Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 10th FEBRUARY 2022

Sustrans Cymru’n croesawu Adolygiad Trafnidiaeth Gogledd Cymru

Mae Sustrans Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad yma gan Lywodraeth Cymru ac yn cefnogi’r argymhellion gan y Panel Adolygu Ffyrdd. Yn enwedig, bydd sefydliad Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn cynorthwyo’r gwellhad i opsiynau trafnidiaeth cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.

A woman cycling an e-bike in Barry

Mae argymhellion y Panel Adolygiad Ffyrdd yn ei wneud yn glir bod angen blaenoriaethu’r trawsnewidiad i ffwrdd o gludiant yng ngheir preifat tuag at drafnidiaeth lesol a chyhoeddus. ©photojB

Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid i ni gyflawni trawsnewidiad yn nhrafnidiaeth, a rydym yn blês i weld Llywodraeth Cymru’n dangos ymrwymiad ac i’w weld yn gwneud y newidiadau angenrheidiol yma i gyflawni Cymru gynaliadwy i bawb.

Rydym yn gwybod taw’r bobl fwyaf bregus a difreintiedig sy’n cyfrannu’r lleiaf ond yn dioddef y mwyaf o’r effeithiau negyddol o draffig yr hewlydd, er enghraifft safon aer gwael, perygl ar yr hewlydd, a mynediad gwael i wasanaethau.

Mae’r trawsnewidiad yma i ffwrdd o ddibyniaeth ar geir, felly, hefyd yn drawsnewidiad i ffwrdd o arwahaniaethu ac annhegwch, tuag at gymdogaethau gwell, gwyrddach, sy’n fwy diogel i fyw, gweithio a chwarae ynddi ar led Cymru.

Angen gweithrediad ar frys

Trafnidiaeth yw’r sector ail fwyaf yng Nghymru sy’n allyrru, efo allyriadau carbon yn aros yn uchel yn gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf wrth i sectorau eraill gweld gostyngiadau.

Mae angen gweithrediad ar frys arnom i gyrraedd targedau Gymru o ostyngiadau o 43% a 79% mewn allyriadau trafnidiaeth erbyn 2030 a 2050.

Mae argymhellion y Panel Adolygiad Ffyrdd yn ei wneud yn glir bod angen blaenoriaethu’r trawsnewidiad i ffwrdd o gludiant yng ngheir preifat tuag at drafnidiaeth lesol a chyhoeddus.

Mae’n hefyd yn eglur bod adeiladu ffyrdd ymhellach yn niweidiol i bobl a’r blaned, ac mae argymhellion y Panel Adolygu Ffyrdd yn ei wneud yn glir bod rhwydwaith trafnidiaeth gyfun a chynaliadwy yn bosib ar gyfer Cymru.

 

Fuddsoddiad penodol a mentrus

Trwy fuddsoddiad penodol a mentrus mewn cynlluniau sy’n arddangos yr effaith cymdeithasol ehangach o foddau o drafnidiaeth gynaliadwy ar gymundodau, dylwn weld yn ymarferol y diwedd i brif gynlluniau adeiladu ffyrdd.

Mae Sustrans Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru, y Panel Adolygu Ffyrdd a phob partner i greu bywydau hapusach ac iachach yng Nghymru.

Rydym am barhau i’w wneud yn haws i bobl cerdded, olwyno a beicio, gan gefnogi ymdrechion i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth ddiogel ac iach ar gyfer Cymru.

 

Darganfod mwy am ein gwaith yng Nghymru.

Share this page

Mwy o newyddion o Gymru