgewin, Parc Castell Cil-y-Coed, a’r rhwydwaith o ffyrdd teithio llesol sy’n bodoli.

Bydd yr hen reilffordd Y Weinyddiaeth Amddiffyn am gael ei drawsnewid i fod yn llwybr teithio llesol sy'n cysylltu cymunedau. (Llun gan: Eni Hansen-Magnusson)

Bydd Cyswllt Cil-y-Coed yn gweld cyn-reilffordd filwrol yn cael ei ail-bwrpasu er mwyn dod yn rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, cynllun a deilliwyd o’r chwant i annog mwy o deithio cynaliadwy i Gastell Cil-y-Coed a’i barc.

Bydd y rhan gyntaf o’r ffordd yn rhedeg o’r Prosiect Cornfield – menter o dan arweiniad y gymuned a wnaeth adfer prysgdir lleol er mwyn ei droi’n man gwyrdd – i’r Parc Castell Cil-y-Coed godidog.

 

Cysylltu cymunedau trwy deithio llesol

Yn y pen draw, y nod yw cael llwybr cerdded a beicio sy’n rhedeg o Gil-y-Coed i Grug, yn cysylltu â Phorthysgewin, sy’n cynnig i bobl ffordd wahanol i’r ffordd bresennol sydd â lot o draffig.

Fel esiampl o gydweithio, cafodd cynlluniau ei greu efo’n partneriaid, Cyngor Sir Fynwy a Rheilffordd Gwili, er mwyn adfer y rheilffordd ddiddefnydd.

Ar ôl ennill cyllid gan Gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, mae ymchwiliad ar y safle a’r gwaith dylunio wedi datblygu.

Mae awgrymiadau’r cynllun yn ceisio cadw a gwella’r coridorau gwyrdd wrth gynnal mynediad diogel i bob defnyddiwr.

Dywedodd Rheolwr Datblygiad Rhwydwaith, Gwyn Smith:

“Roedd gwarediad y rheilffordd yn ymdrech tîm rhagorol gan nifer o bartneriaid gwahanol.

“Daeth perchnogion busnesau lleol, Wildwood Ecology, tîm cynhaliaeth Cyngor Sir Fynwy, Rheilffordd Gwili a Barretts Railway Contractors i gyd at ei gilydd, yn gadael man wych er mwyn adeiladu’r ffordd newydd.

“Mae Sustrans Cymru wir yn blês bod y rheilffordd am gael ei ail-ddefnyddio, a bod ffordd teithio llesol newydd am gael ei greu o ganlyniad i gydweithio.”

 

Proses gofalus

Y peth cyntaf i’w wneud oedd clirio’r tyfiant, er mwyn i’r rheilffordd cael ei symud gan Gyngor Sir Fynwy.

Nesaf oedd y dasg gofalus o ddatgymalu a chludo’n ofalus iawn y traciau i Gaerfyrddin er mwyn cael ei ail-ddefnyddio gan Reilffordd Gwili, jobyn cymhleth iawn o ganlyniad i’r ystyriaeth angenrheidiol ar ei heffaith ar ecoleg yr ardal.

Yn siarad ar ran Rheilffordd Gwili, dywedodd Phil Sutton:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i Sustrans Cymru a Chyngor Sir Fynwy am adael i Reilffordd Gwili diogelu’r trac rheilffordd y gangen filwrol hanesyddol ar gyfer defnydd etifeddiaeth, wrth helpu’n gydamserol yn y prosiect cymunedol ar gyfer y llwybr cerdded a beicio.”

Mae’r trac nawr wedi’ symud yn gyfan gwbl, gan gynnwys holl drawstiau’r rheilffordd – roedd angen gofal mawr ar gyfer y gwaith yma o ganlyniad i’w gynnwys cemegol peryglus.

 

Y gorffennol yn chwarae rôl yn y dyfodol

Bydd rhai o’r trac gwreiddiol yn aros yn y man a’r lle, fel cydnabyddiaeth i etifeddiaeth y rheilffordd, ac yn ymddangos fel rhan o’r dyluniad terfynol – bydd hyn yn cyd-fynd â byrddau sy’n disgrifio hanes y man.

Bydd gwaith adeiladu’r llwybr newydd yn cychwyn yn ystod Hydref y flwyddyn hon, efo cynlluniau’n cael eu datblygu i barhau’r llwybr trwy Barc y Castell ac mewn i ganol dref Cil-y-Coed, gan sicrhau gwell mynediad at gyfleusterau lleol.

Mae’r rhan gyntaf o’r gwaith yma i ddod â Chyswllt Cil-y-Coed i fyw am gael ei gwblhau yn gynnar yn 2023, cyn i’r prosiect symud ymlaen i’w rhan nesaf ar gyfer ehangiad pellach.

 

Dysgwch fwy am ein gwaith yng Nghymru.

Darganfyddwch lwybrau'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru.

Share this page

Darllenwch fwy o newyddion a blogiau o Gymru